Dysgwyr yn newid gêr yn y ganolfan newydd trin cerbydau gwerth miliynau

Mae cwblhau canolfan gwerth milynau o bunnodd ar gyfer Hyfforddiant Trin Cerbydau Modur yn Ystrad Mynach yn golygu bod dysgwyr yr ardal yn cael defnydd o ddatblygiadau mwyaf blaengar y diwydiant yn Ne Cymru.

Bydd yr adnodd gwerth £2.1 miliwn ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd yn cwrdd â galwadau cynyddol yn y diwydiant am gyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf. Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys adnoddau blaengar y diwydiant ar gyfer trwsio cerbydau modur, gweithdai cynnal a chadw yn ogystal â chyfleusterau i ddiagnosio a phrofi ar gyfer 60 o dysgwyr bob blwyddyn.

Gallai amryfal gyfleoedd buddsoddi yn Ne Cymru – yn cynnwys y posiblrwydd cryf mai San Tathan fydd lleoliad canolfan gynhyrchu nesaf Aston Martin, buddsoddiad Ford o £181 miliwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a datblygiad ffatri rhannau moduron gwerth miliynau o bunnoedd yng Nglyn Ebwy, olygu y bydd y diwydiant cerbydau modur yn ehangu’n sylweddol yn y rhanbarth.

Bydd dysgwyr amser llawn sydd ar y cwrs Cerbydau Modur yng Ngholeg y Cymoedd ar hyn o bryd nid yn unig yn perffeithio’u crefft yn yr adnodd newydd ond mewn sefyllfa i fod yn rhan o weithlu potensial enfawr yn Ne Cymru.

Roedd Julie James, AC, Y Diprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, ynghyd â’r staff yn bresennol yn agoriad swyddogol y safle yn Ystrad Mynach.

Meddai’r Dirprwy Weinidog yn seremoni, “Roeddwn i wrth fy modd i fod yn bresennol yn agoriad swyddogol Canolfan Ragoriaeth Hyfforddiant Trin Cerbydau Modur ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd a hoffwn ddiolch i bawb a gwrddais yno am eu croeso cynnes.

“Heddiw, dw i wedi gweld drosof fy hunan, ymrwymiad y coleg i hyfforddi dysgwyr. Drwy’r adnodd newydd hwn gall Coleg y Cymoedd ddatblygu gweithlu medrus mewn ardal uchel ei hamddifadedd a chaniatâu i unigolion ennill y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant ceir”.

Bydd dysgwyr iau’r coleg yn elwa o’r cyfleusterau uchel eu safon masnachol drwy gyfranogiad y coleg yn y Rhaglen Gyswllt Ysgolion. Mae’r cynllun yn golygu y gall disgylion o ysgolion cyfagos fynychu campws Ystrad Mynach un diwrnod yr wythnos ar gyfer eu cymhwyster lefel 1 ar y cwrs, sydd hefyd yn cynnig strand Gymraeg i’r cwrs. Mae rhaglen Gyswllt Ysgolion wedi bod yn arbennig o fuddiol yn y gorffennol i ddisgyblion ysgolion uwchradd sydd wedi dewis llwybr galwedigaethol, gyda 40 o ddisgyblion o’r rhaglen Gyswllt Ysgolion yn cymryd rhan yn y cwrs ar hyn o bryd.

Yn flaenorol, roedd yr adnodd wedi’i leoli ar gampws Rhymni ond bydd y lleoliad newydd hefyd yn lleihau amser teithio i nifer o ddysgwyr ar y cwrs. Dywedodd Christopher Phillips, 27 oed o Gilfynydd, “Yn fy mlwyddyn gyntaf ar y cwrs, roedd yn cymryd tua 45 munud i fi gyrraedd campws Rhymni. Roedd yn aberth ron i’n fodlon ei gwneud gan mod i wrth fy modd ar y cwrs, ond nawr dim ond 12 munud dwi’n ei gymryd i gyrraedd campws Ystrad Mynach. Nid hynny’n unig, ond y rhain ydy’r cyfleusterau gorau dw i erioed wedi’u profi.

“Dychwelais at ddysgu ar ôl gadael byd addysg pan on i’n 18 oed i dreulio amser gyda fy nheulu, ac mae’r coleg wedi bod yn oddefgar ac yn deall fy anghenion gyda mab ifanc. Ar ôl imi gwblhau’r cwrs fy ngobaith ydy ymuno â garej un o’r delwyr mawr. Fy mreuddwyd ydy gweithio i Land Rover.”

Ar achlysur dathlu cwpla’r gwaith, dywedodd y Pennaeth, Judith Evans, “Rydyn ni wrth ein bodd bod Canolfan Ragoriaeth Hyfforddiant Trin Cerbydau Modur wedi’i chwblhau ac mae ein dysgwyr eisoes yn elwa o’n hyfforddiant a’n cyfarpar arbenigol. Rydyn ni wedi ymroi i gyflenwi’r hyfforddiant, yr addysg a’r cyfleoedd gyrfaol diweddaraf i bobl ifanc yn y Cymoedd.

“Gyda datblygiadu mawr, pwysig yn y diwydiant cerbydau modur ar y gorwel yn Ne Cymru, mae’n hanfodol ein bod yn gallu cynnig y gweithlu medrus iawn sydd ei angen ar y diwydiant ac mae Coleg y Cymoedd wedi ymroi i sicrhau bod ein dysgwyr ar y blaen pan fydd cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau yn dod i’w rhan.”

Ar Tachwedd 17, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau