Gyrfa chwaraewyr rygbi o Bont-y-clun yn esgyn i’r nen

Mae cyn-chwaraewr Academi Gleision Caerdydd wedi cyfnewid y cae rygbi am y ffatri ar ôl sicrhau prentisiaeth gyda chwmni peirianneg awyrennau o fri yng Nghaerdydd.

Mae Callun James, sy’n 22 oed ac yn dod o Bont-y-clun, wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w yrfa rygbi er mwyn dechrau ar yrfa ym maes peirianneg awyrennau, gan ddilyn yn ôl traed ei dad-cu.

Mae Callun bellach wedi ennill prentisiaeth tair blynedd gydag AerFin, arbenigwr byd-eang blaenllaw mewn darparu datrysiadau cymorth ôl-farchnad sy’n arbed costau i’r diwydiant hedfan.

Bu’r prentis, sydd ar hyn o bryd yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio prentisiaeth peirianneg awyrennau yng Ngholeg y Cymoedd, yn breuddwydio am yrfa yn chwarae rygbi’n broffesiynol ac yn flaenorol bu’n chwarae rygbi i dimau o dan 16 ac o dan 18 oed Cymru a Gleision Caerdydd cyn sicrhau cytundeb academi gyda Gleision Caerdydd.

Fodd bynnag, ar ôl clywed ei ewythr a’i deidiau’n siarad am eu swyddi fel peirianwyr awyrennau ar ôl gwaith bob dydd, dechreuodd Callun ymddiddori fwyfwy yn y diwydiant hedfan a chafodd ei ysbrydoli i newid cyfeiriad a dilyn gyrfa yn y sector.

I roi hwb i’w daith ym maes peirianneg awyrennau, penderfynodd Callun ddychwelyd i’r coleg eleni, gan ddewis cwblhau Lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd.

Dywedodd Callun: ‘Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn peirianneg awyrennau ac wedi mwynhau clywed am y swydd gan fy nheulu, a oedd bob amser yn siarad yn angerddol amdani. Roeddwn i wrth fy modd â rygbi ond roeddwn i’n teimlo bod angen dilyn fy ngwir angerdd, sef peirianneg awyrennau, gan ei bod yn faes lle gallwn ddilyn ôl traed fy nheulu.

“Fel rhan o fy mhrentisiaeth, rydw i ar hyn o bryd yn gweithio yn AerFin yn ystod gwyliau hanner tymor, wrth astudio’n llawn amser yng Ngholeg y Cymoedd. O fis Medi ymlaen, byddaf yn gweithio’n llawn amser yn AerFin ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.

“Mae Coleg y Cymoedd wedi bod yn hynod ddefnyddiol, gan ganiatáu imi gael cipolwg realistig ar sut brofiad fyddai gweithio yn y diwydiant, yn ogystal â phrofiad ymarferol a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa, diolch i’r cyfleusterau gwych sydd ganddynt ar gyfer peirianneg awyrennau.”

Cyn hynny bu Callun yn gweithio yn y warws yn AerFin. Ar ôl gweld y brentisiaeth yn cael ei hysbysebu ar LinkedIn, fe ymgeisiodd am le ar y rhaglen, gan guro ymgeiswyr eraill o bob rhan o’r wlad.

Dywedodd David Howells, Pennaeth Cyfrifiadureg a Pheirianneg yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae’r dyfodol yn ddisglair i Callun. Mae’n beiriannydd ifanc dawnus iawn ac rydym yn hynod falch ohono. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei daith gydag AerFin a gweld i ble bydd ei yrfa yn arwain.

“Mae’n wych gweld dysgwyr o’r coleg yn gwireddu eu breuddwydion. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r diwydiant i greu cyrsiau a phrentisiaethau sy’n sicrhau bod ein dysgwyr yn gadael y coleg yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddechrau gyrfa yn y diwydiant.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau