Gwobr Efydd i ddysgwyr y Cymoedd

Derbyniodd grŵp o ddysgwyr sy’n astudio ar y cwrs Chwaraeon a Gwasanaeth Cyhoeddus Cam Tri ar gampws Coleg y Cymoedd Nantgarw eu tystysgrifau a’u bathodynnau Efydd Caeredin Dug gan y Pennaeth, Karen Phillips.

Cyflynwyd y tystysgrifau mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn y coleg i gydnabod cyflawniadau’r dysgwyr yn ystod y rhaglen, ymhlith y rhain roedd Gwirfoddoli, Gweithgarwch Corfforol, Sgiliau ac Alldeithio.

Bob blwyddyn mae tua 112,000 o bobl ifanc yn y DU yn cymryd rhan yn y Wobr a sefydlwyd gan Ddug Caeredin bron i 60 mlynedd yn ôl; i annog unrhyw un rhwng 14 a 24 oed i ymgymryd ag ystod o weithgareddau sy’n datblygu sgiliau fel arweinyddiaeth, dyfalbarhad, gwaith tîm a chyfathrebu.

Fel rhan o’u her Efydd treuliodd y grŵp o ddysgwyr Cymoedd dri mis yn codi arian ar gyfer Llamau, gan godi dros £300 trwy amrywiol weithgareddau gan gynnwys ras 5k ym Mharc Gwledig Tredegar, gwerthu hamperau a nifer o werthiannau pen bwrdd.

I gwblhau’r adrannau Gweithgarwch Corfforol a Sgiliau, mynychodd y grŵp gampfa Aspire ddwywaith yr wythnos am gyfnod o 12 mis gan gymryd rhan mewn profion ffitrwydd awyr agored hefyd. Hefyd,  dilynon nhw gwrs Cymorth Cyntaf dros gyfnod o 6 mis gan ennill tystysgrif lawn Ambiwlans Sant Ioan.

Ar gyfer rhan olaf y Wobr, fe wnaeth y dysgwyr gynllunio a hyfforddi ar gyfer eu halldaith ddeuddydd a oedd yn cynnwys taith gerdded 16 milltir. Treuliwyd y diwrnod cyntaf yn y wlad o amgylch Ystradfellte ar hyd Sarn Helen i Libanus gan orffen ar Ddiwrnod Dau gyda’r cymal nesaf o Libanus i Bencelli ar hyd llwybr y gamlas.

Wrth longyfarch y dysgwyr ar eu cyflawniadau, dywedodd y Pennaeth, “Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r gwobrau hyn i’r grŵp gan fy mod yn gwybod eich bod wedi gweithio mor galed i gyflawni’r Wobr. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn werthfawr nid yn unig gyda’ch astudiaethau yn y coleg ond hefyd yn eich bywyd personol. Mae’n amlwg, wrth wrando ar rai o’ch profiadau yn ystod y rhaglen, eich bod wedi mwynhau’r gweithgareddau gan ffrindiau newydd a magu hyder. Rwy’n dymuno’n dda ichi ar eich her nesaf ac rwy’n siŵr y bydd Gwobr Dug Caeredin o fantais wrth ichi chwilio am gyflogaeth ”.

Llongyfarchodd Val Smith, Tiwtor Cwrs a Chydlynydd Rhaglen Dug Caeredin, y grŵp a’u gwahodd i gymryd y cam nesaf – y Wobr Arian, sy’n cynnwys 6 mis o Wirfoddoli, Gweithgarwch Corfforol a Sgiliau ac alldaith tridiau / dwy noson.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau