Mae cerddor ifanc o Gaerdydd newydd ryddhau ei EP cyntaf ar ei label recordio ei hun ar ôl gorffen ei chwrs coleg ac wrth wneud hynny yn dilyn ei breuddwyd.
Rhyddhaodd Ellie Parris, 19 oed cyn-fyfyrwraig o Goleg y Cymoedd ei record gyntaf ‘Aura’ ar ‘Soundcloud’, iTunes a Spotify. A hithau’n gyn-fyfyrwraig ar gwrs Diploma Estynedig lefel 3 mewn Technoleg Cerddoriaeth, mae Ellie wedi bod yn ysgrifennu, cynhyrchu a hyrwyddo ei chaneuon ei hun gyda’r gobaith o gael ei phig i mewn i’r diwydiant cerddoriaeth.
Rhyddhawyd ‘Aura’, record gyda sain cyfoes R’n’B ar label Ellie ei hun, a fydd yn rhoi hawlfraint ei holl ganeuon iddi wrth iddi sefydlu dilynwyr. Mae’n benderfynol o dorri drwodd i’r brif ffrwd ac mae’n cynllunio i dreulio’r flwyddyn nesaf yn cynnal gigs ac ysgrifennu mwy o ddeunydd. Mae hyd yn oed wedi ffilmio fideo ar gyfer ei chân ‘Fallen Angel’ gan ddefnyddio golygfeydd o gefn gwlad San Ffagan a’r traethau cyfagos yn gefndir.
Dywedodd y cerddor o Gaerdydd na fyddai wedi gallu mentro i gynhyrchu ei label ei hun heblaw am ei chwrs Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg y Cymoedd. Dywedodd Ellie, “Pan gyrhaeddais y coleg, r’on i’n gwybod sut i ganu ond heb unrhyw brofiad o recordio cerddoriaeth. Diolch i fy nhiwtor yn y coleg, dw i’n gallu recordio cerddoriaeth yn fy nghartref.
“R’on i’n teimlo bod y cwrs yn mynd tu hwnt i’w ofynion, a dysgais gymaint o bethau gwerth chweil am y diwydiant cerddoriaeth. Dysgodd fi am ddeddfau trwyddedu a dyna’r rheswm pam wnes i rhyddhau fy albwm ar fy label recordio fy hun sy’n golygu y gallaf barhau i ryddhau cerddoriaeth o dan yr un enw. Fyddwn i ddim yn y sefyllfa hon heblaw am y cwrs.
“Prosiect oedd fy EP lle mynegais fy meddyliau a fy nheimladau dyfnaf. Casgliad o ganeuon sydd ar y record a gyfansoddais gan ddefnyddio bob math o brofiadau da a gwael a’u cyfuno i greu rhywbeth positif.â€
Mae Ellie yn talu teyrnged i’w thiwtor, Rory Meredith, a dreuliodd nifer o flynyddoedd yn y diwydiant cerddoriaeth, fu’n rhannu profiadau go wir gyda’r cerddor ifanc.
Dywedodd Rory, Tiwtor ar y cwrs Technoleg Cerddoriaeth: “Dw i bob amser yn hynod falch o weld cyn fyfyrwyr technoleg cerddoriaeth yn ysgrifennu a chynhyrchu eu cerddoriaeth eu hunain yn y byd go iawn.â€
“Drwy gydol ei hamser gyda ni, roedd Ellie yn frwd a diwyd dros greu eu sain unigryw ei hun, yn datblygu ei harddull ei hun ac mae ei E.P. cyntaf yn destament i’w chred, ei hymroddiad a’i thalent cerddorol. Mae’r dyfodol yn un disglair iddi hi ac rydyn ni gyd yn dymuno pob llwyddiant iddi hi yn y diwydiant.â€
Gallwch wrando ar E.P newydd Ellie Parris, “Aura†ar:
Soundcloud: https://soundcloud.com/ellieparris
Trydar: https://twitter.com/EllieParris
Gwyliwch fideo cerddorol Ellie, ar gyfer Fallen Angel ar: https://www.youtube.com/watch?v=61EiPIeF-Ag