Gwobr i dîm darpar entrepeneuriaid Coleg y Cymoedd mewn cystadleuaeth Genedlaethol.

Yn gynharach eleni, llwyddodd dysgwr o Goleg y Cymoedd i ennill lle ar raglen UNIQ, rhaglen nodedig Prifysgol Rhydychen; mae ysgolion haf UNIQ yn rhaglen fynediad sy’n agored i ddysgwyr yn astudio blwyddyn gyntaf eu Lefel A.

Nod y rhaglen ydy rhoi blas realistig o fywyd myfyrwyr yn Rhydychen a thargedu ymgeiswyr sy’n dod o ysgolion ac ardaloedd heb fawr o hanes o wneud cais i fynd i astudio yn Rhydychen

Roedd Megan Chambers, myfyrwraig 17 oed o Ferthyr Tudful, ar ei chwrs UG wrth ei bodd i gael ei dewis ar gyfer un o’r 1000 o leoedd a hynny o blith 4000 o ymgeiswyr eleni. Treuliodd wythnod yng Ngholeg Hertford, Rhydychen, yn mynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai ar y broses o wneud cais i Rhydychen. Cafodd y dysgwyr flas ar amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol hefyd.

I sicrhau eu lle gofynnwyd i’r dysgwyr gyflwyno datganiadau personol yn amlinellu eu diddordeb yn eu dewis gwrs a’r rhesymau dros fynychu’r UNIQ. Gofynnwyd i aelodau staff y coleg i gadarnhau a chefnogi cais y dysgwr.

Dywedodd Megan, a sicrhaodd ei lle ar y cwrs Gwyddorau Dynol: “Roedd yn fraint i fynychu ysgol haf UNIQ eleni. Wnes i erioed freuddwydio bod mynd i Rydychen yn opsiwn i mi ond gwnaeth staff y coleg i mi gyflawni fy mhotensial ac mae cael fy nerbyn i’r ysgol haf wedi mynd a fi gam yn nes at hynny. Dw i’n astudio Lefel A Mathemateg, Cemeg a Bioleg ac felly roedd y cwrs Gwyddorau Dynol yn ddelfrydol i mi ei astudio yn y cwrs haf. Dw i’n meddwl mod i wedi cael fy nerbyn ar yr ysgol haf oherwydd y graddau wnes i eu cyflawni yn TGAU, sy’n dangos mod i’n benderfynol o weithio i wireddu fy mhotensial llawn. Roedd fy natganiad personol yn amlygu fy mrwdfrydedd dros fynychu UNIQ. Roedd hwn yn gyfle gwych ac fe wnes i fwynhau bob munud”.

Wrth longyfarch y dysgwyr dywedodd Ian Rees, Y Rheolwr Cynghrair Strategol: “Rydw i wrth fy modd bod Megan wedi cael lle ar ysgol haf Prifysgol Rhydychen eleni. Mae cyfleoedd fel hyn yn amhrisiadwy, yn darparu cipolwg ar fywyd yn un o’r prifysgolion mwyaf nodedig sydd i’w cael.

Yng Ngoleg y Cymoedd, rydyn ni’n hynod falch o’r dewis rydyn ni’n ei gynnig yn Lefel A ynghyd â’r addysgu rhagorol a’r cymorth ardderchog gan y staff. O gofio’u cymhelliant, y gobaith ydy y byddan nhw’n dilyn ôl traed un arall o’n dysgwyr a oedd y cyntaf o’n dysgwyr i sicrhau ei lle yn Rhydychen i astudio Saesneg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau