Grace Bennett

Egin fiocemegydd yn llwyddo i sicrhau lle yn Rhydychen ar ôl cael ei hysbrydoli gan frwydr ei mam yn erbyn canser 

Mae gwyddonwraig frwd ac uchelgeisiol o bentref Glynrhedynog (Ferndale) a gafodd ei hysbrydoli gan frwydr ei mam yn erbyn melanoma i geisio gyrfa ym maes geneteg yn edrych ymlaen at fywyd mewn labordy ar ôl sicrhau lle ym Mhrifysgol Rhydychen i astudio biocemeg. 

Roedd Grace Bennett, dysgwraig yng Ngholeg y Cymoedd, yn dysgu am anhwylderau a chlefydau genetig pan gafodd ei mam ddiagnosis o melanoma cam 3. Wedi ei symbylu gan ddiagnosis ei mam, trodd ddiddordeb Grace mewn gwyddoniaeth yn frwdfrydedd ysol i ddysgu rhagor am eneteg a DNA fel y gallai ddeall sut roedden nhw’n gweithio i drin ac atal canser.  

Er bod ei mam wedi gwella erbyn 2022  a’r clefyd heb ddychwelyd, dwysaodd breuddwyd y ferch 18 mlwydd oed o ddarganfod yr hyn oedd yn achosi canser a’r awydd i helpu eraill i goncro’r salwch a’i gyrrodd i gyflawni mor nodedig yn academaidd.  

Ar  ôl ennill A*A*A mewn bioleg, mathemateg a cemeg yn ei Lefel A, mae breuddwyd Grace ar fin cael ei gwireddu wrth iddi fynd ymlaen i astudio cwrs Meistr integredig bioleg pedair blynedd yn un o brifysgolion mwyaf nodedig y byd ym mis Medi.  

Dywedodd Grace: “Pan gafodd fy mam ei diagnosis, roedd yn adeg arswydus i ni gyd fel teulu a dwi’n meddwl mai’r rheswm dros lawer o’r ofn hwnnw am ganser ydy r diffyg gwybodaeth. Rown i isio deall cymaint ag y gallwn i er mwyn helpu mam. 

“Roedd gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth erioed, yn enwedig cemeg, oherwydd ei fod yn un o’r pynciau a gliciodd gyda fi ond taniodd diagnosis fy mam angen ynnof i ddarganfod cymaint fyth ag y gallwn am melanoma a chanser yn gyffredinol.  

“Po fwyaf a ddysgais, mwyaf yn y byd ces fy nghyfareddu gan gymhlethdodau DNA a geneteg. Mae’n rhyfeddod sut gall newid bychan i DNA unigolion effeithio cymaint ar eu bywyd, felly dwi’n gyffrous i fynd i Rydychen a chael fy nysgu gan rai o’r biocemegwyr mwyaf enwog yn y byd.” 

Bu mynd i astudio yn Rhydychen yn uchelgais i Grace erioed, ac ansawdd yr addysg a’r cyfleoedd sydd ar gael i’w gyn-fyfyrwyr yn ddelfrydol i ddyfodol uchelgeisiol Grace. Bydd Grace yn cwblhau gradd mewn biocemeg – sef astudiaeth o ddulliau moleciwlaidd i ymchwilio, egluro a thrin a thrafod prosesau biolegol – cwrs y tybiai Grace ei fod yn gweddu orau i’w diddordebau mewn clefydau genetig yn hytrach na’r cwrs cemeg pur roedd wedi ei ystyried ar y cychwyn.  

Yn ystod ei phedair blynedd yn Rhydychen, caiff Grace y cyfle i astudio yn un o adrannau biocemeg mwyaf nodedig yn y byd, gan ddysgu am bynciau megis bioleg a datblygiad celloedd, geneteg celloedd, bioleg cromosomau a phrosesau haint a chlefydau, microbioleg a bioffiseg moleciwlaidd.  

Ar ôl cael gwybod gan un o’i thiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd am UNIQ, sef ysgol haf Rhydychen, gwnaeth Grace gais am le a mynychodd y profiad tri diwrnod preswyl yn ystod haf 2023. Wedi ei anelu at ddarpar ymgeiswyr er mwyn iddyn nhw brofi beth fyddai addysg lawn amser yn y coleg, cafodd Grace brofi dull addysgu grŵp bychan cydweithrediadol drwy seminarau ymarferol, darlithoedd a thiwtorialau a gwyddai yn syth mai dyma oedd y lle iddi.  

Ychwanegodd: “Bywyd mewn cotiau gwyn labordy: dyna’r freuddwyd. Mae cael profi’r brifysgol, y ddinas a lefel yr addysg sydd ar gael i mi, wedi fy ngwneud yn fwy awyddus fyth i weithio ym maes ymchwil gwyddonol a bod ar flaen y gad i wella canser.  

“Rydw i mor ddiolchgar am lefel y cymorth a’r anogaeth a ges  gan diwtoriaid Coleg y Cymoedd yn ystod Lefel A. Er i mi fwynhau fy nhri phwnc bu’n llawn strés ac mae fy nhiwtoriaid wedi mynd yr ail filltir i fy nghynorthwyo gyda gwersi adolygu ychwanegol os oedd eu hangen a sicrhau mod i mor barod â phosibl ar gyfer pennod newydd yn y fy mywyd yn Rhydychen. Dw i’n teimlo mor freintiedig i gael lle mewn prifysgol mor nodedig a gobeithio y bydd fy mam a fy ngholeg yn falch ohono i.” 

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd