Gŵyl Fenter yn ennill gwobr arbennig

Mae Coleg y Cymoedd yn falch iawn ei fod wedi bod yn rhan o Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf a gipiodd un o’r prif wobrau yn y categori Catalydd Menter yng Ngwobrau Addysgwyr Menter Cenedlaethol (NEEA) eleni.

Mae’r NEEA yn cydnabod rhagoriaeth mewn addysg menter ac entrepreneuriaeth ac yn dathlu cefnogaeth eithriadol i ddysgwyr, busnesau sydd ar fin cychwyn, busnesau newydd a mentrau sy’n tyfu.

Roedd y categori Catalydd Menter yn edrych am brosiectau a mentrau arloesol sy’n cefnogi dysgwyr ac yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer dyfodol fel entrepreneur.

Cynlluniwyd a chyflwynwyd Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf ar-lein ar y cyd gan 23 o brifysgolion a cholegau ledled Cymru, ac roedd yn bodloni’r holl feini prawf yr oedd y panel o 27 o feirniaid arbenigol yn edrych amdanynt, gan gynnwys Cyfarwyddwyr a Chymrodyr cyfredol a blaenorol EEUK.

Wrth i gampysau ledled Cymru gau eu drysau ym mis Mawrth oherwydd coronafeirws, bu’r Hyrwyddwyr Menter blaengar yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a chynnal bŵt-camp ar-lein wythnos o hyd, a fyddai’n cefnogi busnesau newydd a dros 500 o entrepreneuriaid.

Bu Lesley Cottrell, Hyrwyddwr Menter Coleg y Cymoedd, yn cydweithio â chyd-hyrwyddwyr ledled Cymru, gan weld manteision rhannu syniadau er mwyn hwyluso gweithgareddau bŵt-camp. Wrth siarad am ei chyfranogiad dywedodd Lesley “Mae eleni wedi bod yn gyfnod hynod heriol i bawb yn y sector, gyda chydweithwyr yn gorfod addasu eu haddysgu yn gyflym drwy lwyfannau ar-lein.

Fel Hyrwyddwyr Menter roeddem yn awyddus i gefnogi dysgwyr Menter yn ystod y cyfnod ‘cloi’ a rhoes Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf y ffocws hwnnw inni. Fel cydweithiwyr, rhannwyd syniadau ac arfer da i gyflwyno rhaglen arloesol a oedd yn cynnwys gweithgareddau torri iâ, gweminarau gyda siaradwyr ysgogol, a sesiynau cymdeithasu gyda’r nos.

O ystyried llwyddiant y dull cydweithredol rydym nawr yn bwriadu gwneud y Sioe Haf yn ddigwyddiad blynyddol ac rydym yn cynllunio gweithgareddau ar-lein ar gyfer Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang ym mis Tachwedd hefyd. Roeddem yn falch iawn o dderbyn llythyr gan Weinidogion Cymru Ken Skates AS a Kirsty Williams AS yn llongyfarch y grŵp am eu cydweithio a’u hymrwymiad i ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru. ”.

Roedd dysgwr Gofal Coleg y Cymoedd, Nia, yn un o’r rhai a fynychodd y gweithgareddau ar-lein ac a ysbrydolwyd gan y siaradwyr. Wrth sôn am y cyflwynwyr dywedodd ”Roedd y sesiynau’n hollol wych. Ers geni fy mhlentyn ieuengaf, rydw i wedi meddwl sefydlu fy musnes fy hun. Astudiais gwrs Gofal yn y coleg a byddwn wrth fy modd yn agor fy meithrinfa fy hun. Rydw i wedi gwneud llawer o ymholiadau ond mae gen i bryderon, fel “A fyddaf yn methu cyn imi ddechrau; a fyddaf yn sicrhau’r cyllid”? Cefais fy ysbrydoli a fy nghyffroi gan y sesiwn ‘Simply Do’ sydd wedi rhoi’r cymhelliant imi ddilyn fy mreuddwyd o sefydlu fy musnes fy hun – rydw i’n teimlo y gallaf ei wneud ac os byddaf yn methu, byddaf yn methu ond o leiaf rhoes gynnig arni ”.

Ydych chi’n meddwl cychwyn eich busnes eich hun, ond angen cyngor a chefnogaeth? Cysylltwch â Lesley Cottrell, Hyrwyddwr Menter yng Ngholeg y Cymoedd – Lesley.cottrell@cymoedd.ac.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau