Dysgwyr yn dathlu llwyddiant ym Mhencampwriaethau Sgiliau Coginio Cymru

Roedd cynrychiolwyr o Goleg y Cymoedd ynghyd â rheolwyr, mentoriaid a darlithwyr o golegau eraill ymhlith y rhai a fynychodd Gynhadledd Genedlaethol ColegauCymru ar Addysgu a Dysgu yn gynharach yn y mis. Cynhaliwyd y gynhadledd, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, yn Theatr Hafren, Y Drenewydd, a’r nod oedd rhannu canlyniadau eu hymchwil, yn sgil mabwysiadu dull ar sail tystiolaeth o fynd ati i addysgu a dysgu. Mae’r sector wedi derbyn cymorth sylweddol gan Gangen Ansawdd ac Effeithiolrwydd Polisi Llywodraeth Cymru. Arian o Gronfa Llywodraeth Cymru ar Wella Ansawdd (QIF) a alluogodd y colegau i gynnal arbrofion â chymorth.

Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd fel arbrofion â chymorth, yn canolbwyntio ar y sialensiau sy’n wynebu’r sector addysg drwyddi draw ac roedd yn cynnwys asesiad cymheiriaid, hunan-asesiad a gwahanol ddulliau o gynnig adborth, dulliau gweithredol o ddysgu a sicrhau bod pob dysgwr yn cael eu hymestyn a’u herio i gyflawni eu potensial, datblygu llythrennedd, rhifedd ac uwch sgiliau meddwl, technoleg teclynnau symudol a dysgu mewn ‘ystafell ddosbarth ar ffurf dysgu cyfunol’ (‘flipped classroom’).

Dywedodd Julie lewis, Cydlynydd Rhwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru a threfnydd y gynhadledd: “Cryfder allweddol y mentrau hyn ydy bod systemau ac arferion yn gwella yn gyffredinol ar hyd a lled y colegau, gydag uwch reolwyr, penaethiaid adran, mentoriaid a thiwtoriaid i gyd yn gweithio i gyflawni’r un nod.

Mae colegau nawr yn rhannu’r gwersi y maen nhw wedi’u dysgu drwy set newydd o adnoddau sy’n cynnwys: Pecynnau cymorth ar gyfer rhifedd ac asesu a chynllun marcio llythrennedd, llyfrynnau astudiaeth achos, fideos o arferion dosbarth a llwyfan ar-lein ar gyfer adnoddau a chynhadledd a gweithdai i rannu a dosbarthu arferion.

Dywedodd John Phelps, y Dirprwy Bennaeth Addysgu a Dysgu: Un o ddatganiadau gweledigaeth Coleg y Cymoedd ydy cael ein hystyried yn ddarparwr addysgu, hyfforddiant a dysgu rhagorol. O gofio’r pwynt allweddol hwn, un o’n prif flaenoriaethau ydy cynnig profiad ardderchog i’n dysgwyr drwy amrediad o ddulliau addysgu, dysgu ac asesu; dulliau sydd wedi’u hymgorffori yn eu gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technegau addysgu ar sail tystiolaeth gadarn.

Er mwyn datblygu ein dulliau rydyn ni wedi gweithio’n uniongyrchol mewn partneriaeth gyda thri o’r colegau AB eraill ar draws De Ddwyrain Cymru. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i wella’r addysgu a’r dysgu a’r dulliau asesu yn barhaus er mwyn sicrhau bod profiad dysgwyr Coleg y Cymoedd y gorau y gall fod. Mae rhannu arferion ar draws cymunedau dysgu proffesiynol ehangach, a gyda nhw, yn cyfoethogi profiadau ein dysgwyr.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau