Gweithdy Shauna’n ysbrydoli dysgwyr y Cymoedd

Heddiw. cyhoeddodd Sefydliad Edge, elusen addysgol annibynnol bod Coleg y Cymoedd wedi’i ddewis fel un o’r sefydliadau hynny a fydd yn derbyn grant Gronfa Arloesedd a Datblygu.

Sefydlwyd y gronfa grantiau ar 10fed penblwydd sefydlu Edge er mwyn cynorthwyo arloesedd mewn addysg dechnegol, ymarferol a galwedigaethol.

Derbyniodd Coleg y Cymoedd£100,000 i sefydlu canolfan ragoriaeth i gyflenwi hyfforddiant o’r ansawdd flaenaf ar gyfer peirianwyr rheilffyrdd. Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â phroblem benodol sgiliau yng Nghymru o ran y rhaglen trydaneiddio rheilffyrdd Cymru. Bydd y Ganolfan yn cynnig cymysgedd o gymwysterau NVQ o lefel 2 hyd at Lefel 6 ynghyd â rhaglen brentisiaeth ac mae dros 19 o gwmnïau wedi ymrwymo i gymryd prentisiaid. Bydd y Coleg hefyd yn gweithio gydag ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd ym maes peirianneg.

Dywedodd Jan Hodges OBE, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Edge:“Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Hyfforddiant Rheilffyrdd yn lle blaenllaw ar gyfer addysg dechnegol, ymarferol a galwedigaethol yn y sector ac rydyn ni wrth ein bodd i allu cynorthwyo Coleg y Cymeodd wrth iddyn nhw gychwyn ar y fenter.

Mae Edge wedi gweithio’n galed yn ystod y degawd diwethaf i geisio sicrhau cysylltiad nes rhwng addysg ac anghenion sgiliau economi’r DU. Mae’r gronfa grantiau wedi caniatáu i ni i ymestyn ar draws y wlad fel y gall Coleg y Cymoedd ac eraill sy’n derbyn grantiau helpu i ddatblygu hyn yn lleol, gan ddarparu llwybrau uchel eu hansawdd ar gyfer pobl ifanc lwyddo.”

Hon oedd yr ail rownd o geisiadau ers i’r gronfa gael ei sefydlu yn 2014.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Coleg y Cymoedd wrth ei fodd i dderbyn cymorth gan Gronfa Arloesedd a Datblygu Sefydliad Edge. Rydyn ni’n hapus i allu cynorthwyo datblygiad y rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru a fydd yn creu gwaith i bobl ifanc Rhondda Cynon Taf a Chaerffili. Bydd yr arian hwn yn sicrhau bod ein staff yn dal i uwchraddio’u sgiliau er mwyn cwrdd ag anghenion y sector a sicrhau ein bod yn arwain y sector.”

Roedd pob cais i’r gronfa grantiau yn cefnogi Chwe Cham Edge ar gyfer Newid ac yn delio ag o leiaf dau o’r tri nod canlynol: cynorthwyo i greu sefydliadau newydd, cynorthwyo datblygiad ymglymiad dwys cyflogwyr, delio â meysydd lle mae prinder sgiliau yn economi’r DU.

Hefyd, bydd pob prosiect yn cynorthwyo i ledaenu cymorth yn effeithiol ym maes addysg alwedigaethol a hyfforddiant ac yn gallu cefnogi datblygu pellach neu ail-gais.

Am ragor o wybodaeth am Gronfa Arloesedd a Datblygu Edge ewch i: www.edge.co.uk/projects/the-edge-foundation-innovation-and-development-fund

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau