Lansio Taflen Gymorth yng Ngholeg y Cymoedd

I nodi diwrnod iechyd meddwl y Byd, ymunodd yr aelod cynulliad ar gyfer Cwm Cynon, Vikki Howells AC, a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru â dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ar gyfer lansiad taflen cymorth iechyd meddwl newydd.

Mae taflen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a ddatblygwyd ar y cyd â chyngor gwirfoddol Rhondda Cynon Taf, yn ganllaw ar gyfer cael gafael ar gymorth iechyd meddwl hanfodol 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. Am y tro cyntaf, mae’r daflen syml hon yn darparu’r holl linellau cymorth a gwefannau allweddol i unigolion gael cysylltu â nhw os ydynt yn poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain, neu iechyd meddwl anwyliad.

Mae’r canllaw yn cynnig rhestr o linellau cymorth cenedlaethol ar gyfer pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gan gwmpasu popeth o gefnogaeth ar gyfer gorbryder, straen ac anhwylderau bwyta yn ogystal ag atal hunanladdiad ac ymdopi â phrofedigaeth.

Dewisodd y Gwasanaeth Ambiwlans gynnal y lansiad yng Ngholeg y Cymoedd i gydnabod ymrwymiad y coleg i ofal bugeiliol a chefnogi lles ei fyfyrwyr a’i staff.

Daw wrth i’r coleg gynorthwyo dysgwyr i sefydlu eu grŵp cymorth iechyd meddwl eu hunain, ‘Fi a’m Meddwl’, sy’n ceisio rhoi’r cyfle i ddysgwyr helpu ei gilydd i adeiladu gwytnwch a rhannu strategaethau ar gyfer gwella eu hiechyd meddwl. Cynhelir sesiynau ddwywaith yr wythnos ar gampws Nantgarw y coleg ac maent yn agored i bob dysgwr.

Mae Gemma Iveson, 36, yn un o’r dysgwyr a fu’n ymwneud â sefydlu’r grŵp. Cafodd y dysgwr Gofal, sy’n astudio’r Diploma Mynediad at Addysg Uwch mewn Gofal Iechyd, ei hysbrydoli i greu’r grŵp gan ei bod wedi dioddef problemau iechyd meddwl yn y gorffennol ac roedd hi am helpu pobl eraill sy’n mynd drwy’r un peth.

Fel rhan o’r lansiad, fe wnaeth Gemma, ynghyd â’r dysgwyr Alisha Beckett, 19, ac Ashleigh Williams, 21, siarad â tiwtoriaid a dysgwyr am eu profiadau eu hunain o broblemau iechyd meddwl a phwysleisio pwysigrwydd gwneud y gorau o linellau cymorth a gwasanaethau cymorth.

Meddai Gemma: “Rwyf wedi brwydro gyda fy iechyd meddwl fy hun yn y gorffennol ac roeddwn hyd yn oed wedi ystyried hunanladdiad ar un adeg. Roeddwn i mewn lle tywyll ac rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi penderfynu siarad â rhywun amdano. Fe wnes i alw’r Samariaid ac roedd y cwnsela a’r cyngor a gefais yn help mawr imi drwy gyfnod anodd iawn. Rwy’n annog unrhyw un sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl i gysylltu â gwasanaeth cymorth gan fy mod wedi gweld o lygad y ffynnon faint y gallant helpu.

“Rwy’n credu bod y daflen newydd hon yn syniad gwych a bydd yn helpu llawer o bobl mewn sawl sefyllfa. Byddai taflen fel hon wedi bod o fudd mawr i mi oherwydd, gan fod y wybodaeth ar gael yn rhwydd, byddwn wedi codi’r ffôn i rywun ynghynt. Mae’n fenter wych.

Wrth ymuno â Choleg y Cymoedd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i lansio’r cynllun newydd, dywedodd Vikki Howells AC: “Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn gyfle inni fyfyrio ar yr hyn y gallwn i gyd ei wneud i hybu iechyd meddwl da. Ond gall fod angen cefnogaeth a chyngor ar bobl am eu hiechyd meddwl eu hunain unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn, felly mae’n rhaid i wybodaeth ar ble i droi fod yn hygyrch.

“Roeddwn yn falch o gefnogi lansiad y daflen newydd bwysig hon heddiw a gynhyrchwyd gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy’n seiliedig ar fewnbwn a phrofiadau uniongyrchol defnyddwyr gwasanaethau Cwm Taf.

“Gwnaethpwyd argraff arnaf hefyd o glywed am y ffyrdd y mae Coleg y Cymoedd yn cefnogi ei ddysgwyr i feithrin gwytnwch ac arddel iechyd meddwl da. Bydd y mentrau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghwm Cynon. “

Ychwanegodd Leanne Hawker, QAM, Pennaeth Profiad Cleifion a Chyfranogiad y Gymuned, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Rydym yn falch iawn o allu gweithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd, VAMT ac Interlink ac yn enwedig defnyddwyr gwasanaethau i ddatblygu’r daflen. Rydym yn cydnabod gwerth gwybodaeth am iechyd ac mae gan y daflen y potensial i gael effaith gadarnhaol ar unrhyw un sy’n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl, trwy eu cyfeirio at wasanaethau sydd o fewn eu cyrraedd”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau