Gobaith Calum o fod y Cymro ‘Glas’ diweddaraf

Mae Calum Haggett, cyn-fyfyriwr Coleg y Cymoedd o bosibl ychydig wythnosau i ffwrdd o gyflawni un o’i freuddwydion drwy chwarae dros Brifysgol Rhydychen yn y Gêm Timoedd Prifysgolion yn Twickenham.

Cynhelir 138ain ‘Brwydr y Gleision’ yng nghartref rygbi Lloegr ddydd Iau, 12 Rhagfyr, ac mae cyn-gapten Cymru dan 18 oed mewn sefyllfa dda i ennill lle yn yr ail reng dros y Gleision Tywyll.

Aeth ar daith o amgylch Siapan gyda nhw ar ddechrau’r tymor, gan chwarae yn Nhwrnamaint Gwahoddiad Prifysgolion y Byd, a dechreuodd yn y gêm fawr cyn y Gêm Timoedd Prifysgolion yn erbyn tîm Major Stanley. Mae Rhydychen yn wynebu Richmond y penwythnos hwn yn eu gêm olaf cyn Twickenham gyda Haggett yn gobeithio cael ei ddewis gyfer y gêm fawr gan y capten Ed David.

“Bu’n daith hir cyrraedd yma drwy Lundain, ond rwy’n falch imi gyrraedd yn y diwedd. Cefais y cynnig cyntaf pan oeddwn allan yn Ne Affrica gyda Chymru dan 18,” meddai Haggett, a adawodd Goleg y Cymoedd gyda thri A ac A * yn ei arholiadau Safon Uwch.

“Wnes i ddim cyrraedd y nod y tro cyntaf a dychwelais y flwyddyn ganlynol, ond wnes i ddim mynd heibio’r cyfweliadau’r tro honno. Cefais sioc ac roeddwn yn ddigalon a thrist ac nid oeddwn i’n meddwl y byddwn i byth yn cyrraedd Rhydychen.“

Wedi ymdrech galed ar ôl tair blynedd wych yn Imperial College yn Llundain fe lwyddais – tri chynnig i Gymro. Fe wnes i weithio drwy’r haf er mwyn ymuno â’r cwrs Meddygaeth Ôl-raddedig a chyrhaeddais yno yn y diwedd.

Gan ddal i fod yn aelod o Fwrdd Ieuenctid cyntaf URC a sefydlwyd gan y Prif Swyddog Gweithredol Martyn Phillips, ni roddodd Haggett y gorau i’w yrfa rygbi yn Imperial College, gan ymuno ag ochr Wild Geese Gwyddelod Llundain a chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol 2. Cadwodd lygad agos iawn hefyd ar y chwaraewyr y cafodd ei fagu gyda nhw.

“Roedd Owen Watkin, Owen Lane, Rhys Carre i gyd yn nhîm dan 18 Cymru gyda mi, fel yr oedd Seb Davies. Yn y flwyddyn uwch fy mhen i yng Ngholeg y Cymoedd roedd Dillon Lewis a Tom Williams, ” ychwanegodd Haggett, a ddysgodd chwarae rygbi yn Ysgol Gyfun Tonyrefail.

“Y diwylliant yw popeth yno ac fe wnaethant greu amgylchedd dysgu a chwarae gwych ar fy nghyfer. Cyfarfûm â chyfarwyddwr Safon Uwch y coleg yn ddiweddar ac rwy’n ceisio annog rhagor o blant RhCT i ddod i Rydychen i astudio Meddygaeth.

“Mae gormod yn credu bod Rhydychen y tu hwnt i’w cyrraedd ac nad yw’n addas ar eu cyfer, ond does dim byd gwahanol yn ei gylch. Efallai y bydd yn rhaid ichi wisgo gwn unwaith neu ddwywaith yr wythnos, ond dyna ni. ”

Os bydd yn maeddu Jasper Dix, George Warr a chyn-chwaraewr proffesiynol y Wasps, Kearnan Myall, ac yn ennill lle yn yr ail reng i wynebu Caergrawnt, bydd hynny’n llwyddiant mawr. Yna bydd y gwaith caled yn dechrau ar gyfer y myfyriwr o Goleg Magdalen.

Mae Caergrawnt wedi recriwtio a bydd ganddo ddau gawr o rygbi’r byd yn eu hystafell injan yn Twickenham gyda chyn-gapten Awstralia a Harlequins James Horwill a Flip van der Merwe, cawr y Springboks.

“Mae’r gystadleuaeth am leoedd yn nhîm Rhydychen yn ffyrnig. Mae’n mynd yn iawn hyd yn hyn ac rydw i wedi bod yn gwthio’n galed, ”meddai Haggett

“Rwy’n canolbwyntio ar ennill crys glas, ond os na fydd yn digwydd y mis nesaf bydd yn rhaid imi weithio’n galetach y flwyddyn nesaf i geisio ymuno â’r tîm. Mae’n gyfle enfawr i chwarae yn erbyn dau chwaraewr ail reng gorau’r byd eleni. ”

Cydnabyddiaeth: Rob Cole

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau