Cynhaliodd Coleg y Cymoedd ei gystadleuaeth ryng-golegol gyntaf, gan gystadlu yn erbyn dysgwyr o Goleg Gwent.
Teithiodd dysgwyr Coleg Gwnet i gampws Aberdâr i gymryd rhan yn y gystadleuaeth mewn ystod o bynciau yn cynnwys, Trin Gwallt a Harddwch, Gwaith Plymio a Gosod Trydan. Ar anogaeth Steve Llewellyn, Pennaeth Ysgol Adeiladu a Thrin Gwallt a Harddwch Coleg Gwent, a chyn gyflogai yn y coleg, y sefydlwyd y gystadleuaeth.
Dywedodd Steve: “Dw i’n credu bod dysgwyr yn ennill profiad gwerthfawr wrth gymryd rhan mewn cystadleuthau fel hyn ac yn sicr, mae’n eu paratoi ar gyfer cyflogaeth. Gan fod gen i gysylltiadau yng Ngholeg y Cymoedd, roedd yn gyfle da i sefydlu’r gystadleuaeth a fydd yn ddigwyddiad blynyddol gobeithio.â€
Yn y salonau trin gwallt a harddwch cafodd y dysgwyr y dasg o greu ‘delwedd gyflawn gyda’r nos i ferched’. Roedd bwrlwm o weithgaredd yn y salonau drwy gydol y gystadleuaeth yn creu steiliau gwych, ynghyd â’r dysgwyr harddwch a gynlluniodd celf ewinedd ffantastig a thrawsnewid eu modelau..
Bu’r beirniaid, arbenigwyr yn eu meysydd, yn arsylwi’r dysgwyr a chynnig sylwadau ar y steiliau gorffenedig oedd yn gain ac o safon uchel.
Enillwyr: Trin Gwallt 1af Coleg Gwent, 2ail Coleg y Cymoedd, 3ydd Coleg Gwent. Harddwch 1af Coleg y Cymoedd, 2ail Coleg y Cymoedd, 3ydd Coleg y Cymoedd. Ewinedd 1af Coleg Gwent 2ail Coleg Gwent, 3ydd Coleg Gwent. Rhoddwyd y gwobrau gan NSI Nails, Goldwell Hair, Dennis Williams Hair a Dermalogica Beauty.
Dywedodd Dean Poole, Perchennog Salon / Beirniad AHT a gyflwynodd y wobr i’r enillwyr: â€Roedd safon y gystadleuaeth yn ardderchog; defnyddiodd y dysgwyr eu dychymyg a’u sgiliau i greu steiliau anhygoel, dwi’n sicr y byddan nhw’n llwyddo yn y diwydiant hwnâ€.
Y dasg i’r dysgwry gwaith plymwr oedd creu cylched peipen 15mm, gan gynnwys ‘passovers’ eitha cymhleth a thasg dysgwyr gosod trydan oedd weirio prif gylched cylch a chylched goleuo.
Craig Huckle o City Plumbing oedd yn goruchwylio’r tasgau adeiladu a gwelodd waith o safon proffesiynol. Dywedodd Craig: “Dw i wrth fy modd bod City Plumbing wedi gallu cefnogi’r digwyddiad; roedd safon y gwaith yn nodedig. Bydd y sgiliau y mae’r dysgwyr hyn wedi eu dysgu yn ystod eu cyfnod yn y coleg yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ac yn eu galluogi i sefydlu eu busnesau eu hunainâ€.
Ar ôl llawer o drafod cyhoeddwyd enwau’r enillwyr terfynol a chyflwyno gwobrau penodol yr oedd City Plumbing Supplies wedi’u rhoi.
Enillwyr: Gwaith Plymwr 1af Coleg Gwent, 2ail Coleg y Cymoedd, 3ydd Coleg y Cymoedd. Gwaith Gosod Trydan 1af Coleg Y Cymoedd, 2ail Coleg Gwent. 3ydd Coleg Gwent
Wrth ddod â’r gweithgareddau i ben a chyflwyno’r cwpan i Goleg Gwent, fe wnaeth Mark Thomas, Cyfarwyddwr y Campws, longyfarch y dysgwyr a diolch i’r staff am gefnogi’r gystadleuaeth. Diolchodd hefyd i ddysgwyr y cwrs Arlwyo oedd wedi paratoi a gweini lluniaeth ysgafn ar gyfer y digwyddiad.