Mae staff a phrentisiaid adran gwaith plymwr Coleg y Cymoedd yn dathlu wrth i un o’u mysg ennill gwobr pen prentis Cymru.
Enillodd Scott Fuller, prentis yn ei ail flwyddyn yn astudio ar gampws Ystrad Mynach, yn erbyn cystadleuwyr o bob cwr o’r wlad i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU o Brentis y Flwyddyn dan nawdd cylchgrawn Heating Engineers Installers & Plumbers.
Yn rownd derfynol Cymru bu Scott, 18 oed o Dredegar Newydd, yn cystadlu yn erbyn prentisiaid o wyth coleg arall. Yn ystod gornest ddwys o bedair awr roedd rhaid i bob cystadleuydd osod system lawn ar gyfer cawod a boeler o fewn amser penodol. Yr hyn a enillodd teitl pen brentis gwaith plymwr Cymru i Scott yn y pen draw oedd ei sgiliau technegol a’r sylw manwl a dalodd i fanylion.
Yn dilyn ei lwyddiant yn y digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngoleg Gŵyr, Abertawe, bydd Scott nawr yn mynd yn ei flaen i gynrychioli ei wlad yn rowndiau terfynol y DU a gynhelir dros ddau ddiwrnod yn Cheltenham ar y 30ain o Ebrill.
Dwedodd Scott: “Mae’n deimlad grêt i gael fy newis. Roedd y gystadleuaeth yn un gref ond dwi’n meddwl bod y paratoi a wnes i, a’r cymorth dwi wedi‘i gael gan fy nhiwtoriaid, wedi talu ffordd.
“Mae’r gystadleuaeth yn golygu bod rhaid i mi weithio tu allan i fy nghwrs, fy lleoliadau gwaith a fy swydd rhan amser, ond mae’n werth e. Dwi’n mwynhau’r gwaith a gobeithio y bydd yn arwain at ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arna i i gychwynn fy musnes fy hun ar ôl coleg.â€
Fel Dysgwr Llwybr i Brentisiaeth, mae Scott yn rhannu ei amser rhwng dysgu yn y coleg ar gampws Ystrad Mynach a hyfforddi wrth weithio gyda chwmni Plymio Aqua Gas yn Nhrecelyn.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Scott yn glod i’r coleg, mae’n esiampl o sut gall gwaith caled a hyfforddiant pwrpasol ddarparu cyfleoedd galwedigaethol rhagorol a swyddi go wir ar gyfer dysgwyr mewn ystod o ddiwydiannnau a chrefftau cydnabyddedig. Dymunwn bob llwyddiant iddo yn y rowndiau terfynol cenedlaethol.â€