Mae Gwasanaethau TG yn cynnig cymorth technegol i staff a myfyrwyr y coleg. Er mwyn caniatáu i Wasanaethau TG eich cynorthwyo orau gyda’ch problem TG, dewiswch yr opsiwn mwyaf priodol isod.
Chwilio am Ddilysu Aml-Ffactor (MFA) ? Cliciwch yma
Os ydych wedi astudio yn y coleg o’r blaen, ond yn dechrau cwrs newydd gyda ni – rydym yn eich ystyried yn fyfyriwr newydd.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau cofrestru, byddwch yn derbyn neges destun SMS sy’n cynnwys eich enw defnyddiwr/cyfeiriad e-bost, cyfrinair dros dro a chyfarwyddiadau ar sut i fewngofnodi.
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi’n llwyddiannus i Microsoft 365, dylech newid eich cyfrinair. I newid eich cyfrinair, dilynwch y camau isod:
Cam 1
Cliciwch/tapiwch ar lun/llythrennau blaen eich cyfrif yn y gornel dde uchaf.
Cam 2
Cliciwch ar y ddolen gweld cyfrif.
Cam 3
Cliciwch / Tapiwch ar y ddolen newid cyfrinair.
Rhaid i chi ddefnyddio cyfrinair cryf i ddiogelu eich cyfrif coleg. Defnyddiwch y canllawiau canlynol i greu cyfrinair cryf:
Peidiwch byth â datgelu’r cyfrinair hwn i unrhyw un. Ni fydd Gwasanaethau TG byth yn gofyn i chi am eich cyfrinair.
Mae Gwasanaethau TG yn gofyn i ddysgwyr ddefnyddio Dilysu Aml-Ffactor (MFA) wrth ddefnyddio gwasanaethau Microsoft 365 (E-bost, OneDrive ac ati). Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, ffoniwch Ddesg Gwasanaethau TG:
01443 663035
(Llinellau ar agor 8.30am i 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Ymwelwch â’r Ganolfan Adnoddau Dysgu (LRC) ar y campws yn y lle cyntaf.
Problemau cyrchu gwasanaethau’r Coleg ar-lein
Gwiriwch eich bod yn defnyddio’r fformat cywir ar gyfer eich enw defnyddiwr/cyfeiriad e-bost:
[RHIF MYFYRIWR] @ cymoedd.ac.uk (e.e. 123456@cymoedd.ac.uk)
Mae Gwasanaethau TG yn gofyn i ddysgwyr ddefnyddio Dilysu Aml-Ffactor (MFA) wrth ddefnyddio gwasanaethau Microsoft 365 (E-bost, OneDrive ac ati). Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, ffoniwch Ddesg Gwasanaethau TG:
01443 663035
(Llinellau ar agor 8.30am i 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Gall staff gyflwyno cais am gymorth TG gan ddefnyddio’r ddesg gymorth.
Os na allwch gael mynediad at y ddesg gymorth, neu os yw eich galwad yn un brys, ffoniwch:
01443 663035
(Llinellau ar agor 8.30am i 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Mae eduroam yn darparu cysylltedd syml, hawdd a diogel o filoedd o boethfannau ar draws mwy na 100 o wledydd, ac mae am ddim i bob dysgwr sy’n astudio yng Ngholeg y Cymoedd.
Ar gyfer mynediad WIFI tra byddwch yn y Coleg, os byddwch yn mewngofnodi i eduroam yna bydd yn eich cysylltu’n awtomatig pryd bynnag y byddwch o fewn yr ystod. Nid oes angen rhoi eich manylion eto. Gallwch ddefnyddio eduroam am ddim mewn unrhyw goleg, prifysgol, ysbyty, llyfrgell neu adeilad cyhoeddus yn y byd sy’n ei ddefnyddio. Pan gewch eich annog gan y gosodiadau WIFI ar eich dyfais neu ffôn clyfar, dewiswch ‘eduroam’ a mewngofnodwch gyda’r manylion canlynol:
Os ydych chi’n cael problemau cysylltu, edrychwch ar ein canllaw Cysylltu â Wifi