Gweddnewid bwyty’r coleg ar ôl cael ei enwi ymhlith y goreuon

Mae grŵp o egin gogyddion wedi troi eu llaw at farchnata a dylunio mewn ymgais i adfywio brand bwyty eu coleg i adlewyrchu ei statws ar ben rhestr y bwytai gorau ar TripAdvisor.

Cafodd pedwar dysgwr o Goleg y Cymoedd,a phob un yn astudio cwrs NVQ Coginio Proffesiynol, eu dewis yn arbennig i gydweithio gyda chwmni dylunio Plain Graffic Designs i ailfrandio bwyty’r coleg yn dilyn yr acolâd. Rhestrir Bwyty Nant ar gampws Nantgarw yn un o dri bwyty gorau Caerdydd ar TripAdvisor.

Gyda help Gareth Pugh o Plain Graffic, cwmni o arbenigwyr dylunio a leolir ym Mhontypridd, dyfeisiodd y dysgwyr atebion pendant i adnewyddu’r bwyty a chadw diddordeb y cyhoedd. Gan gydweithio, trafododd y grŵp, ynghyd â rhai o diwtoriaid y coleg, y weledigaeth ar gyfer Bwyty Nant a’r meysydd lle gellid gwella. Roedd hyn yn cynnwys mwy o ddeunydd hyrwyddo ac ymestyn yr oriau agor er mwyn cynnig bwydlen min nos.

Fel rhan o gwrs NVQ Coginio Proffesiynol, bu’r dysgwyr yn rhoi eu theori coginio ar waith ym Mwyty Nant, gan weithio yno ar y tri diwrnod y mae ar agor yn ystod yr wythnos. Penderfynwyd, oherwydd hyn, mai nhw fyddai’r bobl i ailfrandio’r bwyty, gan ehangu eu gwybodaeth am y diwydiant a dod ag elfen bersonol i’r brand.

Dewiswyd Emily Pooley, 18 oed o Bontypridd yn un o’r pedwar dysgwr sy’n astudio ar y cwrs Coginio Proffesiynol, i gymryd rhan yn y prosiect ailfrandio. Dywedodd, “Roedd yn wych i fod yn rhan o’r tîm ail-frandio gan ei fod mor wahanol i’r cwrs coginio.

“Rydyn ni wedi bod yma ers dwy flynedd erbyn hyn ac mae’n bwysig i bobl gael gwybod ein bod ar agor i’r cyhoedd. Gobeithio bydd yr ail-frandio hwn yn denu llawer o gwsmeriaid.”

Dywedodd Gareth Pugh o Plain Graffic, a weithiodd gyda’r dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd, “Roedd y rhai a gymerodd rhan yn y coleg am wybod cymaint â phosibl am y prosiect ac roedd yn galonogol iawn i weld pa mor awyddus roedden nhw i fod yn rhan ohono.

“Roedd yr adborth gawson ni yn ardderchog a chawson ni syniadau gwych gan bob person oedd yn cymryd rhan sut i symud ymlaen. Mae’n wir i ddweud bod y prosiect yn gyffredinol wedi bod yn llwyddiant, nid yn unig y canlyniad ond yr holl broses ac heb os nac onibai pobl y coleg a gymerodd ran oedd yn gyfrifol am hyn.”

Mae dau fwyty arall y coleg, Bwyty Scholars ar gampws Ystrad Mynach a Bwyty Llewellyn ar gampws Aberdâr hefyd wedi cael eu hail-frandio ac yn y dyfodol agos byddan nhw hefyd yn cael eu crybwyll ar TripAdvisor. Mae’r salon ar gampws Nantgarw hefyd wedi cael ei ail-frandio. Mae’r salon ar agor i’r cyhoedd bob dydd yn ystod y tymor, ac mae’n cynnig ystod o driniaethau gwallt a harddwch gan ddysgwyr yn y coleg. Wrth adnewyddu golwg ffres y salon, y gobaith ydy denu rhagor o gwsmeriaid.

Dywedodd Paula Marsh, Pennaeth Arlwyo yng Ngholeg Cymoedd, “Mae’r bwyty yn wir yn llafur cariad i’r dysgwyr hyn gan eu bod yn gweithio yno yn ystod yr wythnos, felly bu’n wych eu gweld yn rhan o’r ail-brandio hwn. Rydyn ni bob amser yn annog ein dysgwyr i ddefnyddio’u talentau mewn meysydd eraill o fewn y coleg ac mae’r prosiect hwn wedi dangos bod nifer o’n dysgwyr coginio yn meddu ar dalent i farchnata! Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weld eu gwaith caled yn dwyn ffrwyth.”

Ar hyn o bryd, mae Bwyty Nant ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd ar agor rhwng Dydd Mawrth a Dydd Gwener. Mae Bwyty Scholars ar gampws Ystrad Mynach ar agor ar Ddydd Iau a Dydd Gwener tra bod Bwyty Llewellyn ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Iau.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau