Mae Coleg y Cymoedd wedi llwyddo i ennill gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn; yr anrhydedd uchaf i gydnabod y rôl gadarnhaol y gall cyflogwr gynllunio i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae Coleg y Cymoedd yn un o ddim ond 193 o sefydliadau yn y DU i ennill y wobr. Mae’r Coleg yn falch o fod ymhlith yr ychydig sefydliadau gan gynnwys Marks & Spencer Plc, Toyota a Hilton, sydd wedi derbyn y wobr eleni. Yn fwy na hyn, mae’r coleg yn un o ddim ond 10 enillydd o Gymru sy’n ymuno â grŵp dethol iawn o ddeiliaid ERS Aur.
Fel y trydydd cyflogwr mwyaf yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf, mae Coleg y Cymoedd wedi dangos ei fod yn gyfeillgar i’r lluoedd arfog yn ei brosesau recriwtio a dethol. Mae’n croesawu ceisiadau am swyddi gan gyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a’r rhai sydd â pherthnasau sydd yn rhan o’r gwasanaethu milwrol.
Ar ôl symud ymlaen o Wobr Arian ERS, mae Coleg y Cymoedd wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac wedi profi i fod yn esiampl o arfer dda yn y sector addysg.
Dywedodd y Gweinidog dros Bobl Amddiffyn, Cyn-filwyr a Theuluoedd Gwasanaeth, Dr Andrew Murrison: “Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi cael eu cydnabod yn y gwobrau eleni. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gweld cymaint o sefydliadau’n ennill y wobr aur. Mae eu cefnogaeth barhaus yn dangos y buddion a’r cryfderau unigryw y gall ein cymuned Lluoedd Arfog ei chynnig i’r gweithle.”
Dywedodd Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Coleg y Cymoedd a chyn aelod o’r Awyrlu, Paul Rees: “Yng Ngholeg y Cymoedd rydym wedi datblygu Rhwydwaith y Lluoedd Arfog lle gallwn gefnogi ein gilydd, yn ogystal â helpu i recriwtio rhagor o bersonél. Ein pwrpas yw dangos bod y coleg yn amgylchedd gwerth chweil a hygyrch. Yn fy amser yma, rwyf wedi defnyddio sgiliau trosglwyddadwy o fy mhrofiadau yn yr Awyrlu er budd myfyrwyr a staff. Mae Coleg y Cymoedd wedi rhoi’r gefnogaeth a’r hyder imi ddilyn agweddau eraill ar fy swydd sydd wedi fy arwain at y rôl Pencampwr y Lluoedd Arfog, i annog aelodau eraill o’r Teulu Milwrol i rannu eu profiadau. Rwyf i wedi elwa o fod yn aelod o’r Lluoedd Arfog ac mae’r Coleg wedi elwa hefyd.”
Dywedodd Julie Rees, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant Coleg y Cymoedd: “Rydym wrth ein bodd bod ein cefnogaeth i’r lluoedd arfog wedi cael ei chydnabod gyda Gwobr Aur.
Rydym yn gobeithio gweld Rhwydwaith Lluoedd Arfog y coleg yn tyfu ac i gynyddu ein darpariaethau ar gyfer cyn-filwyr a milwyr wrth gefn y lluoedd arfog fel rhan o’n dyfarniad DERS yn y dyfodol.”
Dysgwch ragor am fuddion yn y gweithle drwy edrych ar ein swyddi gwag presennol: www.cymoedd.ac.uk/careers