Dysgwyr yn Ne Cymru yn anelu am y sêr

Bydd cyfle i ddysgwyr yn Ne Cymru sydd am fod yn rhan o’r diwydiant cludo teithwyr awyr gael priofiad uniongyrchol o fod yn griw gweini mewn awyren, diolch i’r cyfarpar arloesol diweddaraf y mae Coleg y Cymoedd wedi buddsoddi ynddo.

Bydd replica o gaban teithio ar gampws Ystrad Mynach yn darparu profiad o weithio mewn awyren go wir ar gyfer dysgwyr ar y cwrs Teithio a Chriw Gweini mewn Awyren.

Bydd y ffug gaban awyren yn cynorthwyo ochr ymarferol y cwrs addysg bellach, yn herio dysgwyr i ddelio â sefyllfaoedd go wir a allai ddigwydd 35,000 o droedfeddi uwchben y ddaear. Mae’r dysgwyr yn defnyddio chwarae rôl i ddysgu am iechyd a diogelwch y teithwyr a sut i ymateb yn briodol mewn argyfwng. Mae hyn, nid yn unig yn helpu codi hyder y dysgwyr ond hefyd mae’n rhoi sgiliau gwasanaeth cwsmeriad iddyn nhw, sgilliau sy’n hanfodol i yrfa yn y maes.

Mae’r Coleg wedi canmol y ffug gaban newydd am fod mor realistig ac yn cynnig yr offer diweddaraf i’r garfan newydd o ddysgwyr i allu dysgu aynddo.

Dywedeodd Gabriella Anderson, tiwtor y cwrs yng Ngoleg y Cymoedd, “Rydyn ni’n gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r caban newydd ar y cwrs. Byddwn yn defnyddio chwarae rôl a sefydlu ffug deithiau a bydd y dysgwyr yn cael profiad pleserus wrth baratoi am y teithiau go wir.

“Mae llawer o ddysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus fel un o’r criw gweini gyda chwmnîau awyrennau enwog, felly mae’r cwrs hwn, sy’n roi syniad realistig iddyn nhw o’r diwydiant, yn un gwerthfawr iawn ac yn rhoi mantais iddyn nhw wrth hyfforddi gyda’u darpar gyflogwyr.”

Ers 2010, y diwydiant teithio a thwristiaeth ydy’r sector sy’n tyfu gyflyma o ran cyflogaeth yn y DU ac erbyn 2025 amcangyfrifir y bydd yn werth dros £257 biliwn. Yn Ne Cymru’n benodol, mae teithiau ychwanegol sydd wedi’u trefnu’n ddiweddar o Faes Awyr Caerdydd yn mynd i fod yn hwb i dwristiaeth yn y ddinas a chynyddu cyfleoedd gwaith sydd ar gael. Mae hyn felly yn gwneud y datblygiadau yng Ngholeg y Cymoedd o ran addysgu gyda’r cyfarpar mwyaf diweddar yn arbennig o amserol.

Mae’r hyfforddiant dwys ar y cwrs Criw Gweini mewn Awyren hefyd yn cynnwys cymorth cyntaf yn y gymuned, diffodd tân, gwacáu awyren mewn argyfwng ar sleid achub a sgiliau iaith dramor. Roedd y cwrs ymhlith y rhai cyntaf o’u bath i gael ei gynnig yn ardal y Cymoedd.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd, “Rydyn ni wrth ein bodd gyda llwyddiant y cwrs Teithio a Chriw Gweini mewn Awyren ers iddo gychwyn yn 2012. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfarpar gorau ar gyfer ein dysgwyr i gynorthwyo’u dysgu yn enwedig i gychwyn gyrfa mewn diwydiant sy’n tyfu mor gyflym. Mae hwn yn gwrs unigryw yn yr ardal felly, mae’n bwysig ein bod yn gallu rhoi’r llwyfan gorau i’n dysgwyr gael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau