Mae bachgen ifanc yn ei arddegau o Bentre’r Eglwys, sy’n breuddwydio am fod yn beilot awyrennau rhyw ddydd, gam yn nes i wireddu’r freuddwyd honno ar ôl sicrhau graddau uchel yn ei ganlyniadau Lefel A.
Enillodd Harrison Oatridge, 18 oed, o Bentre’r Eglwys 3 A mewn Daearyddiaeth, Ffiseg a Bagloriaeth Cymru yn ogystal â gradd B mewn Mathemateg.
O gofio cost mynychu ysgol dysgu hedfan, mae Harrison yn cynllunio i weithio am y ddwy flynedd nesaf yn y busnes teuluol, ‘Wild Tails’, sef busnes bwyd amrwd cŵn tra bydd yn arbed arian i dalu am y cwrs.
Mae Harrison, sydd wedi bod â diddordeb mewn hedfan ers iddo chwarae gyda modelau awyrennau yn blentyn, gyda’r brwdfrydedd dros hedfan awyrennau yn datblygu ar ôl iddo ymuno â chadetiaid yr awyrlu, lle cafodd brofiad ymarferol o hedfan awyrennau. Mae e’n gobeithio bod yn beilot ar ôl gorffen cwrs yn yr ysgol hedfan.
Dywedodd Harrison: “Fy mreuddwyd ydy bod yn beilot awyrennau ryw ddydd ond mae’r hyfforddiant yn ddrud a dyna’r rheswm pam mod i am weithio am ddwy flynedd cyn i mi ei ystyried. Dw’n edrych ymlaen at weithio yn y busnes teuluol a datblygu fy sgiliau proffesiynol yn y cyfamser.”
Mae Harrison yn priodoli ei lwyddiant i’w brofiad positif yng Ngholeg y Cymoedd. Ychwanegodd: “Mae fy athrawon yng Ngholeg y Cymoedd wedi fy nghynorthwyo bob cam o’r ffordd. Bu’n brofiad positif i mi a galla i ddim aros i gymryd y camau nesaf yn fy mywyd a chyflawni fy nodau.”