Mae gŵyl gerddorol sy’n cael ei hyrwyddo gan fyfyrwyr Coleg y Cymoedd wedi tyfu mor gyflym yn ystod y tair blynedd diwethaf, erbyn hyn rhaid ei symud i leoliad newydd.
Cynhaliwyd Gŵyl y ‘Valleys Soundfest’ ar y cychwyn ar gampws Rhondda’r coleg yn Llwynypia, ond eleni caiff ei gynnal ar gampws Nantgarw Ddydd Sadwrm Mai 14. Bydd hefyd fwy nag erioed yn cymryd rhan yno gyda 20 o fandiau’n chwarae ar draws dau lwyfan.
“Fi a myfyrwyr ail flwyddyn y cwrs technoleg cerddoriaeth gychwynnodd yr ŵyl,†meddai tiwtor y cwrs a’r cerddor Scott Howells, cyn brif leisiwr y band ‘indie roc’ o’r cymoedd Broken Vinyl Club.
“Pan benderfynais drefnu uned rheoli digwyddiad cerddorol, cychwynnon ni drwy gynnal digwyddiadau dan do ond wedyn, penderfynu y byddai’n ‘cŵl’ i gynnal gŵyl awyr agored.
“Prynon ni babell fawr gyda help cyfarwyddwr y campws a bob blwyddyn mae grŵp newydd o fyfyrwyr yn etifeddu’r ŵyl a cheisio gwella ar ymdrechion eu rhagflaenwyr.â€
I ddathlu’r symudiad i leoliad newydd, mae Scott a’i fyfyrwyr yn bwriadu llwyfannu’r ŵyl fwyaf a’r fwyaf eclectic eto.
Hyd yn hyn mae rhai o’r bandiau newydd gorau o Gymru yn cynnwys The Moon Birds, The Riff, Reuel Elijah, Upbeat Sneakers a’r Cradles wedi cadarnhau eu bod yn dod.
“Eleni bydd dau lwyfan – un y tu allan a’r llall dan do, gyda bandiau newydd o bob genre megis indie, ska, hip-hop, metal, RnB, grime, punk, a dubstep.
“Rydyn ni’n credu bydd yr arlwy eclectig yn dangos peth o’r egin dalent sydd gan Gymru i’w gynnig gyda rhywbeth o ddiddordeb i bawb. Gallen ni fod wedi cael dros 200 o fandiau Cymru. Mae cymaint o dalent yma. Bu rhaid i ni chwynnu’n llym.
Elfen hanfodol o’r ŵyl ydy bod myfyrwyr y coleg yn ennill profiad o lwyfannu gŵyl.
Ychwanegodd Scott: “Mae rhaid i’r myfyrwyr weithredu pob math o swyddogaethau. Mae’r rhain yn cynnwys cysylltu â’r artistiaid, sain byw, rheoli llwyfan, y cyfryngau cymdeithasol, dylunio gwefan a holl rolau technegol ar y diwrnod yn ogystal â stiwardio.â€
Mae’r ŵyl hefyd yn awyddus i gefnogi Love Hope Strength, elusen Mike Peters y rocer Cymreig.
“Mae Love Hope Strength yn elusen wych ac un sy’n agos iawn at ein calonnau, elusen sy’n helpu brwydro yn erbyn canser,†meddai Scott.Â
“Mae fy nghyd-diwtor cerdd, Chris Summerill, wedi gwneud llawer o waith dros LHS ac yn llysgennad dros yr elusen. Mae’r myfyrwyr yn swabio’r rhai sy’n mynychu’r ŵyl i gael cymiant o bobl ar gofrestr rhoddwyr gwaed â phosibl er mwyn dod o hyd i fêr esgyrn sy’n matsio. Hyd yn hyn rydyn ni wedi llwyddo i gael 70 ar y gofrester gydag 1 yn matsio.
Cynhelir Valleys Soundfest yng Ngholeg y Cymoedd ddydd Sadwrn Mai 14. Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys detholiad eang o’r stondinwyr bwyd stryd gorau a bragwyr mwyaf medrus Cymru.
Mae’r tocynnau, sy’n £5 yr un, ar gael ymlaen llaw o www.valleyssoundfest.co.uk
“