Egin entrepreneuriaid yn paratoi at sialens adwerthu’n y ddinas

Fel rhan o sialens entrepreneuriaeth, mae tri dwsin o fyfyrwyr De Cymru ar fin ymgymryd â her fwyaf eu bywyd hyd yn hyn wrth baratoi i gystadlu am werthiant yn ystod un o gyfnodau prysuraf Caerdydd.

Mae’r entrepreneuriaid ifanc brwd wedi cyrraedd rownd derfynol Mentro i’r Farchnad (Trading Places), sialens wedi’i chynllunio i annog entrepreneuriaeth ymysg myfyrwyr colegau yn Ne Ddwyrain Cymru, gan gynnig gwir flas ar fyd busnes.

Dros dridiau yn arwain at y Nadolig, mae’r myfyrwyr o Goleg y Cymoedd, Coleg Penybont, Coleg Gwent, Coleg Merthyr Tudful, Coleg Catholig Dewi Sant a Choleg Caerdydd a’r Fro yn cymryd rhan mewn tri diwrnod o brofiad gwir flas ar fusnes fydd yn arwain at redeg eu siop godi eu hunain yng nghanolfan siopa ‘Adran Forgan’ yng nghanol dinas Caerdydd.

Ym mis Tachwedd, bu’r chwech myfyriwr terfynol o bob coleg yn cystadlu yn erbyn 120 o fyfyrwyr eraill a chael eu hasesu gan entrepreneuriaid ac arbenigwyr busnes o ymgyrch ‘Syniadau Mawr Cymru’ Llywodraeth Cymru ym mhencadlys Cymru EE yn Merthyr Tudful.

Mae’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd rhwng y 15fed â’r 17eg o Ragfyr. Y chwech o fyfyrwyr o Goleg y Cymoedd ydy Rebecca Cope, Celfyddydau Perfformio; Alex Davies, Chwaraeon; Efan Davies, Chwaraeon; Natasha Parry, Astudiaethau Busnes; Tahlia Taylor, Lefel A a Mali Lewis, Lefel A

Dywedodd Bob Tod, swyddog Menter, Cyflogadwyedd a Sgiliau Coleg y Cymoedd: “Rwyf wrth fy modd gyda’r tîm sy’n cynrychioli Coleg y Cymoedd eleni. Fel mewn blynyddoedd blaenorol mae’r dysgwyr wedi codi i wynebu her Mentro i’r Farchnad. Maen nhw wedi bod yn wych yn ystod y diwrnod dewis ac wedi gwir haeddu eu lle yn y digwyddiad mawreddog nesaf. Maen nhw wedi’u dewis o dri champws o’r coleg ac rwy’n siŵr y bydd y colegau a’r campysau unigol yn ymfalchïo yn eu llwyddiant. Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda nhw i gyd yn ystod y rownd derfynol ym mis Rhagfyr a dw i’n gwybod y bydd yn brofiad bythgofiadwy iddyn nhw.”

“Rydyn ni yn ein pedwaredd blwyddyn nawr ac mae Mentro i’r Farchnad wedi datblygu’n enghraifft genedlaethol o sut i ymgysylltu â phobl ifanc â’r potensial i ddod yn entrepreneuriaid y dyfodol,” meddai Chris Webb, Cydlynydd Addysg Bellach Campws Cyntaf, sy’n cydlynu’r digwyddiad.

“Mae cystadleuwyr y rownd derfynol yn barod wedi dangos eu sgil entrepreneuraidd o flaen panel entrepreneuriaid ac arbenigwyr Syniadau Mawr Cymru a nawr mae’n nhw’n mynd ymlaen i rhoi’r cyfan ar waith mewn awyrgylch busnes go iawn.”

Dros y tridiau bydd y myfyrwyr yn treulio amser ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn dysgu am wasanaeth cwsmer, sut i roi cynlluniau busnes at ei gilydd, cyrchu cynnyrch ac yna’u gwerthu i’r cyhoedd mewn siop fydd wedi’i roi gan ‘Adran Forgan’ canol dinas Caerdydd yn ystod un o’r cyfnodau prysuraf sy’n arwain at y Nadolig.

“Bydd yn brofiad dwys iawn iddyn nhw i gyd, ond mi fyddan nhw’n dysgu llawer gan y mentoriaid a’r entrepreneuriaid yn ogystal a dysgu am eu menter entrepreneuraidd eu hunain wrth gystadlu am y wobr derfynol,” ychwanegodd Chris.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau