Ffotograffydd yn cipio sawl gwobr

Mae gwaith dysgwr o Goleg y Cymoedd, sy’n astudio tuag at ei Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth, wedi ennill cyfres o wobrau cenedlaethol.

Mae Tracey Dobbs, 32 oed o Abertyleri, wedi ennill tair gwobr aur gyda dau gorff ffotograffiaeth cenedlaethol gwahanol.

Mae’r artist, sy’n arbenigo mewn portreadau celfyddyd gain o blant, eisoes yn un poblogaidd oherwydd ei harddull nodedig sy’n fwy tebyg i baentiadau oriel na ffotograffiaeth draddodiadol.

Gan nad yw’n un i gael ei chlymu i unrhyw arddull benodol, delwedd o gerddor ar y stryd yng Nghaerfaddon yn ystod taith maes a sicrhaodd dwy wobr aur i Tracey yng nghystadleuaeth y Gymdeithas Ffotograffiaeth Genedlaethol a’r Gymdeithas Ffotograffwyr Priodas a Phortreadau.

Yn ogystal ag ennill y brif wobr yn y categori ‘celf stryd’ yn y ddwy wobr, dewisodd y Gymdeithas Ffotograffiaeth Genedlaethol hefyd un o luniau eraill o waith cwrs Tracey ar gyfer y wobr aur yn ei gategori ‘Celf Lonydd’. Ar ôl ennill gwobrau aur yn y cystadlaethau misol, mae bellach yn cystadlu yn y gwobrau blynyddol a gynhelir gan bob un o’r sefydliadau proffesiynol.

I ddechrau, darganfu’r dysgwr aeddfed Tracey ei hoffter o fywyd drwy’r lens ar ôl cael trafferthion gydag epilepsi, a oedd yn golygu y bu’n rhaid iddi adael yr ysgol yn 16 oed gydag un TGAU. Ar y dechrau, roedd yn hobi tra eu bod yn gweithio mewn swyddi amrywiol ac yn gofalu am ei phlant bach, cyn sylweddolodd bod ei diddordeb mewn ffotograffiaeth yn fwy o alwedigaeth iddi.

Ar ôl cwblhau BTEC mewn ffotograffiaeth, penderfynodd Tracey sefydlu ei busnes ei hun yn gweithio o stiwdio gartref. Wrth i’r fenter fynd rhagddi, penderfynodd gofrestru yng Ngholeg y Cymoedd i wella ei sgiliau a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau busnes a fyddai’n mynd â hi i’r lefel nesaf.

Ar ôl dysgu ei bod wedi ennill tair gwobr broffesiynol am waith ei phortffolio coleg, dywedodd Tracey: Roedd yn anhygoel darganfod fy mod wedi ennill, nid un, ond tair gwobr. Nid fi yw’r person mwyaf hyderus felly mae cael y gydnabyddiaeth hon wedi bod yn hwb mawr i’m hyder. Fel ffotograffydd, mae’r gwobrau wedi helpu adeiladu fy hygrededd yn broffesiynol ac wedi fy ngalluogi i ddatblygu enw da. Mae tiwtoriaid fy nghwrs, Jessica Emanuel ac Ian Burgum wedi bod yn wych, yn fy annog i ymgeisio am y gwobrau, ac yn fy nghefnogi trwy’r holl broses. “Nid dyma’r tro cyntaf i arbenigwyr proffesiynol gydnabod gwaith Tracey. Hefyd, ymddangosodd delweddau’r artist o Abertyleri fel rhan o ymgyrch bwrdd biliau rhyngwladol, ‘Shot on iPhone’, gan gawr y byd technolegol, Apple.

Wrth longyfarch Tracey, dywedodd Jessica Emanuel, arweinydd cwrs y Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae’n bleser mawr gweld unigolion talentog fel Tracey yn derbyn y gydnabyddiaeth ddiwydiannol y maent yn ei haeddu. Mae ei gwaith yn siarad drosto ei hun, ond mae ei hymroddiad i ddatblygu ei chrefft a’r sgiliau busnes a fydd yn golygu y bydd ei stiwdio yn tyfu yn ysbrydoliaeth i bawb sy’n awyddus i droi eu doniau naturiol yn yrfa gyflawn a fydd yn cefnogi eu dyfodol creadigol a phroffesiynol.”

Am ragor o wybodaeth am y Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i www.cymoedd.ac.uk. I weld enghreifftiau o waith myfyrwyr, ewch i cycphoto.wixsite.com/colegycymoedd

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau