Gwobr Menter Genedlaethol i fenter ‘Trading Places’ De Ddwyrain Cymru

Mae prosiect menter ‘Trading Places’, y bydd myfyrwyr Coleg y Cymoedd yn ei gynnal yn flynyddol, wedi ennill y categori Hyrwyddwr Menter AU 2015 yng ngwobrau y ‘National Enterprise Educator Awards’.

Mae’r Gwobrau, gynhaliwyd yn Hylands House ddydd Iau Medi 10fed, yn cydnabod rhagoriaeth o fewn addysg menter. Y nod ydy gwobrwyo a dathlu cyfraniad rhai sydd wedi arddangos ymroddiad eithriadol ac ysgogol wrth gefnogi entrepreneuriaeth myfyrwyr a graddedigion ym maes addysg bellach ac uwch yn y DU.

Dywedodd Lesley Cottrell, Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth Coleg y Cymoedd: “Rydw i’n hynod falch bod Cylch Menter Rhanbarthol De Cymru wedi wedi ennill Gwobr NCEE i Hyrwyddwyr Menter. Mae ein partneriaeth gyda sefydliad Campws Cyntaf wedi caniatáu i ni ddatblygu y digwyddiad ‘Trading Places’ sy’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr gael profiad uniongyrchol o fyd manwerthu yn y byd go iawn. Bu’r profiad yn un newidiodd fyd llawer ohonyn nhw, ac edrychaf ymlaen i gydweithio â’n partneriaid arobryn er mwyn parhau i ddarparu’r cyfle hwn i’n myfyrwyr yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Bob Tod, Hyrwyddwr Cyflogadwyedd, Menter a Sgiliau Coleg y Cymoedd: “Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r Cylch Menter, a rydw i’n falch iawn o fod yn rhan ohono. Mae ennill y wobr hon yn dangos beth gellir ei gyflawni gan waith tîm ar draws yr holl golegau yn Ne Cymru ynghyd â sefydliad Campws Cyntaf. Fe hoffwn ddiolch i’r holl ddysgwyr o Goleg y Cymoedd gymrodd ran a’m cydweithwyr fu’n eu cefnogi. Y fath ysbryd entrepreneuraidd!”

Nod ‘Trading Places’, lansiwyd yn 2013, ydy helpu ieuenctid i ddeall sut gallan nhw fod yn entrepreneuriaid drwy ddatblygu ‘syniadau mawr. Yn ogystal â Choleg y Cymoedd , mae’r her yn cynnwys chwe thîm o golegau ar draws De Ddwyrain Cymru sy’n dod ynghyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau gweithdai i geisio arddangos eu sgiliau busnes a menter, cyn lansio stondin godi ar gyfer masnachu.

Y tîm buddugol ydy’r un sy’n arddangos y sgiliau rheoli busnes mwyaf effeithiol ac yn arddangos y gwaith tîm gorau drwy gyfnod yr holl brosiect.

Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant eithriadol wrth weithio â busnesau i ddarparu cyngor, sgiliau a phrofiad i fyfyrwyr coleg i ddatblygu a marchnata strategaeth busnes a chaniatáu iddyn nhw roi prawf ar eu sgiliau ymchwil, negydu, prynu a hyrwyddo.

Gyda chefnogaeth NatWest ac EE, caiff y prosiect eu gynnal dros dri diwrnod gan roi cyfle i fyfyrwyr fod yn rhan o weithdai wedi eu canoli ar agweddau allweddol o ‘Fodel deall entrepreneuriaeth’ ACRO, sy’n eu cymell i feddwl yn strategol ac arloesol am y sgiliau sydd eu hangen i redeg busnes llwyddiannus – gan gynnwys agwedd, creadigrwydd, perthynas a threfniadaeth.

Dywedodd rheolwr perthynas NatWest, Andrew Tummon, fu’n cynnal cyfres o sesiynau ‘Cwrdd â’r Rheolwr Banc’ yn ystod sialens 2014: Mae’r prosiect ‘Trading Places’ yn rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr ennill sgiliau entrepreneuraidd cadarn fydd o help iddyn nhw os ydyn nhw am gychwyn eu menter eu hunain neu fynd i weithio i rywun arall. Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn dewis hunan-gyflogaeth fel opsiwn gyrfa posibl a gwerthfawr, ac y mae achlysuron fel ‘Trading Places’ yn rhoi mewnwelediad iddyn nhw i realiti rhedeg busnes. Wnes i wir fwynhau bod yn rhan o’r prosiect.”

Dywedodd Allison McCarthy, Uwch Reolwraig Gweithrediadau EE: “Mae EE yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect ‘Trading Places’. Wnaethon ni fwynhau cynnal gweithdai i’r myfyrwyr i’w hannog i arddangos eu hochr greadigol, eu sgiliau cystadlu, cyfathrebu a chyflwyno a dangos sut bydden nhw’n gwerthu eu cynnyrch.”

Caiff prosiect menter ‘Trading Places’ ei arwain gan Campws Cyntaf, mewn partneriaeth â Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru a’i gydlynu drwy Gylch Menter Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau