Hyfforddwr yn arddangos ymroddiad eithriadol i’w ddysgwyr drwy gydol ei frwydr yn erbyn canser.

Gwyliwch y fideo enwebai

Mae’r asesydd peirianneg Steve Manning ar restr fer y rhai sy’n cystadlu am un o Wobrau Prentisiaethau Cymru 2015 ar ôl iddo arddangos ymroddiad anghredadwy i’w fyfyrwyr yn ystod ei frwydr yn erbyn canser.

Mae Steve, 53, o Lanilltyd Fawr, yn un o’r pedwar yn rownd derfynol y categori Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Yn y Gweithle, mewn seremoni sydd i’w chynnal yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd, ddydd Iau, Hydref 29.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflawniadau arbennig rhai sydd wedi gwneud mwy na’r gofyn, gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant ac arddangos arloesedd, menter, creadigrwydd ac ymroddiad i wella datblygiad sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Trefnir y gwobrau ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), ac fe’i noddir gan Pearson PLC a’r partner cyfryngau ydy Media Wales. Caiff Gwobrau Prentisiaethau Cymru eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth o Gronfa Cymdeithasol Ewrop.

Mae Steve yn gweithio i Goleg y Cymoedd fel asesydd peirianneg, gan gefnogi dros 40 prentis ar safleoedd British Airways yng Nghaerdydd, Y Coed Duon a Llantrisant, yn ogystal â chwmni Arriva Trains yng Nghaerdydd.

Ymunodd â’r coleg yn Ystrad Mynach yn Hydref 2013, ar ôl treulio mwyafrif eu fywyd gwaith yn Yr Awyrlu fel peiriannydd awyrennau ac yna’n ddiweddarach gyda Bysiau Dinas Caerdydd.

Yna, yng Nghorffennaf 2014, gorfu iddo gael llawdriniaeth ddwys a misoedd o gemotherapi.

Ar ei union, trefnodd Steve brosesau i gefnogi ei ddysgwyr, gan fynnu y byddai’n cydlynu eu dysgu o hirbell. Hefyd, fe gychwynnodd system “bydi”, lle byddai prentisiad y flwyddyn olaf yn mentora rhai’r flwyddyn gyntaf.

“Roedd y cemotherapi yn fy ngwanhau ac roeddwn i’n teimlo’n dost yn aml, ond roedd yn bwysig peidio siomi fy mhrentisiaid,” meddai Steve, sydd bellach wedi gwella ac yn ôl wrth ei waith. Fe gefais i gefnogaeth anhygoel gan fyfyrwyr a chydweithwyr, a bu hynny’n help i fynd drwy’r cyfan.”

Dywedodd Matthew Tucker, pennaeth yr ysgol yng Ngholeg Y Cymoedd, sydd wedi enwebu Stephen ar gyfer y wobr: “Dydy e erioed wedi colli golwg ar ei fyfyrwyr ac mae e wedi ein synnu ni gyda’i agwedd bositif a’i gymhelliant diflino.”

Yn ôl Zoe Batten, Prentis MA Peirianneg gyda British Airways: “Yn ystod ei waeledd, roedd yn parhau i roi ei fyfyrwyr yn gyntaf. Roedd yn gofalu y gallai pawb gysylltu ag e ar e-bost i ateb unrhyw gwestiwn neu bryder, roedd yn cadw mewn cysylltiad â’r holl fyfyrwyr ac hefyd yn marcio’r gwaith.”

Bu’r Dirpwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, yn llongyfarch Steve a’r 36 arall yn y ffeinal. “Mae gennym brentisiaid a dysgwyr eithriadol yma yng Nghymru ac y mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn rhoi llwyfan delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” meddai.

“Mae’r darparwyr hyfforddiant yr un mor bwysig, y cyflogwyr a’r ymarferwyr sy’n teithio’r ail filltir i gefnogi eu prentisiaid. Mae datblygu pobl ifanc sydd â sgiliau’n hanfodol i’n heconomi. Mae Llywdoraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddi megis y Prentisiaethau ond rhaid i’r buddsoddiad fod yn gyfrifoldeb ar y cyd, gyda’r sector addysg, byd busnes a’r unigolion.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau