Fy mhrofiad o weithio yng Ngholeg y Cymoedd: Gweithle Cyfeillgar i’r Lluoedd Arfog

Rydyn ni’n falch o fod yn weithle cyfeillgar i’r Lluoedd Arfog.

Fel deiliaid y wobr arian ar gyfer Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr y Lluoedd Amddiffyn, rydyn ni’n croesawu ceisiadau am swyddi gan gyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a’r rhai sydd â pherthnasau sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae’r aelodau staff yma yn elwa ar unwaith o aelodaeth yn ein Rhwydwaith Lluoedd Arfog, ynghyd â 10 diwrnod ychwanegol o absenoldeb â thâl y flwyddyn.

Er mwyn hyrwyddo ein gweithwyr sy’n elwa o’r cynllun ar hyn o bryd, fe wnaethon ni ofyn i’r Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr, a chyn-filwr yr Awyrlu Brenhinol, Paul Rees, rannu ei brofiad o weithio i Goleg y Cymoedd.

Dywedwch wrthym sut aethoch chi ati i ymuno â Lluoedd Arfog Prydain

Ar ôl gadael yr ysgol yn 18 oed, cefais ychydig flynyddoedd o ansicrwydd o ran beth roeddwn i am ei wneud. Roedd gen i uchelgais i ymuno â’r heddlu, ond oherwydd y gofyniad o ran taldra – na wnes i ei gyrraedd, waeth faint o ymestyn wnes i – doedd dim cyfle i mi yno.

Ar drip siopa i Gaerdydd gyda fy mam, cerddais heibio swyddfa’r Fyddin, y Llynges a’r Awyrlu Brenhinol, a phenderfynais ymuno â’r Awyrlu Brenhinol. Nid fy mod i’n fyrbwyll wrth gwrs! Cofrestrais am chwe blynedd yn 1990 – mewn pryd ar gyfer Rhyfel Cyntaf y Gwlff.

Sut amser gawsoch chi yn yr Awyrlu Brenhinol?

Roedd fy 6 blynedd yn yr Awyrlu yn wych. Teithiais i bob cwr o’r byd ac ennill cymwysterau wrth wneud hynny. Fel pob peth da, fodd bynnag, bu’n rhaid iddo ddod i ben yn 1996, pan gafodd fy swydd i – yr un roeddwn i’n ei wneud mewn lifrai – ei throi’n swydd sifil.

Sut brofiad oedd gadael y fyddin?

Doedd fy mhrofiad i o adael yr Awyrlu Brenhinol ddim yn wych. Y peth gwaethaf oedd fy mod wedi dod i ddibynnu ar y sefydliad… roedd popeth yn cael ei wneud ar fy rhan.

O’r blaen, roeddwn i’n gwybod y byddai fy ystafell a’m bwyd yn dod allan o’m cyflog yn awtomatig… Roedd triniaeth feddygol a deintyddol ar gael yn y ganolfan, a pha bynnag arian oedd gen i dros ben, roeddwn i’n gallu gwneud fel roeddwn i eisiau. Pan adewais i’r ‘swigen filwrol’, doedd gen i ddim swydd nac arian. Yna, ar ôl chwe blynedd o annibyniaeth, dychwelais i fyw adref gyda fy nheulu.

Rydych chi i fod i fynd ar gwrs ailsefydlu, a fyddai wedi fy helpu i ennill sgiliau i helpu i ymdopi â’r trosglwyddiad yn ôl i’r byd go iawn, ond yr unig gwrs a gynigiwyd i mi oedd Cynnal a Chadw Cyfrifiadurol, rhywbeth nad oedd gen i ddiddordeb ynddo mewn gwirionedd. Gadewais gyda chyfrifiadur roeddwn i wedi’i adeiladu, a dim rhagolygon go iawn o gael swydd yn y diwydiant hwnnw. 

Sut wnaethoch chi ddod i weithio i Goleg y Cymoedd?

Fel pawb ym mhen uchaf y Rhondda yng nghanol y 90au, treuliais amser yn Griffin Windows, yn dilyn mis yn hawlio budd-daliadau, nes i mi ddechrau swydd werthu yn Trustmark Stationery yn Nhonysguboriau.

Gwelais fod gwerthu yn hawdd, ac yn fuan des i’n Gynrychiolydd Gwerthu. Gwerthiannau fyddai fy mywyd am y 14 mlynedd nesaf. Cymerais swyddi rheoli amrywiol gan weithio gyda chwmnïau annibynnol lleol, i gwmnïau rhyngwladol fel Asda a Focus.

Tra yn Focus, dechreuais sylweddoli nad oeddwn i’n mynd yn iau, ac roedd fy swydd ar fin cael ei gwneud yn un rhan-amser. Roedd Coleg Morgannwg yn chwilio am oruchwylwyr arholiad rhan-amser, felly gwnes gais am swyddi wythnosol ar wahanol gampysau, a sylweddolais yn fuan y gallwn i wneud y math yma o waith.

Ac nid gweithiwr yn unig oeddech chi, ond myfyriwr yma hefyd?

Ie wir. Dyna pryd cofrestrais i ar gwrs Mynediad i’r Dyniaethau i ddod yn Weithiwr Cymdeithasol. Ond, roeddwn i’n astudio Llenyddiaeth Saesneg o dan Lesley Roberts, a daniodd angerdd dros Shakespeare ynof i. O hyn, penderfynais yn fuan iawn i ennill gradd er mwyn addysgu yn y coleg.

Yn y cyfamser, roedd rôl arall ar gael yn y coleg a oedd yn addas i’m sgiliau, felly gwnes gais i ddod yn Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr (EEO) fel rhan o’r Prosiect Cyllid Ewropeaidd. Dyna beth dw i’n dal i’w wneud heddiw.

Yn y swydd yma, dw i wedi cael cyfle i ddilyn cwrs TAR drwy’r coleg ac ennill fy ngradd addysgu.

Disgrifiwch eich profiad o weithio i Goleg y Cymoedd

Roedd y gefnogaeth gan y coleg yn amhrisiadwy wrth ddilyn fy ngradd addysgu. Es i yn fy mlaen ac ennill Cymhwyster Asesydd, a dw i’n defnyddio hynny fel rhan o’m datblygiad addysg barhaus er budd y coleg.

… Ac fel aelod o’r Lluoedd Arfog?

Byddwn i’n dweud fy mod i a’r coleg wedi elwa o fy aelodaeth o’r Lluoedd Arfog.

Yn fy amser yma, dw i wedi defnyddio sgiliau trosglwyddadwy o brofiadau yn yr RAF er budd myfyrwyr a staff.

Mae Coleg y Cymoedd wedi rhoi’r gefnogaeth a’r hyder i mi ddilyn agweddau eraill yn fy swydd ac wedi fy arwain at ddod yn Bencampwr y Lluoedd Arfog, i annog aelodau eraill o’r Teulu Milwrol i rannu eu profiadau.

Rydyn ni wedi datblygu rhwydwaith lle gallwn ni, nid yn unig gefnogi ein gilydd, ond helpu i recriwtio personél arall o’r lluoedd arfog. Efallai nad ydynt wedi ystyried bod coleg AB yn amgylchedd cystal a gwerth chweil a hygyrch ag ydyw mewn gwirionedd.

Rydyn ni’n gobeithio gweld Rhwydwaith Lluoedd Arfog y coleg yn tyfu a chynyddu ein darpariaethau ar gyfer cyn-filwyr a milwyr wrth gefn y lluoedd arfog fel rhan o’n dyfarniad DERS yn y dyfodol.Dewch i ddysgu mwy am fuddion y gweithle drwy ein swyddi gwag presennol: https://www.cymoedd.ac.uk/about/careers/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau