Gwaith adeiladu i gychwyn ar gampws newydd £20 miliwn Coleg y Cymoedd yn Aberdâr wrth i’r cynllniau gael eu derbyn

Derbyniwyd cynlluniau coleg newydd gwerth £20 miliwn ar gyn iard nwyddau rheilffordd a bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn fuan.

Cynhaliwyd cyfarfod o bwyllgor rheoli datblygiadau Rhondda Cynon Taf nos Iau a roddodd sêl bendith ar gynllun prosiect Coleg y Cymoedd yn Robertstown, nid nepell o Orsaf Rheilffordd Aberdâr ac ysgol Gymunedol newydd sbon Aberdâr.

Dywedodd Judith Evans, pennaeth Coleg y Cymoedd ei bod “wrth ei bodd ac yn ddiolchgar” bod y coleg wedi cael caniatâd i fwrw ymlaen â’r gwaith.

Yn ystod Chwefror, clustnodwyd y datblygiad a fydd yn disodli’r campws presennol yng Nghwmdâr yn gynllun â blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Ysgolion yr 21 – a allai ei ariannu hyd at £11 miliwn.

Dywedodd Ms Evans: “Rydyn i wrth ein bodd bod y cynlluniau ar gyfer campws newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr wedi’u cymeradwyo er mwyn i ni allu cychwyn ar y gwaith adeiladu yn y Flwyddyn Newydd.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar bod y cyngor yn ein cynorthwyo i wireddu’n cenhadaeth o ddatblygu rhagoriaeth mewn addysg a sgiliau ar gyfer holl ddysgwyr Rhondda Cynon Taf.

“Mae pawb yn y coleg yn awyddus i weld y datblygiad hwn yn darparu’r cyfleusterau gorau ar gyfer ein dysgwyr yn Aberdâr a’r cymunedau cyfagos.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arbennig i gydweithio gyda’r ysgolion cyfagos i ddatblygu cwricwlwm sy’n ategu’r hyn y maen nhw’n ei gynnig.”

Bydd coleg newydd Heol Wellington yn gwasanaethu hyd ar 800 o fyfyrwyr.

Mae’r cynlluniau sydd, erbyn hyn, wedi’u derbyn yn cynnwys ail-wampio’r orsaf rheilffordd segur bresennol ac adeiladir maes parcio ar gyfer 133 o geir, gan wneud defnydd o’r mynediad sydd eisoes yn bodoli

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghanolfan Hamdden Sobell yn Aberdâr ddiwedd Hydref er mwyn i bobl leol gael dweud eu dweud am y datblygiad, a bu aelodau pwyllgor cynllunio’r cyngor yn ymweld â Robertstown ar Dachwedd 30 i oleuo penderfyniad nos Iau.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau