Fy mhrofiad o weithio yng Ngholeg y Cymoedd: Coleg sy’n Frwd dros Fioamrywiaeth

Rydyn ni’n goleg sy’n frwd dros weithio ac addysgu’n gynaliadwy: er lles yr amgylchedd, ac ar gyfer llwyddiant ein dysgwyr yn y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cyhoeddi:

  • mai ni yw’r coleg Addysg Bellach cyntaf i greu uwch swydd arwain sy’n ymroddedig i gynaliadwyedd;
  • ein haelodaeth gyda sefydliad datblygu cynaliadwy blaenllaw, Cynnal Cymru; ac
  • ein bod yn newid ein peiriant chwilio rhagosodedig i Ecosia, i blannu coeden bob tro mae ein staff a’n myfyrwyr yn chwilio ar y rhyngrwyd.

Yn ystod Wythnos y Ddaear eleni, rydyn ni wedi gofyn i’r Dirprwy Reolwr Ystadau, Freya Powell, rannu rhai o’n nodau ecolegol ar draws ein pedwar campws: Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda ac Ystrad Mynach.

Soniwch wrthon ni am fod yn Ddirprwy Reolwr Ystadau ar gyfer Coleg y Cymoedd

Fy ngwaith yw sicrhau bod pob un o ystadau’r pedwar campws yn rhedeg yn esmwyth. Mae hyn yn cynnwys yr adeiladau, y tiroedd, a’r gwasanaethau sydd ynddyn nhw. Rhan fawr o hyn yw ystyried beth gall Coleg y Cymoedd ei wneud i sicrhau ein bod mor gynaliadwy ac ecogyfeillgar â phosib.

Beth yw eich hoff ran o’r swydd?

Rydw i wrth fy modd â newid a rhoi ffyrdd newydd o weithio ar waith. Mae hyn yn cynnwys gwella beth rydyn ni’n ei wneud ar yr ystâd. Wrth i gynaliadwyedd, sero net, a’r angen i warchod ein hamgylchedd ddod yn fwy amlwg, rydyn ni wedi mynd ati i reoli’r ystâd yn wahanol iawn.

Rydyn ni’n parhau i wella a gweithredu syniadau i hybu bioamrywiaeth ac ecoleg y coleg, ac mae gweld beth rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yn hyn yn rhan werth chweil o’r swydd.

Pa ganllawiau ydych chi’n eu dilyn wrth roi’r strategaethau bioamrywiaeth newydd yma ar waith? 

Mae gan y coleg System Reoli Amgylcheddol sy’n ystyried ac yn cofnodi holl weithrediadau a gweithgareddau’r coleg.

Fel rhan o’r system, rydyn ni’n ystyried yr holl ddeddfwriaeth amgylcheddol ac yn cynnwys deddfwriaeth sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a deddfwriaeth sydd ar y gorwel. 

Mae’n rhaid i ni ystyried yr holl staff, myfyrwyr, ymwelwyr a chyflenwyr, gwasanaethau a nwyddau wrth reoli’r System Reoli Amgylcheddol a’r wybodaeth sydd ynddi.

Allwch chi enwi mentrau mae’r coleg yn cymryd rhan ynddyn nhw ar hyn o bryd?

Gallaf – mae ganddon ni dipyn o fentrau sy’n rhan o ddyletswyddau’r Tîm Ystadau o ddydd i ddydd i hybu bioamrywiaeth.

Er enghraifft, rydyn ni wedi ymuno â’r fenter ‘Plantlife’, elusen sy’n ceisio gwneud newid cadarnhaol parhaol ar gyfer blodau gwyllt, planhigion a ffyngau. Drwy Plantlife, mae fy nhîm wedi dilyn cyrsiau gan gynnwys ‘Dolydd Blodau Gwylltion’ a ‘Bywyd Chwilod’, fel y gallwn ddiogelu ac adfer ein planhigion gwyllt, a chysylltu pobl â natur ar diroedd y coleg.

Rydyn ni newydd gwblhau estyniad Bloc C ar Gampws Ystrad Mynach. Er mwyn sicrhau ein bod yn ymgymryd â’r broses adeiladu’n gynaliadwy, fe wnaethon ni gofrestru ar gyfer dilysiad ac ardystiad gan BREEAM, sef systemau gwyddonol mwyaf blaenllaw’r byd ar gyfer amgylcheddau adeiledig cynaliadwy. Fel rhan o’n hachrediad BREEAM, fe wnaethon ni greu morlyn ar y campws i annog bywyd gwyllt lleol. 

Cadwodd y coleg hefyd ddarn o dir ger yr hen gampws yn Aberdâr at ddibenion ecolegol. Mae ganddon ni ‘Gynllun Lliniaru Ecoleg’ i gadw’r holl loÿnnod byw ar y tir yn hapus. Eleni, mae ganddon ni nod i wella’r darn yma o dir, ac rydyn ni’n gobeithio gweithio gyda’r myfyrwyr ar brosiectau ecoleg bach i gadw’r cynefin naturiol.

Ac ar ein campws yn y Rhondda, rydyn ni ar fin dechrau prosiect helaeth rheoli coed ar gyfer y coed sydd ar ffin yr ystâd. Bydd hyn yn cael ei gynllunio’n ofalus a’i gynnal ar y cyd â’n contractwr gwasanaeth coed. Ar ôl ei gwblhau, byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni ddefnyddio’r coed ar y ffin i osod blychau adar a lle i chwilod nythu er mwyn cynyddu’r boblogaeth bywyd gwyllt (yn enwedig yr adar a’r chwilod). Rydyn ni’n gobeithio defnyddio’r rhaglen plannu coed am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Natur i’n helpu i ailgyflenwi ein stoc o goed ar y ffin. 

Oes gennych chi wahanol ddulliau ar gyfer ymdrin â bioamrywiaeth ar draws y campysau?

Mae pob un o’r pedwar campws yn wahanol iawn yn ddaearyddol ac o ran maint a lleoliad. Mae’n rhaid i ni ystyried y ffactorau yma wrth ystyried y ffyrdd gorau o hybu bioamrywiaeth ac ecoleg.

Felly, mae gan Aberdâr lain o dir o flaen yr adeilad lle cafodd fflora a ffawna penodol eu plannu i annog chwilod a bywyd gwyllt. Mae’n rhaid i ni gadw at y prosesau arbennig sydd ar waith i reoli’r darn yma o dir o ran torri gwair ac ailblannu er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal pwrpas yr ardal.

Ac mae Ystrad Mynach yn nefoedd i fywyd gwyllt: draenogod, llwynogod, Cnocell y Coed, ystlumod a gwiwerod ymhlith llawer mwy. Rydyn ni’n cynnal y tiroedd yma mewn ffordd sensitif er mwyn peidio ag effeithio ar y bywyd gwyllt presennol. Wrth symud ymlaen, byddwn yn edrych ar sut gallwn annog mwy o fywyd gwyllt. Rydyn ni’n mynd i adolygu pethau fel ein prosesau rheoli chwyn, rheoli coed, a sut gallwn ni helpu i gynnig cartref i fywyd gwyllt. Unwaith eto, rydyn ni’n awyddus bod y cwricwlwm yn cymryd rhan yn hyn. Mae ganddon ni hefyd ein hardaloedd to gwyrdd wedi’u cuddio ymhlith y clwstwr o adeiladau ac mae’n ymddangos bod y gwenyn wrth eu boddau â nhw.

Mae’r dull yn Nantgarw yn hollol wahanol oherwydd ei leoliad trefol a diffyg ‘mannau gwyrdd’, ond, yn ffodus, mae yna bob amser gyfleoedd i wella bioamrywiaeth. Roedden ni wedi sefydlu To Gwyrdd i gadw cychod gwenyn ond bu’n rhaid i ni eu hailgartrefu yn ystod y gwaith strwythurol mawr rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd. Rydyn ni’n parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno ffocws bywyd gwyllt, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y posibilrwydd o ailgyflwyno’r gwenyn yn y dyfodol.

Ar wahân i beth rydych chi wedi sôn amdano eisoes, wrth symud ymlaen, pa gymhellion ecolegol hoffech chi eu gweld yng Ngholeg y Cymoedd?

Bydden i wrth fy modd yn gweld cystadleuaeth flynyddol i fyfyrwyr lle gallan nhw gyflwyno eu syniadau a gwneud cais am gyllid gan y coleg ar gyfer prosiect sy’n ymwneud â chynaliadwyedd. Rydw i’n meddwl y byddai hyn yn gystadleuol ond yn boblogaidd ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyflawni eu prosiect o’r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr â phwy ydyn ni fel coleg sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Sut gall dysgwyr a staff gyfrannu at y nod cyffredinol i wella bioamrywiaeth y coleg? 

Rydyn ni’n ffodus iawn bod ganddon ni lu o staff a myfyrwyr brwd sydd eisoes yn rheoli ein ‘Gardd Farchnad/Mannau Gwyrdd’, ond mae angen rhagor o gymorth arnon ni gan staff a myfyrwyr i wella ein bioamrywiaeth ar draws pob campws. Wrth symud ymlaen, ein nod yw gweithio’n agosach gyda’r cwricwlwm i gynnwys myfyrwyr a rhoi eu syniadau bioamrywiaeth ar waith. Rydw i’n siŵr bod syniadau gwych yn bodoli nad ydyn ni hyd yn oed wedi meddwl amdanyn nhw!

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau