I’r ffeinal mewn steil am yr eildro

Mae cyn-fyfyrwraig o Goleg y Cymoedd sy’n dod o Drelewis wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth sgiliau y DU gyfan am yr ail flwyddyn yn olynol. Bydd hi unwaith eto’n dangos ei chariad angerddol at drin gwallt yn nigwyddiad sgiliau mwyaf y wlad.

Enillodd Ashleigh Simmons, cyn-ddysgwraig ar gampws Nantgarw y wobr gyntaf yn rownd derfynol Cymru a thrwy hynny yn ei galluogi i fod ymhlith 30 gorau’r DU sy’n mynd ymlaen i gystadlu yn rownd Derfynol WorldSkills y DU a fydd yn cael ei chynnal yn Birmingham.

Cynrychiolodd Ashleigh y coleg y llynedd hefyd yn rownd derfynol WorldSkills, a daeth yn drydydd yn y rownd derfynol genedlaethol.

Ar ôl iddi sicrhau ei lle yn y ffeinal am yr ail dro o blith 1000 ymgeisydd, mae, Ashleigh nawr yn y broses o baratoi ar gyfer y gystadleuaeth bedwar diwrnod, sy’n cael ei threfnu gan L’Oréal Professional Product.

Byddy gystadleuaeth yn cynnwys tri cham dros bedwar diwrnod lle bydd y dysgwyr yn arddangos cymwyseddau yn cynnwys torri gwallt merched, a’i liwio yn ôl llun, torri gwallt a phatrymu gwallt dynion mewn steil modern, steilio gwallt hir i ddynion, steil gwallt priodferch a steil diwrnod yn y rasys i wallt hir merched i sicrhau eu bod yn meddu ar brif sgiilau triniwr gwallt cymwys.

Cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni wobrwyo ar ddiwedd y pedwerydd diwrnod. Os daw yn un o’r tri cyntaf, bydd Ashleigh yn cael cynrychioli’r DU yn WorldSkills yn Abu Dhabi yn 2017.

Dywedodd Ashleigh, 19 oed o Drelewis, sy’n gobeithio yn y dyfodol i weithio fel steilydd gwallt ar fordeithiau: “Mae’n wych i gymryd rhan yn WorldSkills am yr ail flwyddyn, mae pob cam o’r gystadleuaeth wedi codi fy hyder, wedi dysgu sgiliau newydd i mi ac wedi fy helpu i addasu i awyrgylch dan bwysau. Mae bob amser yn brofiad nerfus ond dw i wedi cael cymorth ardderchog gan fy nhiwtoriaid coleg pan on i yn y coleg ac ers hynny ar ôl gorffen fy nghwrs.”

Mae WorldSkills UK yn chwarae rôl allweddol i godi hunanbarch dysgwyr a phobl ifanc i ystyried mynd mewn i addysg bellach, sgiliau a Phrentisiaethau.

Dywedodd Tracey Evans,pennaeth Trin Gwallt a Harddwch yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydyn ni’n hynod o falch o Ashleigh am gyflawni canlyniadau mor wych yn rowndiau terfynol rhanbarthol Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae ganddi’r talent, y sgiliau a’r ymroddiad i gystadlu yn y digwyddiad nodedig hwn o fewn y DU, lle bydd y safon yn wirioneddol uchel ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddi hi yn y rownd derfynol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau