Hyfforddwyr De Affrica yn hyfforddi Coleg y Cymoedd cyn gêm Cymru

Mae gwisgoedd na chafwyd prynwyr iddyn nhw mewn siop elusen foethus ddinesig ar werth am yr eildro ar ôl cael eu hail-gylchu gan fyfyrwyr celf a dylunio’r Cymoedd.

Defnyddiodd y darpar gynllunwyr, sydd i gyd yn fyfyrwyr Diploma Estynedig yng Ngholeg y Cymoedd, eu sgiliau newydd i weddnewid y deunyddiau o siop ‘Oxfam Boutique’ Caerdydd a’u troi’n gyfoeth o ddilladau eithriadol o wreiddiol.

Ond cyn eu dychwelyd i’r stôr amlwg yn Heol y Santes Fair, bu’r cyfan yn cael ei arddangos mewn sioe ffasiwn i godi arian elusennol ar gampws y coleg yn Nantgarw nos Iau.

Nod y prosiect oedd cael y myfyrwyr i ystyried y materion cynaliadwyedd a moesegol sydd ynghlwm â’r diwydiant ffasiwn, tra ar yr un pryd gynnig profiad uniongyrchol iddyn nhw o lwyfannu digwyddiad ffasiwn proffesiynol, fyddai’n brofiad amhrisiadwy iddyn nhw ar gyfer eu gobiethion am waith yn y dyfodol.

Mae’r tair gwisg ar ddeg a chasgliad o ategolion gafodd eu creu gan y myfyrywr i gyd wedi eu creu o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, megis papur a phlastig, a brethynnau ddaeth o Oxfam Boutique oedd heb eu gwerthu yn y siop. Gan weithio i thema Siapaneaidd, roedd dylanwad printiau blodeuog, pensaerniaeth, celf a dylunio Siapan, yn drwm ar waith y myfyrwyr ffasiwn, tesctilau a 3-D.

Cory Beth-Jones, 18 oed, o Bontygwaith, oedd un o’r myfyrwyr fu’n arddangos ei gwaith: “Dyma’r tro cyntaf i mi greu dillad i sioe ffasiwn a hwn fydd y tro cyntaf i fy ngwaith fynd ar werth mewn ‘Boutique’ go iawn. Roedd uwch-gylchu rhoddion i fod yn wisgoedd Siapaneaidd penodol yn rhoi her dechnegol ddiddorol a phleserus. Mae gwybod y bydd eich gwaith yn cael ei arddangos ac yna ei werthu i’r cyhoedd yn newid y ffordd rydych yn cynhyrchu ddiledyn.”

Roedd yr achlysur ei hunan yn brofiad diddorol, roeddwn ychydig yn nerfus, ond fe helpodd fi’n sicr i sylweddoli cymaint rydw i’n dyheu am barhau fy astudiaethau yn y brifysgol a chychwyn ar yrfa ym myd ffasiwn.”

Yn dilyn eu tro cyntaf ar lwyfan ffasiwn, bydd creadigaethau y myfyrwyr ar werth yn Oxfam Boutique, Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd, a’r cyfan o’r elw’n mynd at Oxfam. Bu’r sioe ffasiwn hefyd yn fodd i’r myfyrwyr gael profiad ‘go iawn’ o drefnu, hyrwyddo a rheoli digwyddiad ar raddfa fawr.

Roedd y sioe ffasiwn yn enghraifft o gydweithrediad rhwng myfyrwyr ar hyd a lled y coleg. Yn cyd-redeg â’r sioe ffasiwn roedd arddangosfa o waith gan fyfyrwyr Celf Graffeg yn seiliedig ar hyrwyddo materion byd-eang a gefnogir ac a gynrychiolir gan Oxfam. Bu gwirfoddolwyr o’r adrannau trin gwallt a harddwch a choluro i’r cyfryngau yn helpu i baratoi’r modelau ar gyfer y llwyfan arddangos, tra bu’r myfyrwyr arlwyo’n gweini lluniaeth o safon proffesiynol, y myfyrwyr Technoleg Cerdd fu’n darparu’r traciau cefndir a chafodd y paratoi a’r digwyddiad ei gofnodi gan y myfyrwyr ffotograffiaeth a chyfryngau.

Yn ystod yr achlysur ei hunan, cafodd darnau o waith o ‘Resist Gallery’ Llantrisant, eu harddangos, oriel sy’n arbenigo mewn brethynau a dilladau Siapaneaidd. Bu Michelle Griffiths, perchennog a dylunydd Resist, yn cynghori’r myfyrwy yn greadigol pan oedden nhw’n paratoi eu dilladau eu hunain. Hefyd bu Kaori Onoda, sy’n gwirfoddoli gyda’r Gymuned Siapaneaidd yng Nghaerdydd, yn rhoi cyflwyniad ar wisgoedd traddodiadol Siapan.

Yn ôl Lisa Porch, darlithydd yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae pob un o’r myfyrwyr ffasiwn a thecstilau wedi gweithio’n ddiflino i gynhyrchu’r dillad ac ategolion. Nod y prosiect oedd caniatáu i bob myfyriwr gael profiad gwirioneddol o weithio yn y diwydiant ffasiwn. Mae’r cyfuniad o themâu ailgylchu a Siapaneaidd wedi cynnig sialensau unigryw, ond bu’r cymorth a ddaeth oddi wrth Oxfam a Resist Gallery yn help iddyn nhw greu dillad wedi eu hysbrydoli gan ddulliau Siapaneaidd oedd hefyd yn fasnachol ddeniadol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau