Enillodd dyn 21 oed o Bontypridd Gystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn trin gwallt – lefel uwch, fel rhan o fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i godi lefel sgiliau ar draws Cymru.
Bu Christopher Miller, o Goleg y Cymoedd, yn cystadlu yn erbyn 10 myfyriwr arall o Gymru. Roedd rhaid i’r rhai yn y rownd derfynol dorri, lliwio a sychu gwallt o fewn tair awr.
Dywedodd Christopher, sy’n astudio NVQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt a hefyd yn gweithio yn salon gwallt La Chop ym Mhontypridd: “Ar y diwrnod dewisais liw coch fflamgoch ar gyfer top pen y model a lliw fioled tywyll ar gyfer gwaelod y gwallt.
“Roedd y beirniad yn chwilio am orffeniad llyfn a siarp i’r lliw a‘r gwallt wedi’i steilio a’i dorri a’i sychu’n dda. Fi oedd y cystadleuydd cyntaf i orffen, gan gwblhau pob tasg o fewn dwy awr a chredais na fyddwn yn y ras o gwbl, felly ces i sioc i glywed fy enw’n cael ei gyhoeddi fel yr enillydd.
“Yn y dyfodol hoffwn deithio’r byd yn gweithio fel triniwr gwallt ac ennill fy mywoliaeth fel hynny. Yna, fy mreuddwyd fyddai dychwelyd i Gymru ac agor fy siop farbwr fy hun.â€
Bwriad Cystadleuaeth Sgiliau Cymru (Skills Competition Wales) ydy hybu pwysigrwydd sgiliau galwedigaethol a datblygu gweithlu medrus a’r nod drwyddi draw ydy codi lefel sgiliau a ffyniant Cymru.â€
Gyda chymorth y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfanswm o 32 Cystadleuaeth Sgiliau yn 2015 mewn amrediad o sectorau o adeiladau a mecaneg trin moduron i bobi cacennau ffansi a chelf ewinedd.
Bydd Christopher nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Coleg y Cymoedd yng nghystadleuaeth Trin Gwallt ‘WorldSkills UK’ a’i obaith ydy cynrychioli Tîm Cymru yn y Sioe Sgiliau yn ninas Birmingham ym mis Tachwedd eleni.
Eleni, gallai cystadleuwyr sydd yn Sgwad y DU gael eu dewis i deithio i São Paulo. Cynhelir y gystadleuaeth bob dwy flynedd mewn dinasoedd ar draws y byd a hon ydy’r gystadleuaeth sgiliau rhyngwladol fwyaf yn y byd.
Dywedodd Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg:
“Mae gweithlu medrus yn hanfodol i ddyfodol ein gwlad. Mae’n bwysig amlygu gwerth sgiliau galwedigaethol ymarferol y gellir eu cymhwyso i’r diwydiannau ffyniannus yng Nghymru.
“Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru (Skills Competition Wales) ydy annog pobl ifanc ac oedolion i ddatblygu eu talentau i’r eithaf a bydd y gystadleuaeth iach yn gosod meincnod ar gyfer sgiliau.
“Eisoes mae dwsinau o golegau, Cynghorau Sgiliau Sector a darparwyr addysgu yn y gweithle ar draws Cymru yn rhan o’r fenter ond rydyn ni’n awyddus i weld rhagor o fusnesau Cymru yn annog cyflogai ifanc i gymryd rhan.â€
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae’n golygu gwaith caled, penderfyniad a llawer o sgil i gystadlu yn erbyn prentisiad a dysgwyr mwyaf talentog Cymru, felly dylid canmol a dathlu’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni.
“Rydyn ni’n dymuno y bydd Christopher a phawb o’r rhai sydd yn y rownd derfynol a’r enillwyr eraill, yn cael popeth o’u plaid yn eu dewis o yrfaoedd.
Ar Ebrill 16, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.
“