Hyfforddwraig o Goleg y Cymoedd yn sylwebu ar Gwpan y Byd  i’r BBC yn Qatar

Mae hyfforddwraig academi pêl-droed merched yng Ngholeg y Cymoedd, Kathryn Morgan, wedi hedfan i Qatar i sylwebu i’r BBC ar gemau tîm Cymru yng Nghwpan y Byd.

Bydd Kathryn Morgan, a gafodd yrfa lwyddiannus fel pêl-droedwraig broffesiynol cyn ymuno â’r coleg, yn gweithio i Radio Cymru a Radio Wales fel rhan o ddarllediadau’r BBC o gemau Cymru ym mis Tachwedd eleni.

Bydd hi’n ymuno â Nathan Blake, Iwan Roberts, Danny Gabbidon a Neil Taylor yn Qatar am dair wythnos yn ystod gemau rhagbrofol cyntaf Cymru – ymddangosiad cyntaf y wlad yng Nghwpan y Byd ers 1958 – yn cyflwyno bwletinau newyddion ac yn arwain podlediad Holi ac Ateb gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae Kathryn yn gyn-chwaraewr rhyngwladol, ac fe gynrychiolodd sawl tîm yn ystod ei gyrfa bêl-droed o 15 mlynedd gan gynnwys Inter Caerdydd (Dinas Caerdydd bellach), Barry Town, Bristol Rovers, a thîm cenedlaethol merched Cymru, gan ddod y pêl-droediwr benywaidd cyntaf yng Nghymru i ennill 50 cap.

Ar ôl mynychu Cwpan y Byd 2016 yn Ffrainc, fe’i gwahoddwyd gan BBC Radio Cymru i ymuno â’r sianel fel ‘pyndit’, gan gynnig sylwebaeth ar y gystadleuaeth. Ers hynny, mae hi wedi sylwebu ar sawl gêm genedlaethol ac wedi gweithio gyda BBC Radio Wales ar sawl achlysur, cyn cael cais i ymuno â’r tîm yn Qatar.

Meddai Kathryn: “Roeddwn i ar wyliau pan ges i alwad ffôn gan y BBC yn gofyn a oeddwn i’n rhydd ym mis Tachwedd. Fe ddwedon nhw wrtha i am ysgrifennu ‘yn Qatar’ yn fy nyddiadur ac allen i ddim credu’r peth. Wnes i erioed feddwl y byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd i mi ac rwy’n dal i binsio fy hun fy mod i hyd yn oed yn cael mynd – ‘dyw’r gair ‘cyffrous’ ddim yn ddigon o ddisgrifiad!”

O oedran ifanc, roedd Kathryn yn benderfynol o chwarae pêl-droed ac yn saith oed, llwyddodd i berswadio bechgyn ar y maes chwarae i adael iddi ymuno â nhw ar ôl gwylio ac ymarfer eu technegau. Daeth ei hangerdd yn broffesiwn pan ymunodd â thîm Merched Inter Caerdydd yn 17 oed, gan roi hwb i’w gyrfa.

“Wnes i ddechrau’n hwyr yn chwarae pêl-droed clwb, yn bennaf oherwydd fy mod i’n ferch a doedd hi ddim mor hawdd chwarae i’r safon ag ydy hi nawr,” meddai Kathryn, “ond rwy’n cofio gweld hysbyseb yn y rhifyn cyntaf erioed o’r ‘Wales on Sunday’, yn galw chwaraewyr ar gyfer tîm merched Inter Cardiff Wales, sydd bellach yn dîm Merched Dinas Caerdydd, ac roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi fynd amdani.”

Yn dilyn ei chyfnod fel pêl-droediwr, trodd Kathryn i fyd addysg a bu’n addysgu am 20 mlynedd yn Ysgol y Cymer, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac Ysgol Gyfun Garth Olwg, fel athrawes Addysg Gorfforol cyn mynd â’i phrofiad proffesiynol i’r academi bêl-droed merched newydd sbon yng Ngholeg y Cymoedd fel hyfforddwr yn 2018. Yn y coleg, mae’n gyfrifol am gynnal hyfforddiant maes a champfa i’r tîm benywaidd, ochr yn ochr ag addysgu dadansoddi ymarferol.

Ychwanegodd: “Rwyf wedi byw ac anadlu pêl-droed cyhyd ag y gallaf gofio ac roedden i bob amser eisiau gyrfa yn y maes hwnnw, er gwaethaf tyfu i fyny ar adeg pan nad oedd yn hawdd bod yn fenyw ac yn chwarae pêl-droed. Rwyf wrth fy modd yn addysgu, rwy’n hapus i fuddsoddi fy holl amser yn y rhai sydd eisiau dysgu, sydd ag agwedd dda, ac sy’n dymuno cael eu hyfforddi.

“Pan oeddwn yn fy arddegau, dim ond breuddwyd oedd cael bod yn rhan o academi pêl-droed merched, ac mae’r ffaith fy mod bellach yn gallu darparu’r hyfforddiant a’r mentora hynny fy hun, gyda phopeth yr wyf wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd, i’r genhedlaeth nesaf yn teimlo fod y cylch bellach yn un crwn. Mae’n anhygoel gweld faint mae pethau wedi datblygu i fyd pêl-droed merched.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am yr hyn mae fy ngyrfa wedi ei rhoi i mi i ac am y profiadau, fel Qatar, yr ydw i’n cael bod yn rhan ohonyn nhw bob dydd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau