Mae dysgwyr wedi bod yn defnyddio ei sgiliau cynllunio graffig i weddnewid muriau milfeddygfa yn Aberdâr.
Trodd practis milfeddygon Victoria at ddysgwr talentog a lleol i ddylunio a chreu arwydd mawr ar gyfer eu canolfan newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Aberdâr.
Mae Ethan Miller, 18, myfyriwr dylunio graffeg fydd ym mis Medi yn astudio Celf a Dylunio yng Ngholeg y Cymoedd, wedi cynllunio’r arwydd trawiadol ar gyfer yr adeilad.
“Roedd Ethan yn awyddus iawn i dderbyn yr her†meddai Marsha Kear, rheolwr derbynfa ‘Victoria Practice’.
“Bu’n gweithio’n galed am sawl wythnos cyn penderfynu ar y cynllun terfynol. Roedden ni wedi’n rhyfeddu wrth weld y gwaith gorffenedig.â€
Mae’r arwydd, gyda llofnod Ethan ar ei ymyl, yn ymestyn dros hanner wal yr holl adeilad.
Gan fod y practis yn rhan annatod o’r gymuned yn Aberdâr a Merthyr, roedden nhw am roi rhyddid llwyr i’r artist ynglŷn â’r cynllun a’r deunyddiau, cyn belled a’i fod yn cydweddu â lliwiau’r practis gwreiddiol ym Merthyr Tudful.
“Wnes i roi penrhyddid iddo,†medd Marsha, gan ychwanegu, “Fe fyddwn i’n bendant yn ei ddewis eto. Roedd yn arddangos cymaint o ymroddiad ac fe weithiodd yn eithriadol o galed.â€
Mae ‘Victoria Vets’ yn bwriadu defnyddio sgiliau Ethan i’r dyfodol pan fyddan nhw’n agor rhagor o ganolfannau newydd.
Ar ôl derbyn cyfarwyddyd gan Marsha, Ethan ei hun fu’n darparu’r delweddau.
“Roedd y brîff yn un gweddol hawddâ€, meddai Ethan. “Rwy’n gyfarwydd â defnyddio Photoshop, felly wnes i greu’r cynlluniau ar hwnnw. Yna eu dangos i Marsha a bu hithau’n fy helpu i ddewis y goreuon.â€
Gan ei fod yn awyddus i berffeithio ei gelf cyhoeddus, dywed Ethan fel bu iddo roi cynnig ar wahanol gynlluniau a thechnegau.
“Ond roedden ni wedi newid gormod a doedd e ddim yn ymddangos yn ddigon proffesiynol.â€
Fodd bynnag, mae’r artist yn hapus gyda’r gwaith terfynol, oedd wedi ei brintio ar haen o aliwminiwm ac yna’i orchuddio â farnais sglein.
“Mae’r aliwminiwm yn para’n hir ac yna fe benderfynais i ychwanegu y farnais sglein er mwyn iddo bara’n hwy eto,†meddai, “ac y mae nawr yn sefyll allan yn fwy fyth.â€
Mae Ethan, sydd wedi gwneud cais i astudio am Ddiploma Astudiaethau Sylfaen mewn Celf a Dylunio ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, yn dweud bydd y cyfle hwn yn hwb i’w yrfa.
“Rydw i’n awyddus iawn i fynd i fyd paratoi arwyddion a chreu logos i gwmnïau mawr. Mae hyn wedi rhoi cychwyn da i mi.â€
Mae Marsha hefyd yn credu bydd y comisiwn yn help i yrfa Ethan. “Mae hwn yn waith syfrdanol i’w roi mewn portffolio a hynny mor gynnar yn ei yrfa. Rwy’n siwr bydd hyn yn creu argraff ar unrhyw ddarpar gyflogwr.â€