Gwisgoedd dysgwyr y Coleg yn llwyddiant enfawr ar y llwyfan cenedlaethol

Mae grŵp o ddysgwyr creadigol o goleg yn Ne Cymru wedi gweld eu gwisgoedd ar y llwyfan o dan y goleuadau llachar ar gyfer addasiad theatr gerddorol o animeiddiad enwog.

Mae deg dysgwr adeiladu gwisgoedd o Goleg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn dod â chymeriadau’r ffilm Dreamworks boblogaidd Madagascar yn fyw ar gyfer cynhyrchiad llwyfan o’r ffilm yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd.

Dewiswyd y dysgwyr blwyddyn gyntaf, sydd i gyd yn astudio Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Gwisgoedd ar gyfer Sgrin a’r Llwyfan, i greu’r gwisgoedd ar gyfer y sioe, yn seiliedig ar y dyluniadau gwreiddiol o gymeriadau’r animeiddiad, fel rhan o gydweithio rhwng y coleg a Theatr Orbit.

Mae dysgwyr o gampws Nantgarw wedi bod yn gweithio’n agos gyda dylunydd  gwisgoedd preswyl y coleg, Richard Embling, a gynlluniodd y cynhyrchiad Madagascar, yn ogystal â sêr y sioe, i ddatblygu’r gwisgoedd heriol o’r cysyniad cychwynnol i’r cynnyrch terfynol.

Gan greu popeth o siwtiau tynn a phadin corff i garnau a chynffonau, roedd y gwneuthurwyr gwisgoedd brwd hefyd wrth law bob amser y tu ôl i’r llenni drwy gydol y sioe pum nos i wneud unrhyw addasiadau neu atgyweiriadau, gan ymroi’n llwyr i’r profiad o gynhyrchiad byw.

Dywedodd Martha Okon, 19, un o ddysgwyr y coleg a oedd yn rhan o’r sioe: Mae gweithio ar y cynhyrchiad byw o Madagascar wedi bod yn brofiad anhygoel ac roedd yn wych gweld fy ngwisgoedd fy hun ar y llwyfan o flaen cymaint o bobl.

“Mae wedi bod yn her cynhyrchu gwisgoedd anifeiliaid ar gyfer y corff dynol sydd nid yn unig yn dal y llygad ac yn realistig, ond sydd hefyd yn ddigon gwydn i wrthsefyll wythnos o weithgareddau drwy gydol pantomeim. Rwyf wedi mwynhau gweithio ar y prosiect hwn ac mae’r cyfle wedi fy ngwneud yn fwy ymrwymedig i ddilyn fy mreuddwyd o fod yn ddylunydd gwisgoedd ar gyfer cynyrchiadau byw. “

Sicrhaodd y cyfarwyddwyr y tu ôl y sioe, sy’n dilyn bywydau cymeriadau Alex y Llew, Marty y Zebra, Melman y Jiraff a Gloria’r Hipo, cymorth dysgwyr adeiladu gwisgoedd y coleg ar ôl edmygu ansawdd eu gwaith ar gyfer cynyrchiadau byw eraill yn ardal Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys Cinderella, Aladdin a Dick Whittington.

Mae’r cwrs creu gwisgoedd arbenigol dwy flynedd yng Ngholeg y Cymoedd, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, yn cyflwyno dysgwyr i’r sgiliau torri ac adeiladu gwisgoedd sy’n ofynnol o fewn y meysydd ffilm a theatr.

Dywedodd arweinydd y cwrs, Emma Embling: “Rydym yn annog ein dysgwyr i gymryd rhan mewn cynifer o gynyrchiadau byw ag y bo modd i’w helpu i baratoi ar gyfer y diwydiant a’u rhoi ar y blaen o’u cymharu â graddedigion eraill o ran cyflogaeth. Mae’r cydweithio rhwng y cwrs a theatr Orbit ar Madagascar yn gyfle gwych i’n dysgwyr, gan roi profiad uniongyrchol amhrisiadwy o’r diwydiant adeiladu gwisgoedd. “

Trwy gydol y radd sylfaen, mae dysgwyr yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau byw i gael gwir ymarfer yn y diwydiant dylunio a chynhyrchu gwisgoedd er mwyn rhoi hwb i’w cyflogadwyedd.

Wrth sôn am yr adborth proffesiynol a chyhoeddus ar waith y dysgwyr ‘, parhaodd Emma: “Mae’r adborth a gawsom gan y dysgwyr wedi bod yn wych, felly hefyd yr ymateb gan y cyhoedd yn gyffredinol a’r theatr ei hun, a oedd i gyd wedi cael argraff dda iawn o waith caled y myfyrwyr. Diolch i lwyddiant y sioe, rydym bellach mewn trafodaethau gyda’r cwmni cynhyrchu ynghylch prosiectau y gallwn gydweithio arnynt yn y dyfodol. “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau