Gwobr i ddyn aeth ati i ddysgu er mwyn goresgyn iselder a gorbryder

Mae gŵr 37 oed wnaeth oresgyn pryder, iselder a defnyddio cyffuriau drwy ddysgu wedi ennill gwobr o fri.

Oherwydd teimladau o iselder a gorbryder, roedd Jamie Evans yn dueddol o ynysu ei hun oddi wrth eraill, cymaint nes byddai wythnosau’n mynd heibio heb unrhyw gyswllt dynol. Byddai’n defnyddio cyffuriau presgripsiwn i leddfu’r boen.

Bellach, mae ar frig ei ddosbarth ac yn cynllunio ei gamau nesaf yn y brifysgol, ar ôl canfod bod dysgu wedi ei helpu i ymdopi â’i heriau iechyd meddwl.

Enillodd gategori ‘Iechyd a Llesiant’ yng ngwobrau Ysbrydoli! eleni, yn gydnabyddiaeth o’i lwyddiant a’i ymroddiad i ddysgu er gwaethaf popeth.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac yn gwobrwyo’r rhai sydd wedi dangos grym dysgu, magu hyder a datblygu cymunedau bywiog a llwyddiannus.

Mae Jamie yn un o 12 enillydd sy’n ymddangos fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, wythnos llawn sesiynau blasu a dosbarthiadau meistr sydd â’r nod o ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed, ac sy’n cael eu cynnal ar-lein eleni o  21-27 Medi.

Dywedodd: “Dechreuais ddioddef gorbryder yn fy arddegau. Roedd gen i broblemau iechyd a oedd yn effeithio arna i bob dydd, a olygai fy mod yn colli’r ysgol, a dyna lle dechreuodd y cyfan.

“Datblygais orbryder andwyol ac yn y pen draw fe wnes i roi’r gorau i fwyta fel ffordd o ateb y broblem. Oherwydd hynny, collais chwe stôn mewn llai na blwyddyn, ond dim ond gwaethygu pethau wnaeth hyn.

Cafodd Jamie ddiagnosis o glefyd Crohn, a daeth ei orbryder yn rhwystr enfawr, gan ei atal rhag gweithio, cymdeithasu a gweld unrhyw un y tu allan i’w gartref.

“Ar fy ngwaethaf, fyddwn i ddim yn codi o’r gwely, ddim yn ’molchi na bwyta. Fyddwn i ddim yn ateb fy ffôn pan oedd fy nheulu’n ffonio a byddwn yn gwneud esgusodion pan fyddai ffrindiau yn fy ngwahodd i allan, felly roion nhw’r gorau iddi yn y diwedd. Doedd gen i ddim i edrych ymlaen ato, ac roeddwn i wedi colli pob awch at fywyd. Roeddwn i wedi bod yn ddi-waith ers 10 mlynedd oherwydd fy ngorbryder, fy iselder a phroblemau iechyd, a doedd gen i ddim ddyheadau na chynlluniau at y dyfodol – dim ond goroesi o ddydd i ddydd oeddwn i. Roeddwn i’n ddigalon iawn.

“Cefais boenladdwyr ar bresgripsiwn, ond dechreuais ddibynnu mwy a mwy arnyn nhw, a’u cymryd nhw’n amlach gan ‘mod i’n teimlo mor anhapus.  Yn y pen draw, pan nad oedden nhw’n ddigon, troais at gyffuriau cryfach ac aeth fy mhroblemau o ddrwg i waeth. Fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth camddefnyddio sylweddau neilltuo mentor cymheiriaid i mi.”

Yno, cafodd daflen am gwrs Seicoleg 12 wythnos gydag Addysg Oedolion Cymru, a oedd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag elusen iechyd meddwl New Horizons. Roedd y cwrs ar fin dechrau, ac aeth ati i gofrestru.

“Ar y diwrnod cyntaf, sefais y tu allan i’r dosbarth am tua 20 munud yn edrych ar y drws, yn arswydo cyn mynd i mewn. Roeddwn i’n swp sâl yn poeni, a bu bron i mi fynd adref. Ond cliciodd rhywbeth y tu mewn imi, a gorfodais fy hun i fynd i’r dosbarth.

“Roedd fy nosbarth cyntaf yn anhygoel. Roeddwn i’n teimlo gartrefol ar unwaith, ac yn edrych ymlaen at y dosbarth nesaf – roeddwn i’n ysu i ddysgu mwy. Allwn i ddim cofio’r tro diwetha’ i mi gael rhywbeth i anelu ato, ac roedd gen i gymhelliant i roi trefn ar fy mywyd.”

Pan oedd y cwrs yn dod i ben, doedd Jamie ddim yn teimlo’n barod i roi’r gorau iddi ac fe gofrestrodd ar ddosbarth Troseddeg gyda’r un tiwtor, er bod angen teithio 40 munud i’r cwrs – rhywbeth nad oedd wedi’i drechu o’r blaen. Ymhen ychydig wythnosau, roedd ar drydydd cwrs magu hyder, y bu’n dilyn tri chwrs yr wythnos, cyn cofrestru yn y pen draw i wneud cwrs Mynediad yn y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd.

“Fe wnes i gwrdd â chymaint o bobl newydd a dechreuodd fy ngorbryder ddiflannu’n raddol. Roeddwn i’n mwynhau fy hun ac roedd gen i deimlad cadarnhaol braf y tu mewn i mi. Roedd gen i bwrpas mewn bywyd.”

Ond ym mis Tachwedd 2018, yn gynnar yn ei gwrs, bu Jamie mewn damwain car. Cafodd anafiadau corfforol a waethygodd symptomau’r clefyd Crohn a daeth ei deimladau gorbryderus yn ôl.

Cwblhaodd y cwrs, gan ddod ar frig y dosbarth, ac er bod ei diwtor am iddo wneud cais i fynd i’r brifysgol, penderfynodd gymryd blwyddyn i ffwrdd i wella.

 “Roeddwn i’n arfer ofni’r anhysbys, ond bellach yn y dosbarth, rwy’n cwrdd â phobl newydd ac yn gwybod bod pawb yn mynd drwy eu pethau eu hunain ac yn delio â phroblemau eu hunain, a does neb yn fy marnu. Doedd dim byd yn fy mhoeni mewn gwirionedd yn yr ystafell ddosbarth, a dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i wneud rhywbeth sy’n rhoi cymaint o bleser i mi.

Nawr mae Jamie yn gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i gredu bod golau ym mhen draw’r twnnel.

“Dw i wedi elwa cymaint ar ddysgu, y tu hwnt i bob disgwyl.  Nid dim ond gwybodaeth am bwnc o’r dosbarthiadau, ond sgiliau gwerthfawr, hunan-gred, gwydnwch, cyfeillgarwch ac iechyd meddwl gwell”.

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu dysgu gydol oes, boed hynny mewn sefydliadau addysgol, ym myd gwaith, yn y cartref neu fel gweithgaredd hamdden. Bydd yr wythnos yn llawn sesiynau blasu a hanesion am lwyddiant i ddangos pam y gall dysgu sgil newydd newid eich stori.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Hyd yn oed heb seremoni mae mor bwysig ein bod yn dathlu enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! sydd wedi dangos dycnwch eithriadol. 

“Mae Jamie yn enghraifft wych o sut mae dysgu gydol oes wedi newid ei fywyd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae’r ffaith bod pobl o bob oed yn ennill cymwysterau yn ein helpu ni i adeiladu gweithlu sydd â’r sgiliau cywir ar gyfer y normal newydd, ond mae hefyd yn ysbrydoli pobl i barhau i ddysgu ac archwilio cyfeiriadau gwahanol, gan gadw eu meddyliau a’u cyrff yn iach hefyd.”

Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith: ““Ni fu erioed amser gwell nac amser pwysicach i ddechrau dysgu ac mae enillwyr ein Gwobrau Ysbrydoli! yn dangos yn union beth sy’n bosibl. P’un a ydych chi eisiau dysgu sgiliau i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd, gwella eich iechyd, neu ddysgu am rywbeth sydd wedi mynd â’ch bryd erioed, nawr yw’r amser i godi’r ffôn neu fynd ar-lein i gael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau eich taith. 

“Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd miloedd o oedolion ledled Cymru newid eu stori drwy ddysgu rhywbeth newydd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd straeon anhygoel pob un o enillwyr y gwobrau yn ysbrydoli miloedd yn fwy i gymryd y cam cyntaf hwnnw yn ôl i addysg oedolion.” 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau