Hwb i brentisiaid Peirianneg ym Mlaenau Gwent

Mae Coleg y Cymoedd wedi buddsoddi mwy na £260,000 mewn offer peirianneg a gweithgynhyrchu uwch newydd er mwyn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i’w ddysgwyr, gan roi hwb i gyfleoedd gwaith a hyfforddiant prentisiaid ar draws y coleg.

Mae’r uwchraddio, a wnaed yn bosibl diolch i grant o £260,000 gan Lywodraeth Cymru, wedi galluogi Coleg y Cymoedd i roi ei gyfarpar presennol i gyflogwyr prentisiaid allweddol lleol er budd cannoedd o bobl ifanc ledled y rhanbarth, gan roi cyfleusterau o’r radd flaenaf iddynt er mwyn datblygu eu sgiliau.

Mae’r Coleg yn rhoi amrywiaeth o offer peirianyddol, gan gynnwys turnau, melinwyr, driliau ac ystod o beiriannau melino, i’r rhaglen prentisiaeth Aspire – cynllun a gynlluniwyd i annog pobl i ymgymryd â phrentisiaethau a darparu cyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent.

Bydd yr offer yn cael ei gadw gan un o gyflenwyr y Diwydiant Moduro Rhyngwladol, Continental Teves yng Nglynebwy, a leolir yn ganolog ym Mlaenau Gwent i sicrhau bod pob prentisiaeth Aspire yn elwa ohono.

Fe’i darperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar y cyd â nifer o bartneriaid, gan gynnwys Coleg y Cymoedd, nod y fenter Aspire yw mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau gweithgynhyrchu a pheirianneg yn y rhanbarth a hybu cyflogaeth.

Meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: Mae’n bwysig i ni fod ein prentisiaid yn elwa o gael offer diweddaraf y diwydiant yn yr ystafell ddosbarth ac yn ystod eu dysgu yn y gweithle er mwyn eu paratoi’n drylwyr ar gyfer y byd gwaith. Felly, rydym wrth ein bodd yn gallu gwella ansawdd dysgu a hyfforddiant ein dysgwyr, ynghyd â helpu busnesau lleol i wella eu cyfleusterau, a fydd yn sicr o fudd i gannoedd o bobl ifanc yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod.

“Rydym wedi ymrwymo i gynnal perthnasoedd gweithio cryf a chydweithredol gyda busnesau lleol er mwyn mynd i’r afael â’r lefelau uchel o ddiweithdra ym Mlaenau Gwent a darparu llwybrau gyrfa i’n dysgwyr, gan eu helpu i sicrhau gwaith ar ôl iddynt gwblhau eu prentisiaethau.”

Nod y cynllun prentisiaeth Aspire, y mae Coleg y Cymoedd yn brif ddarparwr ar ei gyfer, yw llenwi swyddi gwag yn y maes gweithgynhyrchu a chynhyrchu prentisiaid sy’n barod i weithio. Mae gan bob prentis gynllun hyfforddiant pwrpasol, wedi’i deilwra yn ôl anghenion eu cyflogwr, i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y rôl.

Nawr yn ei thrydedd flwyddyn, mae’r rhaglen wedi llwyddo rhoi 52 o brentisiaid mewn 15 busnes ar draws ystod o ddiwydiannau o weithgynhyrchwyr cerbydau modur a busnesau peirianneg fecanyddol i gwmnïau fferyllol.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: “Mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn parhau i fuddsoddi i’r Cynllun Prentisiaid Aspire. Bydd y buddsoddiad ychwanegol mewn offer yn gwella’r sgiliau a’r profiad dysgu ar gyfer y prentisiaid Aspire yn ogystal â bod yn adnodd hyfforddi sydd ar gael yn yr ardal ar gyfer cwmnïau. Mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn cymryd camau i ddatblygu sgiliau rhag y dyfodol ym Mlaenau Gwent a helpu lleihau’r bwlch yn y mae gweithgynhyrchu. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun fel cyflogwr neu ddysgwr, cysylltwch â ni.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau