Gwobr i’r Coleg am gynghori dysgwyr am y llwybr gorau i waith

Mae cwmni ffilm Cymreig wedi cyflogi myfyrwraig o Goleg y Cymoedd ar ôl gweld ei chraffter busnes mewn digwyddiadau menter.

Cynigiodd Anytime Films sydd wedi’u lleoli yn Abertyleri waith i Atlanta Taylor, myfyrwraig Lefel A 17 oed o Lanilltud Faerdre, ar ôl bod yn ffilmio dau ddigwyddiad menter yr oedd hi’n cymryd rhan ynddyn nhw. Synnwyd nhw gan ei sgiliau gwerthu ac maen nhw am ddefnyddio’i sgiliau i geisio denu busnes newydd.

Mae Atlanta yn astudio busnes, mathemateg a’r gyfraith yng Ngholeg y Cymoedd ar gampws £40 miliwn Nantgarw a bydd yn cychwyn gydag Anytime Films ar ôl ei harholiadau ym mis Chwefror.

Fel rhan o haen fenter Bagloriaeth Cymru, mae Coleg y Cymoedd yn gysylltiedig â Chonsortiwm Menter De Ddwyrain Cymru sy’n cynnwys saith coleg. Mae myfyrwyr Lefel A yng Ngholeg y Cymoedd yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau menter yn ystod y flwyddyn academaidd er mwyn gwella’u sgiliau, rhoi hwb i’w hyder a’u hamlygu i ddarpar gyflogwyr.

Daeth Atlanta i sylw Anytime Films gyntaf ym mis Ebrill pan oedd yn cynrychioli Coleg y Cymoedd yn y ‘Big Pitch’ a drefnwyd gan Syniadau Mawr Cymru yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd. Yr her i’r chwe thîm o fyfyrwyr o golegau De Cymru oedd darparu cyflwyniad ar sut y bydden nhw’n hyrwyddo gweithgareddau awyr agored yn y Cymoedd.

Ym mis Gorffennaf, gwelodd Anytime Films Atlanta unwaith eto tra’n ffilmio digwyddiad menter arall lle roedd rhaid i fyfyrwyr o bum coleg werthu cynhyrchion gweithgynhyrchwyr o Gymru mewn siop dros dro yn Arcêd Frenhinol Caerdydd. gan efelychu rhaglen ‘The Apprentice’ y BBC, gweithiodd Atlanta gyda myfyrwyr nad oedd erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen i gyflwyno i’r gweithgynhyrchwyr y modd y bydden nhw’n gwerthu’r cynhyrchion ar ran y cwmni. Ei thîm hi enillodd gyda’u dewis o ddillad babanod a phlant bach a gemwaith. Cysylltodd tîm Atlanta gyda’r cynhyrchwyr i drafod sut orau gallen nhw arddangos y cynnyrch, fe gynhyrchon nhw gynllun busnes a nhw oedd â’r gwerthiant mwyaf ar y diwrnod.

Dyweodd Nathan Webb, perchennog a chyfarwyddwr Anytime Films: “Mae’n hynod o bwysig i gael pobl ifanc sy’n llawn egni a syniadau i mewn i gwmnïau. Mae Atlanta wedi creu argraff fawr arnon ni a dw i’n credu ei bod yn wych bod Coleg y Cymoedd yn rhoi cyfle i’w fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda hi.”

Gobaith Atlanta, sydd, yn ei hamser hamdden yn hoffi chwarae pêl foli, ydy mynd i Brifysgol Northumbria yn Newcastle i astudio arweinyddiaeth busnes a rheoli corfforaethol ac mae hi’n gobeithio cael ysgoloriaeth pêl foli.

Dywedodd Atlanta: “Fy ngobaith ydy bod yn berson busnes llwyddiannus ryw ddydd ond dw i ddim yn siŵr eto pa fath o fusnes hoffwn i ei sefydlu. Mae cymryd rhan yn y mentrau hyn tra’n gwneud fy lefel A a bod yn rhan o Anytime Films wedi roi hwb gwirioneddol i mi, i fy hyder ac i fy CV.

“Yng Ngholeg y Cymoedd caiff myfyrwyr Lefel A nifer fawr o gyfleoedd ac rydyn ni’n cael ein trin fel oedolion ifanc yn meddu ar botensial dibendraw. Dw i wir yn hoffi’r rhyddid i astudio pan dw i eisiau a manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau uwch dechnoleg.”

Dywedodd Henry Yeomans, cydlynydd Bagloriaeth Cymru yn y Ganolfan Chweched Dosbarth: “Cryfder Atlanta ydy creu cyflwyniadau a’u cyflenwi, ac mae’n awyddus a brwd iawn dros gyflawni ym myd busnes. Yn nigwyddiad Big Pitch daeth nifer o bobl ata i a ddweud pa mor dda wnaeth hi ymateb i’r her, a dw i’n credu eith hi ymhell.

“Yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni’n darparu ystod o gyfleoedd ar gyfer ein myfyrwyr sy’n eu gosod mewn sefyllfaoedd gwaith go wir. I rai, mae hyn yn helpu i fireinio eu sgiliau, tra i eraill gall y profiad newid ei bywyd, darganfod adnoddau nad oedden nhw’n gwybod eu bod yn eu meddu. I mi, dyna’r rhan fwyaf pleserus o addysgu.”

Lansiwyd darpariaeth Lefel A Coleg y Cymoedd y llynedd pan agorwyd campws newydd sbon Nantgarw a sefydlu partneriaeth rhwng Coleg Catholig Dewi Sant Caerdydd ac Ysgol Gatholig Cardinal Newman, Pontypridd. Gyda thros 600 o ddysgwyr, y ganolfan newydd ydy darparwr mwyaf Lefel A yn Rhondda Cynon Tâf.

Ym mis Awst, llwyddodd 100% o garfan blwyddyn gyntaf myfyrwyr Lefel UG Coleg y Cymoedd basio mewn bifer o bynciau, oedd yn cynnwys Atlanta, sy’n argoeli’n dda am lwyddiant yn Lefel A y flwyddyn nesaf.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau