Mae Shauna Kenkins, egin seren pêl-droed yn mynnu bod ei hyder yn codi wrth iddi geiso gwireddu ei breuddwyd o chwarae i glwb proffesiynol ryw ddiwrnod.
Ar hyn o bryd mae Shauna, sy’n 16 oed ac yn dod o Aberaeron, yn chwarae i Cwmbran Celtic sydd newydd orffen yn bedwerydd yn nhabl Prif Gynghrair Merched Cynru.
Ar ôl sefydlu ei hun yn y tîm cyntaf ac ar ymylon y sgwad cenedlaethol, byddai Jenkins wrth ei bodd yn serennu yn Uwch Gynghrair Merched pêl-droed Lloegr (FA Women’s Super League) ryw ddiwrnod.
Mae Jenkins yn rhan o’r garfan gyntaf erioed sydd yn Academi pêl-droed Elît Coleg y Cymoedd ac mae’n mynnu bod symud i gampws Ystrad Mynach wedi gwella pethau ar y cae ac oddi ar y cae.
Dywedodd Jenkins, sydd hefyd yn rhan o raglen y Genhedlaeth Nesaf SSE: “Mae pobl dwi wedi siarad â nhw yn eiddigeddus iawn o’r cyfleoedd yr ydyn ni’n eu cael nawr nad oedd ar gael yn y gorffennol. Don i ddim yn siŵr a oeddwn i am ddod i’r coleg hwn ai peidio ond nawr mod i yma dwi mor falch mod i wedi ei ddewis. Ar y cychwyn don i ddim yn hyderus iawn ond mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi rhoi hwb i fy hyder.
“Rydyn ni’n cael gemau coleg hefyd a dwi wedi chwarae mewn twrnameint pump bob ochr. Enillon ni a mynd i Newcastle ac roedd yn braf iawn chwarae gêm fel yna gyda grŵp newydd o ferched a’u helpu a throsglwyddo’r wybodaeth oedd gen i. Hoffen gychwyn yn fy WSL2 (Women’s Super League 2) ac yna gweithio at WSL 1 (Women’s Super League 1) ac aros yno yn y pen draw tan ddiwedd fy ngyrfa.â€
Eleni, mae Kenkins wedi cynrychioli Merched Cymru o dan 19 ac yn rhan o’r uwch sgwad ar brydiau ac mae’n cyfaddef bod y profiad wedi ei hysgogi i gario ymlaen.
“Mae’n brofiad gwych, mynd i wersyll gydag uwch chwaraewyr. Rydych chi’n dod i’w nabod ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr. Byddwn i’n dweud mod i elwa gan mai fi ydy un o’r rhai ifanca yno ac mae cael lle ar dîm mor dalentog mor anodd ond mor dda ar yr un pryd.â€
Mae Rhaglen y Genhedlaeth Nesaf SSE yn partneru â SportsAid er mwyn darparu cymorth ariannol a hyfforddiant i sêr chwaraeon y dyfodol.