Mae Calum Haggett, cyn-fyfyriwr Coleg y Cymoedd o bosibl ychydig wythnosau i ffwrdd o gyflawni un o’i freuddwydion drwy chwarae dros Brifysgol Rhydychen yn y Gêm Timoedd Prifysgolion yn Twickenham.
Cynhelir 138ain ‘Brwydr y Gleision’ yng nghartref rygbi Lloegr ddydd Iau, 12 Rhagfyr, ac mae cyn-gapten Cymru dan 18 oed mewn sefyllfa dda i ennill lle yn yr ail reng dros y Gleision Tywyll.
Aeth ar daith o amgylch Siapan gyda nhw ar ddechrau’r tymor, gan chwarae yn Nhwrnamaint Gwahoddiad Prifysgolion y Byd, a dechreuodd yn y gêm fawr cyn y Gêm Timoedd Prifysgolion yn erbyn tîm Major Stanley. Mae Rhydychen yn wynebu Richmond y penwythnos hwn yn eu gêm olaf cyn Twickenham gyda Haggett yn gobeithio cael ei ddewis gyfer y gêm fawr gan y capten Ed David.
“Bu’n daith hir cyrraedd yma drwy Lundain, ond rwy’n falch imi gyrraedd yn y diwedd. Cefais y cynnig cyntaf pan oeddwn allan yn Ne Affrica gyda Chymru dan 18,†meddai Haggett, a adawodd Goleg y Cymoedd gyda thri A ac A * yn ei arholiadau Safon Uwch.
“Wnes i ddim cyrraedd y nod y tro cyntaf a dychwelais y flwyddyn ganlynol, ond wnes i ddim mynd heibio’r cyfweliadau’r tro honno. Cefais sioc ac roeddwn yn ddigalon a thrist ac nid oeddwn i’n meddwl y byddwn i byth yn cyrraedd Rhydychen.“
Wedi ymdrech galed ar ôl tair blynedd wych yn Imperial College yn Llundain fe lwyddais – tri chynnig i Gymro. Fe wnes i weithio drwy’r haf er mwyn ymuno â’r cwrs Meddygaeth Ôl-raddedig a chyrhaeddais yno yn y diwedd.
Gan ddal i fod yn aelod o Fwrdd Ieuenctid cyntaf URC a sefydlwyd gan y Prif Swyddog Gweithredol Martyn Phillips, ni roddodd Haggett y gorau i’w yrfa rygbi yn Imperial College, gan ymuno ag ochr Wild Geese Gwyddelod Llundain a chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol 2. Cadwodd lygad agos iawn hefyd ar y chwaraewyr y cafodd ei fagu gyda nhw.
“Roedd Owen Watkin, Owen Lane, Rhys Carre i gyd yn nhîm dan 18 Cymru gyda mi, fel yr oedd Seb Davies. Yn y flwyddyn uwch fy mhen i yng Ngholeg y Cymoedd roedd Dillon Lewis a Tom Williams, †ychwanegodd Haggett, a ddysgodd chwarae rygbi yn Ysgol Gyfun Tonyrefail.
“Y diwylliant yw popeth yno ac fe wnaethant greu amgylchedd dysgu a chwarae gwych ar fy nghyfer. Cyfarfûm â chyfarwyddwr Safon Uwch y coleg yn ddiweddar ac rwy’n ceisio annog rhagor o blant RhCT i ddod i Rydychen i astudio Meddygaeth.
“Mae gormod yn credu bod Rhydychen y tu hwnt i’w cyrraedd ac nad yw’n addas ar eu cyfer, ond does dim byd gwahanol yn ei gylch. Efallai y bydd yn rhaid ichi wisgo gwn unwaith neu ddwywaith yr wythnos, ond dyna ni. â€
Os bydd yn maeddu Jasper Dix, George Warr a chyn-chwaraewr proffesiynol y Wasps, Kearnan Myall, ac yn ennill lle yn yr ail reng i wynebu Caergrawnt, bydd hynny’n llwyddiant mawr. Yna bydd y gwaith caled yn dechrau ar gyfer y myfyriwr o Goleg Magdalen.
Mae Caergrawnt wedi recriwtio a bydd ganddo ddau gawr o rygbi’r byd yn eu hystafell injan yn Twickenham gyda chyn-gapten Awstralia a Harlequins James Horwill a Flip van der Merwe, cawr y Springboks.
“Mae’r gystadleuaeth am leoedd yn nhîm Rhydychen yn ffyrnig. Mae’n mynd yn iawn hyd yn hyn ac rydw i wedi bod yn gwthio’n galed, â€meddai Haggett
“Rwy’n canolbwyntio ar ennill crys glas, ond os na fydd yn digwydd y mis nesaf bydd yn rhaid imi weithio’n galetach y flwyddyn nesaf i geisio ymuno â’r tîm. Mae’n gyfle enfawr i chwarae yn erbyn dau chwaraewr ail reng gorau’r byd eleni. â€
Cydnabyddiaeth: Rob Cole
“