Mae dau egin wneuthurwyr ffilm gam yn nes at wireddu eu breuddwyd ar ôl ennill gwobr ffilm Gymreig.
Fe wnaeth ffilm Alycia Pritchard, 20, a Scarlett Clarke, 18, y ddwy yn eu blwyddyn olaf ar gwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd yn coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf blesio’r beirniaid yng Ngwobrau Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc Zoom Cymru. Enillodd yr egin wneuthurwyr ffilm y categori Y Ffilm Arbrofol Orau, gan guro dwy ffilm arall oedd ar y rhestr fer.
Ar y cychwyn roedd yn rhan o aseiniad cwrs a osodwyd ym mis Tachwedd 2014 i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwnaeth safon uchel ffilm Alycia a Scarlett argraff ar aelodau staff y coleg. Mae’r ffilm o’r enw ‘Goodbye Mam’ yn stori emosiynol am fam a’i mab yn anfon llythyron at ei gilydd yn ystod y rhyfel ac yn gorfod ffarwelio yn y pen draw. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Alycia ac fe’i cynhyrchwyd gan Scarlett.
Gan gydnabod talent y ddwy, anogodd Amanda Stafford, eu tiwtor, nhw i anfon eu ffilm i gystadleuaeth Gwobrau Zoom Cymru. Cynhelir y gystadleuaeth fel rhan o’r ŵyl ehangach sef Gŵyl Ffilm Ieuenctid Rhyngwladol Zoom a ddigwyddodd yn ystod wythnos olaf Mawrth ar draws saith lleoliad yng Nghymoedd De Cymru. Roedd yr ŵyl yn cynnwys cymysgedd o weithdai a dosbarthiadau meistr lle gwelwyd tiwtoriaid a gwneuthurwyr ffilm arbenigol yn trosglwyddo cyngor a gwybodaeth i’r egin wneuthurwyr ffilm. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ym Mhen-y bont ar Ogwr.
Dywedodd Alycia, sy’n dod o Gaerffili: “Roedd yn swreal i ennill! Teimlo ein bod wedi cyflawni rhywbeth pwysig yn enwedig gan fod y ffilmiau eraill yn ein categori yn dda iawn.
“Roedd yn wych gweld creadigrwydd yr holl wneuthurwyr ffilm, rhai mor ifanc â 10 oed. Dw i mor falch bod ein tiwtor wedi’n hannog i gystadlu.â€
Cyflwynodd Scarlett, o Lanilltud Faerdre, y wobr i’w diweddar ewythr oedd yn ffan mawr o’u gallu: Dw i’n gwybod y byddai fy niweddar ewythr yn hynod o falch ein bod wedi ennill. Hwn ydy fy hoff brosiect hyd yn hyn ac felly roedd yn wych ennill gwobr amdani!â€
Breuddwyd Alycia a Scarlett ydy gweithio yn y diwydiant teledu yn y pen draw ac maen nhw eisoes wedi derbyn cynigion amodol i astudio ffilm ym Mhrifysgol De Cymru fis Medi nesaf.
Dywedodd y tiwtor, Amanda Stafford: “Rydyn ni’n hynod falch o’r hyn y mae Alycia a Scarlett wedi’i gyflawni. Fe wnaeth eu ffilm ddal trasiedi’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru ac mae’n wych eu gweld yn derbyn y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu.â€
“