Harrison Rock

Seren byd rygbi yn llwyddo i sicrhau lle ym Mhrifysgol Grŵp Russell  

Mae egin gadwraethwr o Lantrisant yn dathlu ei fod wedi sicrhau lle i astudio Swoleg ym Mhrifysgol Bryste tra’n parhau i chwarae rygbi yng Nghaerdydd, diolch i gynllun TASS Coleg y Cymoedd.  

Llwyddodd Harrison Rock sy’n ddysgwr yn Ngholeg y Cymoedd i gyflawni A* mewn Cemeg ac A mewn Bioleg a Mathemateg yn ei Lefel A er ei fod hefyd yn cynnal ei egin yrfa ym myd rygbi gyda sgwad o dan 18 Caerdydd.  

Roedd Harrison yn rhan o raglen Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS) yng Ngholeg y Cymoedd, cynllun sy’n helpu athletwyr 16 oed a throsodd i gydbwyso a chyfuno chwaraeon gyda’u hastudiaethau a’u ffordd o fyw yn y coleg, ac ar hyn o bryd, Coleg y Cymoedd ydy’r unig Goleg Addysg Bellach yng Nghymru i ennill statws TASS. 

Mae Harrison sy’n 19 oed yn hoff o anifeiliaid ac wedi’i gyfareddu gan fywyd gwyllt erioed, yn enwedig anifeiliaid a geir yn Affrica Is-Sahara. Ar y cychwyn roedd Harrison â’i fryd ar astudio Gwyddorau Milfeddygaeth i fod yn filfeddyg, ond yn casáu’r syniad o weithio mewn amgylchedd clinigol mewn swyddfa yn bennaf a phenderfynodd gymryd blwyddyn i ffwrdd i ystyried ei opsiynau.  

Yn ystod ei flwyddyn i ffwrdd, cafodd Harrison y cyfle i ymweld â Zimbabwe am fis i wirfoddoli mewn gwarchodfa rheinos ac eliffantod. Yno, cafodd brofi ystod o weithgareddau megis bwydo’r anifeiliaid, torri coed i wneud corlannau, symud trapiau a osodwyd gan herwhelwyr a chadw ardaloedd cadwraeth oedd angen eu hatgyweirio.  

Roedd gwirfoddoli yn y warchodfa a chael cyfle i gymryd rhan mewn tasgau dyddiol, i roi syniad iddo am ddiwrnod gwaith mewn gwarchodfa, wedi ei helpu i drefnu trywydd ei gamau nesaf ar ei ddarpar yrfa. 

Ar ôl dychwelyd i Gymru, cafodd Harrison y cyfle i ymroi’n llawn i’w ddiddordeb ysol arall, sef rygbi. Roedd wedi chwarae rygbi ers yn blentyn a bu’n aelod o sgwad dan 18 Cymru gan chwarae yn erbyn Iwerddon a’r Eidal dramor. 

Ar hyn o bryd, mae ganddo gontract gydag Uwch Academi Rygbi Caerdydd a bydd yn teithio nôl a blaen yn ystod ei astudiaethau academaidd i hyfforddi a chwarae’n gystadleuol gyda Chlwb Rygbi Caerdydd.  

Dywedodd Harrison: “Tra’n chwilio ble roeddwn am fynd i astudio Lefel A, yn amlwg roedd yn bwysig i mi fynd i rywle a fyddai’n fy nghefnogi yn fy astudiaethau ac yn fy niddordeb rygbi. Fe wnaeth y coleg hi’n rhwydd i mi gyfuno ysgol a rygbi. Rhoddodd rhaglen TASS hyblygrwydd a‘r rhyddid i mi yn ac o gwmpas yr ystafell ddosbarth. Pan oedd astudiaethau academaidd a chwaraeon yn gwrthdaro, caniatawyd i mi bob amser ymuno â dosbarth gwahanol fel nad oeddwn yn colli dim byd. Hefyd cynigiwyd ymestyn dyddiad cyflwyno gwaith i sicrhau mod i’n llwyddo yn y ddau faes.  

“Bu’r coleg mor gefnogol o’r cychwyn cyntaf, mae’r staff addysgu wedi bod yn ardderchog ac roedd help ar gael bob amser.  Mae’r adnoddau a’r cyfleusterau hefyd yn wych a’r coleg wedi parhau i ganiatáu i mi ddefnyddio’r cyfleusterau ffitrwydd ar y campws eleni er nad oeddwn yn mynd yn syth i brifysgol ar ôl fy Lefel A..  

“Dw i wir yn gyffrous ac yn edrych ymlaen i symud i ffwrdd ac ail-ddechrau astudio. Mae Bryste yn cynnig yr union gwrs i mi ac yn ddigon pell o gartref i mi brofi bywyd coleg yn llawn i fyw ar fy mhen fy hun ac i fod yn fwy annibynnol ond eto ddigon agos i Gaerdydd i deithio nôl ar gyfer fy nghontract rygbi.” 

Ar ôl ei astudiaethau hoffai Harrison weithio mewn gwarchodfa yn neheudir Affrica.  

Ychwanegodd: “Mae Affrica wedi fy nghyfareddu erioed, yn enwedig yr anifeiliaid – wedi ennyn fy niddordeb erioed. Ar ôl treulio amser yn Affrica a gweithio mewn gwarchodfa, dyma beth fyddwn yn hoffi ei wneud.”  

Dewisais Goleg y Cymoedd oherwydd y llwybr gyrfaol deuol. Roedd gallu astudio a chwarae rygbi yn ddelfrydol. Maen nhw wedi fy nghynorthwyo a fy nghefnogi eleni drwy ganiatáu i mi ddefnyddio cyfleusterau ffitrwydd ar y campws pan oedd hi’n amhosibl cyrraedd Caerdydd.” 

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd