Gwahoddiad i bobl ifanc Cymru dyfu’n wyllt

Mae pobl ifanc 12 – 25 oed ledled Cymru yn cael cynnig y cyfle i ennill £500 i helpu trawsnewid eu cymuned gyda blodau gwyllt. Mae Tyfu’n Wyllt, dan arweiniad Gerddi Botaneg Brenhinol Kew a chyda chefnogaeth Cronfa’r Loteri Fawr, yn cychwyn ar ymgyrch ledled gwledydd Prydain i ddod o hyd i’r cynlluniau mwyaf cyffrous ar gyfer trawsnewid llecyn gyda phlanhigion a blodau gwyllt brodorol.

Bydd yr ymgeisyddion llwyddiannus yn derbyn yr arian i gynhyrchu gwaith celf gweledol, cerddoriaeth neu iaith lafar sy’n cyfleu pwysigrwydd blodau gwyllt brodorol a llecynnau gwyllt, neu i hau a thyfu blodau gwyllt mewn llecyn cymunedol.

Mae Bethan Woods yn fyfyriwr yng Ngholeg Y Cymoedd, ac yn aelod o grŵp yno a ddatblygodd brosiect Tyfu’n Wyllt ynghynt eleni. Dywedodd hi:

“Mae’r arian gan Tyfu’n Wyllt wedi’n galluogi i brynu offer a phlanhigion a rhoi cynllun at ei gilydd i ddatblygu ardal ar dir y coleg. Er mwyn gwneud hynny roedd rhaid inni ddatblygu sgiliau gwahanol, rhai’n ymarferol ar gyfer paratoi’r llecyn a’r plannu – ond hefyd sgiliau eraill fel sgiliau cyfathrebu gan y buom yn gweithio gydag adrannau gwahanol ac rydym hefyd wedi gorfod datblygu cynlluniau gwahanol i esbonio sut y byddem yn mynd ati.

“Rhedodd law yn llaw â phrosiect gwenyn sydd gennym ar y safle, ac eto fe lwyddon ni i ddysgu mwy am bwysigrwydd peillwyr a bioamrywiaeth yn gyffredinol. Yna pan fuon ni yng Ngerddi Kew yn Llundain fe drefnodd Tyfu’n Wyllt i swyddog ddod i siarad â ni ac ychwanegu fwy fyth at ein gwybodaeth. Roedd hyn oll yn brofiad gwych inni a byddwn yn annog unrhyw un i “fynd ati i dyfu”.”

Mae gwobr Byddwch yn Greadigol yn agored i ddau gategori oed, dan 18 (12 i 17) a thros 18 (18 i 25), a bydd ymgeisyddion buddugol yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith celf neu berfformio eu darn sain yn yr awyr agored mewn digwyddiad haf amlwg yng ngwledydd Prydain.

Mae gwobr Trawsnewid Llecyn yn cynnig cyfle i bobl ifanc sydd eisiau gweithio gyda’i gilydd i drawsnewid llecyn lleol trwy ddefnyddio planhigion a blodau gwyllt brodorol. Gall y prosiect olygu mwy na hau a thyfu, ar yr amod ei fod yn cyflwyno neges am flodau gwyllt brodorol a llecynnau gwyllt yng ngwledydd Prydain mewn ffordd greadigol. Gall gynnwys defnyddio cynwysyddion gwahanol ar gyfer tyfu, celf a chrefft neu ddigwyddiadau a gweithgareddau hefyd.

Ychwanegodd Maria Golightly, Rheolwr Partneriaeth Tyfu’n Wyllt yng Nghymru:

Rydym yn chwilio am bobl 12 i 25 oed sydd yn llawn o syniadau creadigol. Rydym yn annog pobl ifanc i adael i’w dychymyg redeg yn wyllt ac ystyried sut y gall blodau gwyllt gael ei ddefnyddio fel rhan o brosiect all trawsnewid ardal neu sut y gallant fod yn rhan o ddatblygiad gweledol neu clywedol arloesol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y syniadau gaiff eu cyflwyno a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni.”

Bydd panel o bobl ifanc yn beirniadu’r holl gynigion ac mae Tyfu’n Wyllt yn gweithio gydag Youth Cymru i benderfynu ar yr ymgeisyddion llwyddiannus.

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion i Byddwch yn Greadigol yw 25 Ionawr 2016 a’r dyddiad cau ar gyfer Trawsnewid Llecyn yw 22 Chwefror 2016. Bydd Tyfu’n Wyllt yn darparu cefnogaeth trwy gydol y broses, o drafod syniadau gydag ymgeisyddion posib, ac ymlaen i wneud i bethau ddigwydd. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ewch i’r wefan: https://www.growwilduk.com/content/grow-it. Er mwyn gofyn cwestiwn neu drafod eich syniad prosiect e-bostiwch: growforit@growwilduk.com neu ffoniwch Maria Golightly 07917 266445.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau