https://www.youtube.com/watch?v=mWUxLwdloxI
Mae gofalwraig ifanc a sefydlodd glwb lle gall pobl ifanc siarad am eu hiechyd meddwl wedi ennill gwobr bwysig am ddysgu.
Mae Alisha Morgan, sy’n 20 oed ac yn dod o Benrhys, yn ofalwraig llawn amser i’w mam Heidi, sydd â bron i 20 cyflwr meddygol gwahanol gan gynnwys dementia cynnar.
Yn 17 oed, roedd Alisha yn dioddef gyda’i hiechyd meddwl ac oherwydd hynny ac am ei bod hi’n gofalu am ei mam, roedd hi’n teimlo nad oedd ganddi ddewis ond gadael ei chwrs coleg. Roedd bywyd yn anodd ac roedd yn anodd cael y cydbwysedd iawn rhwng popeth, ac ar ôl i ffrind i’r teulu ladd ei hun, dechreuodd Alisha deimlo’n isel.
Cofrestrodd ar gwrs hyfforddi cymorth cyntaf iechyd meddwl, a helpodd hyn hi i ddod o hyd i fecanweithiau ymdopi ar gyfer yr hyn yr oedd yn mynd drwyddo. Wrth ddilyn y cwrs hwnnw, llwyddodd i ddod o hyd i’r cymorth i fynd yn ôl i’r coleg, ar ôl cael ei hysbrydoli gan y gofal y mae hi a’i brawd a’i chwaer Ryan a Nicole, yn ei roi i’w mam.
Mae Alisha bellach wedi ennill Gwobr Ysbrydoli! ‘Oedolyn Ifanc’, sy’n gydnabyddiaeth o’i llwyddiant wrth iddi drawsnewid ei bywyd drwy ddysgu.
Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac yn gwobrwyo’r rhai sydd wedi dangos grym dysgu, magu hyder a datblygu cymunedau bywiog a llwyddiannus.
Fel tîm, maen nhw’n gofalu am ei mam bob dydd, ac yn gwneud popeth o reoli ei meddyginiaeth, coginio ei phrydau bwyd i olchi.
Meddai Alisha: “Roedd gen i lawer o brofiad o ofalu am rywun sy’n sâl iawn, felly fe feddyliais i y gallwn i ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr holl ddamcaniaeth a gwyddoniaeth sy’n rhan ohono. Pan wyt ti’n gofalu am dy fam dwyt ti ddim yn meddwl am y tasgau rwyt ti’n eu gwneud drwy’r dydd, rwyt ti’n eu gwneud nhw heb feddwl.â€
Roedd hi’n benderfynol o ddilyn gyrfa lwyddiannus, ac mae hi bellach yn gweithio tuag at ei Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd ac yn gobeithio bod yn nyrs iechyd meddwl i blant.
Meddai: “Mae’r coleg mor gefnogol. Mae popeth yn parhau i fod yn dipyn o her ac ambell ddiwrnod dwi’n eistedd yn y dosbarth gan wybod fy mod i’n mynd i gael galwad ffôn i ddweud bod mam wedi gwaethygu, neu’n meddwl am y meddyginiaethau sydd angen i mi eu trefnu. Ond maen nhw’n hyblyg iawn ac yn deall sut mae pethe gartref.â€
Yn ogystal â gofalu am ei mam a mynd i’r coleg yn llawn amser, mae Alisha wedi sefydlu Clwb Ieuenctid Glynrhedynog ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys y rhai sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad.
Meddai: “Ar fy ngwaethaf, yn syth ar ôl i’n ffrind teulu ladd ei hun, roeddwn i’n gofalu am fy mam ac yn ceisio dal ati gyda’m gwaith coleg. Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy o isel. Roedd pob diwrnod yn frwydr. Roeddwn i’n gofalu am fy mam, ac yna’n rhuthro’n syth i’r coleg. Doeddwn i byth yn mynd allan a doedd gen i ddim bywyd cymdeithasol gwerth sôn amdano. Doedd dim llawer o gyfle i mi siarad gydag unrhyw un am yr hyn roeddwn i’n mynd drwyddo.â€
Mae’r clwb ieuenctid ar gael i bobl ifanc 11 i 25 oed – maen nhw’n dewis pwnc ar gyfer pob sesiwn ac mae’r aelodau’n siarad am bopeth – o iselder, gorbryder a galar, i Love Island a siopa.
Meddai: “Dwi wedi dioddef gydag iechyd meddwl gwael fy hun, felly weithiau mae’n anodd i mi siarad am bethau fel galar ond mae hefyd yn fy helpu i sylwi ar arwyddion. Rydyn ni’n siarad fel grŵp neu weithiau’n cael sgwrs bersonol gyda rhywun. Mae’n braf gwybod nad fi yw’r unig un a bod pobl eraill yn cael profiadau tebyg i fi.
“Mae trefnu’r clwb ieuenctid yn dipyn o ymrwymiad, ond mae hefyd yn rhoi rhywfaint o amser a lle i mi ar fy mhen fy hun i sgwrsio â gofalwyr eraill neu bobl sy’n ceisio ymdopi â galar. Dwi wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd dwi’n gallu sgwrsio â nhw neu gysylltu â nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. Yr unig beth dwi’n gyfarwydd ag ef mewn bywyd yw bod yn ofalwr ifanc. Mae’n anodd weithiau, ond mae’n rhaid dal ati.â€
Mae Alisha bellach yn ôl ar y trywydd iawn i gwblhau ei diploma, ar ôl i’w lleoliad diwethaf gael ei oedi oherwydd cyfnod clo COVID-19.
Meddai: “Dwi am fod yn nyrs bediatrig sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl. Fe fydda i’n parhau i ddal ati er mwyn gwneud fy mam yn falch.â€
Mae Alisha yn un o 12 enillydd sy’n ymddangos fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, wythnos llawn sesiynau blasu a dosbarthiadau meistr sydd â’r nod o ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed, ac sy’n cael ei chynnal ar-lein eleni o 21-27 Medi.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Hyd yn oed heb seremoni mae mor bwysig ein bod yn dathlu enillwyr y Gwobrau Ysbrydoli! sydd wedi dangos dycnwch eithriadol. Â
“Mae Alisha yn enghraifft wych o sut mae dysgu gydol oes wedi trawsnewid ei bywyd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae’r ffaith bod pobl o bob oed yn ennill cymwysterau yn ein helpu ni i adeiladu gweithlu sydd â’r sgiliau cywir ar gyfer y normal newydd, ond mae hefyd yn ysbrydoli pobl i barhau i ddysgu ac archwilio cyfeiriadau gwahanol, gan gadw eu meddyliau a’u cyrff yn iach hefyd.â€
Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “’Ni fu erioed amser gwell nac amser pwysicach i ddechrau dysgu ac mae enillwyr ein Gwobrau Ysbrydoli! yn dangos yn union beth sy’n bosibl. P’un a ydych chi eisiau dysgu sgiliau i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd, gwella eich iechyd, neu ddysgu am rywbeth sydd wedi mynd â’ch bryd erioed, nawr yw’r amser i godi’r ffôn neu fynd ar-lein i gael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau eich taith.
“Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd miloedd o oedolion ledled Cymru newid eu stori drwy ddysgu rhywbeth newydd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd straeon anhygoel pob un o enillwyr y gwobrau yn ysbrydoli miloedd yn fwy i gymryd y cam cyntaf hwnnw yn ôl i addysg oedolion.â€
“
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR