Gwnaeth dau dîm o fyfyrwyr Coleg y Cymoedd argraff fawr ar banel o farchnatwyr blaengar Cymru gyda’u cynnig busnes yn Brolio/The Pitch, sialens a osodwyd gan Gynaliadwyedd Cymru, Sefydliad Marchnata Siartredig a Syniadau Mawr Cymru.
Cystadlodd y timoedd yn erbyn cyd fyfyrwyr marchnata o golegau a phrifysgolion ar draws Cymru a gyflwynodd eu syniadau i banel o arbenigwyr. Cafodd y sialens gymorth ac arian gan Lywodraeth Cymru a’r bwriad ydy ysbrydoli pobl ifanc i gychwyn eu busnesau eu hunain neu ystyried gyrfa ym maes marchnata.
Rhoddwyd brîff manwl i’r myfyrwyr a ddewiswyd i gynrychioli’r coleg gan Gynaliadwyedd Cymru a gofynnwyd iddyn nhw ystyried cyllidebau, offer negeseua a marchnata yn eu cyflwyniadau, er mwyn iddyn nhw ddeall yr hyn ydy busnes go iawn. Rhoddwyd y myfyrwyr drwy broses dewis dra manwl gan Bob Tod, Hyrwyddwr Menter Coleg y Cymoedd, ar gyfer y sialens.
Enw tîm myfyrwyr BTEC Busnes Coleg y Cymoedd, sef Rhys Llewellyn, Josh Jarrett a Laura Averiss, oedd “Team Triumphâ€. Cystadlodd Connor Gratton a Carys Reville dan yr enw “Team Absoluteâ€.
Cyflwynodd y ddau dîm ymgyrchoedd rhagorol ar wahanol ddulliau o ddelio â Chynaliadwyedd. Cyflwynodd Team Absolute eu cysyniad arloesol o dderbyniadau ar-lein, a chyflwynodd Team Triumph eu syniad o fusnes offer swyddfa moesegol.
Dywedodd Connor Gratton o Team Absolute: “Fe wnes i wir fwynhau yr holl ddigwyddiad; enilles i lawer o hyder o siarad ag ystafell llawn o ddieithriaid. Bydd y profiad hwn yn werthfawr iawn erbyn yr adeg pan fydda i’n gwneud cais am le mewn prifysgol, i’w gynnwys yn fy nghais ac yn helpu gyda’r cyfweliadau.â€
Dywedodd Anne Godfrey, Prif Weithredwr Y Sefydliad Marchnata Siartredig: “Mae Brolio/The Pitch y CIM yn gyfle gwych i fyfyrwyr AB ac AU i ymarfer eu sgiliau marchnata mewn amgylchedd cystadleuol. Fel o’r blaen, ron i wedi fy synnu gan yr arloesedd, yr angerdd a sgil pawb, er gwaethaf eu nerfau! Gobeithio bod y myfyrwyr wedi dod i ddeall yr hyn mae’n ei olygu i ddehongli a chyflenwi brîff, pitsio i gleientiaid sy’n gofyn llawer a sicrhau busnes. Bydd cymryd rhan yn Brolio yn codi eu hyder, ychwanegu at eu CV a gwella eu cyflogadwyedd.â€
Dywedodd Steve Andrews Darlithydd Marchnata yng Ngholeg y Cymoedd: “Roedd hyn yn brofiad amhrisiadwy sydd wedi helpu’r myfyrwyr i ddeall marchnata. Mae Brolio/The Pitch yn gystadleuaeth gwerth chweil gan ei bod yn cael y myfyrwyr i gymhwyso damcaniaethau a chysyniadau i sefyllaoedd ymarferol. Does gen i ddim amheuaeth y bydd hyn yn helpu eu datblygiad nid yn unig ym maes marchnata ond ym myd busnes yn gyffredinol. Gweithiodd y myfyrwyr i gyd yn galed iawn a mynd yr ail filltir i roi cyflwyniad rhagorol i safon a oedd yn glod iddyn nhw eu hunain a’r coleg.â€
Ychwanegodd: Dw i’n falch iawn ohonyn nhw i gyd am eu hymdrech a’u hymrwymiad.†Cynhelir dathliad ar gyfer y myfyrwyr gyda Phennaeth Coleg y Cymoedd , Judith Evans.
Dywedodd Rhys Llewellyn un o’r myfyrwyr ar dîm Triumph: “Roedd hwn yn gyfle gwych a do’n i ddim mor nerfus wrth bitsio ag y tybiais! Bu’r cyfle i rwydwethio a siarad ag entrepreneuriaid eraill yn ffantastig; baswn i’n argymell y profiad i bawb.â€
Ar y panel beirniad roedd Jade Tambini, Rheolwr Marchnata DS Smith Recycling, Rhodri Thomas, Rheolwr Hyfforddiant a Datblygiad Cynnal Cymru – Sustain Wales ac Angela Gidden MBE, y cynllunydd enwog.