Mae’n bwysig i ni fod plant yn mwynhau ac yn cofio eu profiad o fod yn y feithrinfa. Mae ganddon ni ystod lawn o weithgareddau sy’n datblygu eu sgiliau a’u mwynhad ym mhob maes.
Caiff gweithgareddau eu cynllunio sy’n annog y plant i gymryd eu tro, a chwarae ar y cyd ag eraill, deall teimladau plant eraill ac ati.
Rydyn ni’n annog y plant i olchi eu dwylo a brwsio eu dannedd ac yn annog y plant i ddod yn annibynnol drwy ganiatáu iddyn nhw wisgo eu hunain ac ati.
Mae ganddon ni amrywiaeth o weithgareddau dan do ac yn yr awyr agored sy’n annog datblygiad corfforol – gall hyn fod yn sgiliau echddygol manwl a mawr, o dynnu lluniau, posau a didolwyr siapiau i bedlo, dringo, cydbwyso a neidio.
Rydyn ni’n darparu amrywiaeth o weithgareddau sy’n annog mathemateg gynnar, o ddidoli lliwiau a phatrymau a siapiau, cyfri rhifau, gemau paru, mesur ac arllwys ac ati.
Mae pob cyfnod chwarae yn annog datblygiad iaith, ac rydyn ni’n mwynhau caneuon a rhigymau, edrych ar lyfrau, chwarae gemau syml a gweithgareddau gwneud marciau.
Rydyn ni’n mwynhau ystod lawn o weithgareddau creu llanast gan gynnwys paentio, gludo a gwneud llanast synhwyraidd gyda gwahanol sylweddau.
Mae ganddon ni gornel gartref boblogaidd sydd wedi ei thrawsnewid yn archfarchnad, canolfan ailgylchu, siop trin gwallt a deintyddfa – gan annog chwarae rôl ym mhob sefyllfa sy’n helpu’r plant i ddod yn gyfarwydd â nhw, gan ganiatáu iddyn nhw ddeall y byd rydyn ni’n byw ynddo.
Mae’r plant wrth eu boddau â ffigyrau byd bach, tai doliau, garejys, y sŵ a ffermydd ac mae ganddon ni amrywiaeth o offer chwarae o’r fath.
Pan fydd hi ychydig yn dawelach yn y feithrinfa, rydyn ni’n awyddus i archwilio’r amgylchedd ehangach sy’n cynnwys ymweliadau â llyfrgell y coleg, gardd farchnad ac ysgol goedwig. Rydyn ni’n mynd am dro i’r parc lleol a siopau’r pentref pan fydd y tywydd yn sych.