Egin wleidyddion Coleg y Cymoedd yn creu argraff ar Aelod o’r Cynulliad

Newidiodd grŵp o diwtoriaid o Gymoedd De Cymru yn ysbrydion erchyll er mwyn cymryd rhan yn Ras y Sombis i godi arian at achosion da.

Meddiannodd 15 tiwtor o Goleg y Cymoedd Gampws Aberdâr ac achosi hafoc yno, gan codi ofn ar lawer o ddysgwyr ar y ffordd. Ymunodd 30 o ddysgwyr anturus â’r ras hefyd i godi arian ar gyfer elusen.

Rhedodd y dysgwyr ar hyd cwrs a oedd yn mynd o gwmpas Campws Aberdâr tra gwelwyd y Sombis o diwtoriaid yn codi ofn ar bawb yn ystod y ras, yn union fel golygfa mewn ffilm sombis ‘Hollywoodaidd’.

Trefnwyd y digwyddiad brawychus gan ddysgwyr cyrsiau cyfrifiaduraeth, gwaith plymwr a gwaith trydan Aberdâr. Bydd yr elw yn mynd at elusen, ond bydd trefnu’r achlysur hefyd yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer cwrs Bagloriaeth Cymru y dysgwyr.

Yn ôl Matthew Bullock, 19 oed, sy’n astudio Lefel 3 Cyfrifiadureg yng Ngholeg y Cymoedd, “Wnes i wir fwynhau trefnu’r ras Sombi. Roedd yn ymarfer da ar gyfer adeiladu tîm gyda fy nghyd-ddysgwyr, gan mai dim ond ym mis Medi roeddwn i wedi cychwyn yn y coleg. Bu fy nhiwtor, Michaela Jones, yn wych yn ein goruchwylio, er mwyn sicrhau ein bod yn trefnu’r digwyddiad yn dda.”

Dywedodd Abi Jones, 17 oed o Berthcelyn, sy’n astudio Lefel 3 Cyfrifiadureg: “Roedd Trefnu a chynnal y ras sombi yn waith caled ond roedd yn werth y drafferth. Bu gwaith fy nhiwtor yn amhrisiadwy. Er bod i hyn elfennau o ofn a dychryn, fe hoffwn i fod yn rhan o ddigwyddiad tebyg bob blwyddyn.”

Cafodd y tiwtoriaid eu gweddnewid yn fodau amhosibl i’w hadnabod gan grŵp o ddysgwyr y cwrs coluro ar gyfer y cyfryngau, sydd cyn hyn wedi gweithio ar gynyrchiadau i’r BBC a S4C.

Ar ôl iddo orffen y Ras Sombi, dywedodd Cyfarwyddwr Campws Aberdâr, Mark Thomas: “Roedd e’n ddigwyddiad gwych! Dylai’r dysgwyr drefnodd y cyfan fod yn falch o’u gwaith. Mae hyn nid yn unig yn help i’w dysg, ond hefyd mae wedi codi arian at achos da, ac yn llwyddiant mawr.

Trefnwyd y digwyddiad llawn arswyd gan ddysgwyr ar gyrsiau cyfrifiaduraeth, gwaith plymwr a gwaith trydan ar gampws Aberdâr a gafodd y dasg o drefnu gwahanol agweddau o’r digwyddiad.

Tasg y ‘plymwyr’ a’r ‘trydanwyr’ oedd cynllunio’r llinell derfyn a darparu lluniaeth. Llwyddon nhw’n wych yn eu tasg gan ddarparu bwa trawiadol o falŵns a losins i atgyfnerthu egni’r rhai oedd wedi cwblhau’r cwrs anodd a chaled.

Roedd dysgwyr cyfrifiaduraeth yn gyfrifol am gynllunio logisteg y digwyddiad lle roedd angen menter ac egni. Cafodd y dysgwyr fân gelfi gan sefydliadau lleol er mwyn sicrhau’r effaith cyflawn. Ar y diwrnod, roedd angen stamina corfforol i osod y cwrs oedd yn cynnwys pyllau o fwd, llithren ddŵr a thwneli i ddal y rhedwyr wrth iddyn nhw geisio osgoi’r sombis. Ar ôl y digwyddiad, aeth y dysgwyr ati i glirio’r rhwystrau a dychwelyd y cyfarpar i’r rhai oedd wedi bod mor garedig â’u rhoi ar fenthyg iddyn nhw. Er bod yr arian a godwyd yn mynd at elusennau, bydd y broses o drefnu’r digwyddiad yn cyfrif tuag at gymhwyster Bagloriaeth Cymru y dysgwyr.

Oherwydd llwyddiant y Ras Sombi eleni, mae sôn y gwelir cynnwys digwyddiadau tebyg ar gampws Nantgarw a champws Ystrad Mynach.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau