Eva Ali

Mam sy’n ffoadur o Syria ar ben y byd ar ôl mynychu coleg yng Nghymru 

Mae ffoadur a adawodd Syria ac a ddaeth i Gymru i chwilio am fywyd gwell yn dathlu pasio ei chwrs Criw Caban Awyr Lefel 2, tair blynedd ar ôl symud i wlad newydd a methu siarad dim Saesneg. 

Yn wreiddiol o Syria, symudodd Eva Ali i Gaerdydd dair blynedd yn ôl o Dwrci ar ôl gadael ei mamwlad oherwydd y rhyfela parhaus. 

Roedd hi’n benderfynol o greu gyrfa iddi hi ei hun, ac aeth ati i ddysgu Saesneg cyn gynted â phosibl a chofrestrodd i astudio am gymhwyster criw caban fel dysgwr aeddfed yng Ngholeg y Cymoedd. Roedd hyn i gyd wedi’i ysgogi gan ei chariad at deithio. Mae ei hymdrechion bellach wedi talu ar ei ganfed gan ei bod wedi sicrhau swydd lawn amser fel cynorthwyydd hedfan yn gweithio gyda ‘British Airways’. 

Gwnaeth Eva, a oedd yn gyflwynydd newyddion amlwg iawn yn Syria, y penderfyniad anodd i adael ei chartref a’i gyrfa i symud i Dwrci yn 2014 ar ôl ofni am ei bywyd ei hun oherwydd y gwrthdaro. Ar ôl clywed gan aelodau eraill o’r teulu a oedd wedi cael noddfa yng Nghymru am y caredigrwydd a’r cymorth a dderbyniwyd, cafodd ei hysgogi i ymuno â nhw ym mhrifddinas Cymru. 

Er na allai hi siarad dim Saesneg pan gyrhaeddodd y DU, a’i bod heb fod yn ymhél â byd addysg ers 20 mlynedd, gwrthododd Eva adael i unrhyw beth ei rhwystro rhag dilyn ei dewis yrfa. Cofrestrodd yn fuan i ddysgu Saesneg cyn dechrau ar ei chwrs criw caban lefel 2 yng Ngholeg y Cymoedd. Gyda’i Saesneg wedi gwella, fe wirfoddolodd ei hamser i Gyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd, gan gynnig cymorth gweinyddol a helpu i gyfieithu sawl iaith i’r Saesneg i ffoaduriaid eraill. 

Yn ôl Eva: “Pan symudais i Gaerdydd am y tro cyntaf, roeddwn i’n gobeithio cael cychwyn o’r newydd. Roeddwn i am ganfod ffordd i symud ymlaen yn fy mywyd. Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb dwfn mewn gwahanol wledydd a’u diwylliannau gwahanol, ac rwyf wrth fy modd yn teithio. Rwy’n siarad sawl iaith gan gynnwys Tyrceg, Arabeg, Cwrdeg a nawr, Saesneg hefyd, ac roeddwn i wir eisiau dilyn gyrfa a fyddai’n caniatáu i mi ymgorffori’r rhain mewn swydd broffesiynol. 

“Roedd dau ddegawd wedi mynd heibio ers i mi fod yn yr ysgol, felly, a minnau’n ddysgwr aeddfed, roeddwn yn bryderus iawn ynglŷn â dechrau yn y coleg, yn enwedig oherwydd nad ydy fy Saesneg cystal â hynny. Roeddwn yn poeni na fyddwn yn gallu deall yn iawn ac na fyddwn cystal ag eraill ar y cwrs ond roedd y coleg a phobl ar fy nghwrs yn gefnogol iawn.” 

Doedd Eva ddim yn ddieithr i’r system addysg gan ei bod cwblhau gradd mewn Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Damascus yn Nhwrci cyn troi i faes y byd hedfan. 

Wrth siarad am ei phrofiad yn y coleg, ychwanegodd Eva: “Rwyf wedi cael profiad hynod gyfoethog yn mynychu Coleg y Cymoedd ac yn astudio’r cwrs criw caban. Cyn i mi ddechrau, doedd gen i ddim gwybodaeth go iawn am y cyfrifoldebau oedd yn dod yn sgil hyfforddiant i fod yn griw caban. Mae’r cwrs wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth i mi y gallaf ei ddefnyddio wrth symud ymlaen i yrfa go iawn. 

“Roeddwn i hefyd yn teimlo fy mod yn cael fy nghroesawu cymaint gan bawb, sy’n rhywbeth roeddwn i’n nerfus iawn yn ei gylch, gan fy mod yn llawer hŷn ac heb fod yn frodor. Rydw i wedi caru pob munud o fy amser yma ac rydw i’n gyffrous i weld lle gall hyn fy arwain yn y dyfodol.”  

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd