Enillwyr o’r Coleg yn Ymweld â Llundain

Bu pobl ifanc a chyflogwyr o bob cwr o Dde Cymru yn dathlu llwyddiant y Prentisiaid TG mewn seremoni graddio i ddynodi eu campau.

Derbyniodd naw prentis, sydd wedi cwblhau Prentisiaeth TG Lefel 3 drwy Goleg y Cymoedd ac Adran Hyfforddi Acorn, eu tystygrifau gan un o Gynghorwyr Rhondda Cynon Taf, Jill Bonetto, ar gampws y coleg yn Nantgarw.

Daeth y prentisiaethau i fodolaeth pan gynigwyd cyfle i symud myfyrwyr cyfredol ymlaen o Raglen ‘Llwybr i Brentisiaeth’ i safloedd cyflogedig drwy gontract Prentisaeth Acorn, sy’n cael ei drefnu drwy Lywodraeth Cymru a’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r rhaglen hon yn ddarpariaeth newydd y mae Acorn a Choleg y Cymoedd yn ei chyflenwi mewn partneriaeth. Roedd Coleg y Cymoedd yn darparu’r elfen seiliedig ar wybodaeth ‘oddi wrth y swydd’ yn y coleg, tra bod Acorn yn darparu’r elfen cymhwysedd ‘yn y swydd’ gyda chyflogwyr lleol, rhai fel Chad IT, Canolfan Chapter, Computer Recyclers UK, Ysgol Gyfun Oakdale, MPCT, Partners IT, Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf, a Chorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru.

Mae’r fenter wedi caniatáu i Brentisiaid ennill sgiliau bywyd a phrofiad ymarferol, tra’n gwella eu gobeithion gwaith hir-dymor, a bydd Acorn a’r Coleg yn ymestyn y bartneriaeth gyda charfan newydd o fyfyrwyr ym mis Medi 2014.

Yn ôl Craig Jones, prentis 20 oed o Donypandy, roedd y profiad wedi newid ei fywyd: “Dyma’r penderfyniad gorau wnes i erioed. Mae prentisiaeth yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau a hefyd yn rhoi sgiliau bywyd y byddwch chi eu hangen i weithio mewn busnes.

Cafodd Craig, gyda chefnogaeth Acorn, brentisiaeth yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, lle bu’n dysgu sut i ddatrys materion technegol a chefnogi’r ganolfan gyda’u gofynion TG ar gyfer prosiectau creadigol.

Yn ôl Craig: “Mae Chapter yn lle rhyfeddol ac rwy’n hoffi mynd i’r gwaith. Daw miloedd o bobl drwy’r drysau bob dydd ac mae pob math o weithgareddau’n digwydd, felly mae TGCh yn hanfodol i’r busnes.

“Cyn hyn, doedd gen i ddim gwybodaeth sut oedd rhwydweithiau yn gweithio a doeddwn i ddim yn hoff o siarad ar y ffôn. Erbyn hyn, rydw i wedi datblygu sgiliau rhwydweithiau TGCh a sut i ddatrys problemau, a rydw i’n siarad â phobl a’u cynorthwyo drwy’r dydd. Mae gen i fwy o hyder a rydw i’n llawer gwell bellach am ddatrys problemau

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau