Mae dysgwr coleg o Dde Cymru wedi defnyddio’r cyfnod clo fel cyfle i gychwyn ei fusnes ei hun a dilyn ei freuddwyd o fod yn berchen ar ei stiwdio ffotograffiaeth ei hun.
Mae Euan Balman, sy’n ddeunaw oed ac yn dod o Lantrisant, ar fin agor ei stiwdio ei hun yr haf hwn, ar ôl treulio’r pum mis diwethaf yn adnewyddu gweithdy gwag yn ei dref enedigol.
Mae Euan, sydd ar hyn o bryd yn astudio cymhwyster Technoleg Cyfryngau Creadigol Lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd, wedi bod yn angerddol am ffotograffiaeth byth ers iddo gael camera digidol fel anrheg ar ei ben-blwydd yn wyth oed. Ers hynny, mae Euan wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau ac wedi treulio oriau di-ri yn tynnu lluniau o dirweddau Cymru.
Ar ôl derbyn ei gomisiwn cyntaf un yn ddiweddar am ddelwedd o fachlud haul dros hen dref Llantrisant, cafodd Euan ei ysbrydoli i ddilyn ei nod o fod yn ffotograffydd proffesiynol a chynnal ei arddangosfa ei hun i arddangos ei waith.
Mae’r llanc talentog wedi dewis peidio â mynd i’r brifysgol, gan ddewis yn hytrach ymuno â’i fam Delyth, a gafodd ei diswyddo o’i swydd ym myd addysg yn ystod y pandemig, a sefydlu busnes teuluol newydd, ‘MADEcreative’.
Derbyniodd y teulu Grant Rhwystrau Busnes Cymru i helpu i gychwyn y busnes ac maent wedi bod yn brysur yn ystod y pum mis diwethaf yn datblygu’r gofod stiwdio newydd, a leolir yn yr hen Model House yng nghanol tref Llantrisant, gydag Euan yn mynd i’r afael â’r adnewyddu ei hun i gwtogi ar gostau.
Yn ogystal â chynnal arddangosfa barhaol i arddangos a gwerthu ei waith, bydd Euan hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau ffotograffiaeth yn y stiwdio gan gynnwys comisiynau preifat, portreadau teulu a gwasanaethau cynnyrch a marchnata ar gyfer cleientiaid masnachol, tra bydd Delyth yn goruchwylio rhedeg y busnes.
Gyda’r newidiadau olaf yn cael eu gwneud i’r gofod newydd, mae disgwyl i’r stiwdio agor ddiwedd mis Mehefin unwaith y bydd Euan wedi gorffen yn y coleg.
Meddai Euan: “Rydw i wedi bod wrth fy modd â ffotograffiaeth cyhyd ag y gallaf gofio, yn enwedig lluniau tirlun, ac roedd gennyf ormod o ddewis yn byw yng Nghymru gyda chymaint o leoedd hardd o’m cwmpas i dynnu eu llun. Roeddwn i’n gwybod fy mod am ddilyn gyrfa mewn ffotograffiaeth a chael fy stiwdio fy hun fu’r freuddwyd erioed.
“Oherwydd Covid, dydw i ddim wedi cael y cyfle i arddangos fy ngwaith felly rydw i’n edrych ymlaen at allu cynnal arddangosfa o’r diwedd. Rydw i mor gyffrous i agor fy stiwdio fy hun ac i groesawu fy nghleientiaid cyntaf – mae hi wedi bod mor werth chweil gweld popeth yn dod at ei gilydd dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Bydd y flwyddyn nesaf yn un enfawr i mi wrth imi ddechrau fy ngyrfa ac ni allaf aros i weld lle aiff hynny â mi. Rydw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosibl gan gynnwys fy nhiwtoriaid yn y coleg, y tîm yn Syniadau Mawr Cymru a fy mam am gefnogi fy syniad.
Mae Euan wedi derbyn cefnogaeth i gychwyn y fenter gan Syniadau Mawr Cymru – gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Busnes Cymru – sydd wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes. Rhoes y gwasanaeth fentoriaeth i Euan a’i gynorthwyo i ddatblygu cynllun busnes a gyflwynwyd i Fusnes Cymru i’w ariannu.
Mae tîm y Dyfodol Coleg y Cymoedd, sydd wedi ymrwymo i helpu dysgwyr yn y coleg i ddod â syniadau busnes yn fyw, hefyd wedi helpu Euan i sefydlu ei fusnes ei hun wrth iddo gwblhau ei astudiaethau coleg. Mae’r tîm wedi helpu i’w gysylltu â phartneriaid yn y diwydiant ac wedi cefnogi’r broses gyfan.
Dywedodd Lesley Cottrell, Rheolwr Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae sgil ac angerdd amlwg Euan dros ffotograffiaeth, ynghyd â’i ymdrech glir i gychwyn ei fusnes ei hun, wedi bod yn hynod drawiadol ac rydym ni’n falch o gael Euan fel un o’n dysgwyr yn y coleg.
“Rydym ni’n falch ein bod wedi ei helpu yn ei daith ac yn dymuno’r gorau iddo gyda’i fenter newydd.â€
“