Mae Jessica Pryse, dwy ar hugain oed o Dreorci, Y Rhondda, yn datgan mai Coleg y Cymoedd sydd wedi ei rhoi ar ei thaith i lwyddo yn y diwydiant theledu yng Nghymru.
Ar ôl cael ei swyno erioed gan fyd ffilm a theledu, roedd Jess eisiau cofrestru ar gwrs coleg a fyddai’n sianelu ei chreadigrwydd. Ond doedd hi ddim erioed wedi meddwl y byddai hynny’n arwain at yrfa ei breuddwydion ym myd y cyfryngau.
Wedi’i denu gan enw da Coleg y Cymoedd a’r ystod eang o gyrsiau y maen nhw’n eu cynnig, trefnodd Jess gyfarfod ar gampws Nantgarw ar ôl gadael yr ysgol. Fel un sy’n defnyddio cadair olwyn, roedd angen i Jess ystyried hwylustod y safle cyn cwblhau ei chais.
Gwnaeth ymrwymiad y coleg i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth argraff ar Jessica ac effeithio ar ei phenderfyniad i gofrestru ar y cwrs Cyfryngau Creadigol a Chynhyrchu (Teledu a Ffilm) yn 2019, rhywbeth y mae hi bellach yn falch iddi ei wneud.
Roedd y coleg yn caniatáu i Jess fod yn hi ei hun ac yn ei hannog i ymestyn allan fwy-fwy. Gan ei bod yn unigolyn naturiol swil, canfu Jess mor hawdd oedd siarad â’r staff, a’r hunan-hyder y gwnaethon nhw ei feithrin ynddi wrth iddi wneud penderfyniadau creadigol.
“Po fwyaf y byddwch chi’n camu ymlaen, y lleiaf brawychus ydy e. Diolch i gefnogaeth y staff galluog iawn, roeddwn i’n llwyddo i gymdeithasu ar y cwrs a magu mwy o brofiad.
“Roedd fy nhiwtoriaid, mor gyfeillgar a hawdd mynd atyn nhw. Fe wnaethon nhw fy mharatoi ar gyfer pob profiad y cefais i gyfle i fod yn rhan ohono yn ystod fy nghwrs. Fe wnaethon nhw i mi ymdawelu’n llwyr.
“Profiad ydy popeth, po fwyaf parod ydych chi i ystyried y cyfleoedd newydd sy’n dod i’ch rhan, mwyaf eang ydy eich rhwydwaith, ac felly cynyddodd hyn fy siawns o gael swydd ym myd teledu”.
Yn ogystal â’r twf personol a brofodd Jess, roedd cynnwys y cwrs yn caniatáu iddi gael mynediad i ddrysau o fewn y diwydiant.
Mae Ysgol Diwydiannau Creadigol Coleg y Cymoedd yn adnabyddus am ei chysylltiadau o’r radd flaenaf â diwydiant. Mae’r cwrs Teledu a Ffilm Lefel 3 yn cynnig rhaglen profiad gwaith gyda ‘Boom Cymru’, gwneuthurwyr rhaglenni teledu ar gyfer S4C a BBC Cymru.
“Mae’r cysylltiadau rhwng Coleg y Cymoedd a gweithwyr creadigol proffesiynol yn rhai cadarn iawn. Cawsom siaradwyr gwadd yn rheolaidd o gwmnïau fel BadWolf [cwmni teledu o Gaerdydd sy’n adnabyddus am ei waith ar Doctor Who a His Dark Materials].
“O un o’r gweithdai gawson ni, fe wnes i gysylltiadau, gyda’r wybodaeth bydden nhw’n rhoi gwybod i mi pan fyddai ganddyn nhw gyfnodau profiad gwaith, a thrwy hynny, llwyddais i gael cyfle i gysgodi rhywun, fel gallwn ei ychwanegu at fy CV.”
Mae’r cysylltiadau penigamp sydd gan Ysgol Diwydiannau Creadigol Coleg y Cymoedd gyda’r diwydiant yn hysbys i lawer erbyn hyn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gwahoddwyd yr adran Creu Gwisgoedd i arddangos eu gweithiau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn arddangosfa arbennig ar gyfer Llysgennad Ffrainc, tra bu’r tîm Creu Celfi Ategol yn cynnal wythnos ‘Make!’, sef gweithdai a dosbarthiadau meistr unigryw ar gyfer darpar weithwyr creadigol y sector sgrin oedd yn cynnwys Brian a Wendy Froud (sy’n adnabyddus am eu gwaith ar Star Wars a The Muppets) yn ogystal ag arweinwyr yn y diwydiant, Central Scanning a Mark 3D.
Wrth ymdrin ag elfennau o gynhyrchu, megis golygu ac ysgrifennu sgriptiau, ar y cwrs Cyfryngau Creadigol a Chynhyrchu, canfu Jess ei bod yn ymddiddori’n bennaf yng ngwaith cyfarwyddo/cynhyrchu ar y teledu, a chanolbwyntiodd ei sylw ar wireddu ei breuddwyd i fod yn gyfarwyddwraig/cynhyrchydd.
“Ar ôl fy amser gyda BadWolf, fe wnes i wirfoddoli gyda ‘It’s my Shout’ a gweithio gyda nhw ar eu rhaglenni dogfen 2022/2023 fel Cynorthwyydd Ymchwil a Chynhyrchu.
“I gyd-fynd â hyn i gyd, roeddwn wedi cofrestru gyda ‘Screen Skills HETV Trainee Finder’, sy’n hysbysebu swyddi gweigion i rai am ddilyn y llwybr tuag at fod yn Gynhyrchydd/Gyfarwyddwr. Trwy ‘Screen Skills’ ymrestrais hefyd ar gyfer ‘First Break’, ac rwyf newydd gymryd rhan mewn lleoliad gwaith ar gyfres newydd y BBC, ‘Lost Boys and Fairies’ fel Hyfforddai Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Ym mis Ebrill, cefais wybod fy mod wedi sicrhau prentisiaeth gyda chynllun 19 mis y BBC ar Reoli Cynhyrchu a byddaf yn cychwyn ar hwn ym mis Medi eleni.”
Wrth fyfyrio ar y modd y bu i’w hastudiaethau ddylanwadu ar ei bywyd, dywedodd Jess: “Rhoddodd fy nghwrs coleg sylfaen addysg wych i mi, a thrwy brofiad, rwyf wedi datblygu set o sgiliau creadigol y byddaf yn aml yn troi’n ôl atyn nhw. Byddaf yn mynd â fy ymarfer creadigol o’r coleg i bob swydd y bydda i ynddi.
“Mae’r cwrs wedi rhoi’r hyder i mi ddilyn fy mreuddwydion, ynghyd â’r wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnaf i fentro i’r gweithle. Ond, yn bwysicaf oll, fe roddodd hyder i mi herio fy hun i wneud yn well.
“Byddwn yn bendant yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith teledu. Neidiwch am y cyfle a chadw meddwl agored am unrhyw bosibiliadau, oherwydd dydych chi byth yn gwybod beth sydd i ddod nesaf. Mae’r hyn oedd unwaith yn ddim ond syniad yn fy mhen, i mi wedi troi’n rhywbeth yr hoffwn ei wneud am weddill fy oes.”
I ganfod rhagor am ein cyrsiau Diwydiannau Creadigol, cliciwch yma: Y Celfyddydau Creadigol – Coleg y Cymoedd