Mae dau entrepreneur ifanc sy’n astudio yng Ngholeg y Cymoedd wedi ennill gwobr ‘Arian’ yn ddiweddar yng nghystadleuaeth Menter gyntaf Cystadleuaeth Sgiliau Cymru , a gynhaliwyd yn Academi Llandarcy Cyngor Castell Nedd Port Talbot.
Er bod Elinor Brewer, sy’n astudio Cwnsela a Lee Thomas Vowles o’r adran Diwydiannau Creadigol yn aelodau o Rwydwaith Edge y Coleg, dyma’r tro cyntaf iddynt weithio gyda’i gilydd.
Roedd y ddau ddysgwr yn cystadlu yn erbyn dysgwyr o Goleg Castell-nedd Port Talbot, Y Coleg Merthyr Tudful a Choleg Cambria ac er mai dim ond dau oedd yn eu tîm, dangoswyd eu craffter busnes a’u hyder ynghylch eu syniad sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae’r ddau ddysgwr yn rhedeg eu busnesau eu hunain wrth astudio yng Ngholeg y Cymoedd ac maent yn enghreifftiau o’r hyn y gellir ei gyflawni os byddwch benderfynol o ddilyn eich angerdd!