Lansio academi genedlaethol i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent rygbi Cymru

Mae Coleg y Cymoedd, coleg yn Ne Cymru, wedi ymuno â Rygbi’r Gynghrair Cymru i lansio academi ddeuol newydd sbon i gefnogi chwaraewyr rygbi proffesiynol gwrywaidd a benywaidd Cymru’r dyfodol.

‘Academi Datblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru’ fydd yr unig academi ddeuol yng Nghymru sydd wedi’i hachredu’n swyddogol gan y Gynghrair Pêl-droed Rygbi.

Bydd yr academi yng Ngholeg y Cymoedd, sy’n ymrwymedig i gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o dalent rygbi’r gynghrair i ddynion a menywod, yn agored i bawb 16-19 oed am y tro cyntaf, waeth beth fo’u rhyw, a bydd yn cynnig llwybr posibl i chwarae yn y Super League ac i chwarae yn rhyngwladol.

Cynlluniwyd yr academi i gynnig addysg lawn amser ochr yn ochr â hyfforddiant proffesiynol. Bydd unigolion yn hyfforddi’n ddyddiol wrth iddynt astudio ar gyfer cymwysterau fel Safon Uwch, BTEC neu gyrsiau galwedigaethol ar yr un pryd. Hefyd, byddant yn chwarae gemau cystadleuol gyda’i gilydd yn wythnosol, gan gymryd rhan yng nghystadlaethau Cynghrair a Chwpan Colegau Prydain.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Rygbi’r Gynghrair Cymru, Gareth Kear: “Rydym wrth ein bodd bod y bartneriaeth rhwng Rygbi’r Gynghrair Cymru a Choleg y Cymoedd wedi ymgymryd â’r broses achredu swyddogol gyda’r Gynghrair Pêl-droed Rygbi, ac rydym bellach wedi ennill Statws Academi Datblygu Ddeuol. Dyma’r unig academi achrediad deuol yng Nghymru sydd â chynllun strategol i adeiladu gêm y dynion a’r menywod. ”

Mae Academi Datblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru, sy’n cynnig addysg ochr yn ochr â hyfforddi dyddiol, yn cael ei harwain gan Mark Jones, rheolwr datblygu cenedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru, a Geraint Kettley – hyfforddwr cryfder a chyflyru lefel 4. Fe’u cynorthwyir gan brif hyfforddwr Tîm Myfyrwyr Cymru Paul Emanuelli, a hyfforddwr cynorthwyol Tîm Dan 19 Cymru, Wayne Ponting.

Mae’r rhaglen, sy’n ceisio datblygu pob chwaraewr i safon ryngwladol, yn canolbwyntio ar feysydd allweddol gan gynnwys Cryfder a Chyflyru, a datblygiad Technegol a Thactegol, ac yn cynnig datblygiad personol i’r athletwyr ifanc.

Dywedodd Mark Jones, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol yr Academi: “Yng Ngholeg y Cymoedd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn bartneriaid swyddogol gyda Rygbi’r Gynghrair Cymru. Mae’r gwaith y mae RGC yn ei wneud gyda’i lwybrau datblygu wedi creu argraff fawr arnom, ac mae’r bartneriaeth hon yn ffit naturiol gan mai Coleg y Cymoedd ar hyn o bryd yw’r unig goleg yng Nghymru sy’n cynnig rhaglen rygbi’r gynghrair lawn amser ochr yn ochr ag addysg i fyfyrwyr.

“Rydym yn awr mewn sefyllfa i gynnig grantiau teithio, cit a phrydau bwyd ac rydym yn darparu llety lleol hefyd (a ariennir gan yr unigolyn) gyda theuluoedd lletyol ar gyfer unrhyw chwaraewyr sy’n byw yn rhy bell i ffwrdd i deithio i’r Academi bob dydd. Hefyd, rydym yn edrych ar bartneriaethau gyda chlybiau Super League, ond nid ydym yn rhoi unrhyw gyfyngiadau o ran y timau y mae’n rhaid i’n chwaraewyr chwarae iddynt yn ystod eu cyfnod yn yr Academi. Os hoffent gynrychioli clybiau sy’n lleol iddynt yn ardal De Cymru, byddwn yn eu helpu i ddod o hyd i glybiau addas i ymuno â nhw.

“Rydym eisoes wedi cael gweld llwyddiant gyda Kieran Lewis, a ddaeth trwy lwybr RGC, yn chwarae i Dîm Cymru Dan 16 oed, Tîm Rygbi’r Gynghrair Coleg y Cymoedd, Tîm Cymru dan 19 oed a Thîm Myfyrwyr Cymru, cyn arwyddo cytundeb proffesiynol gydag Academi Cewri Huddersfield. Rydym yn gwybod bod mwy i ddod. ”

I’r rhai a hoffai fynychu Academi Datblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru, llenwch ffurflen gais ar-lein yn https://www.cymoedd.ac.uk/cy/course/33853/level-3-in-sport-rugby- gynghrair i gadw’ch lle, neu anfonwch e-bost at mark.jones01@cymoedd.ac.uk, neu ffoniwch Mark Jones ar 07886 654933.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau